Ydy lawr lwytho yn anghyfreithlon yn lladd y diwydiant cerddoriaeth?

Yn ôl astudiaeth ddiweddar, mae 44% o blant rhwng 12 a 15 blwydd oed yn credu y dylid cyfreithloni lawr lwytho cerddoriaeth a ffilmiau o’r we am ddim.
Mae arbenigwyr yn y diwydiant cerddoriaeth yn dweud os yw pobl yn parhau i lawr lwytho pethau’n anghyfreithlon o’r we, bydd llai o bobl yn prynu CD a cherddoriaeth ar iTunes. Bydd hyn yn gwneud i’r economi gwympo yn ystod blynyddoedd i ddod.
Hefyd, mae’n nhw’n dweud yn y dyfodol, y gall lawr lwytho anghyfreithlon a môr-ladrad digidol achosi i 1.2 miliwn o bobl golli eu swyddi a bydd ein cenedl yn colli £215 biliwn.
