Skip to content
Skip to navigation menu

 

Greenday The Musical

Image Green Day Musical

Mae fersiwn sioe gerdd o American Idiot yn cael ei rhyddhau yn yr hydref yn Berkeley.  Nid oes llawer o fanylion i'w cael eto, ond mae'n debyg y bydd y sioe gerdd yn dilyn cymeriadau'r albwm, er nad oes ganddo blot clir.  Bydd yn cael ei rhyddhau yn nhymor 2009-2010 Berkeley Rep., yn ôl erthygl yn y New York Times.  Mae hyn siwr o fod yn sioc i ffans Green Day oherwydd nad yw punc â sioeau cerdd Broadway yn dueddol o gymysgu.

Bydd y sioe yn gydweithrediad rhwng aelodau'r band – Billie Joe Armstrong (llais/gitâr), Mike Dirnt (llais/bas) a Tré Cool (dryms) – a'r cyfarwyddwr Michael Mayer.  Ennillodd Mayer Tony Award Gold ar gyfer ei sioe gerdd Spring Awakening.  Dywedodd Billie Joe Armstrong nad oedd y gymysgedd o gerddoriaeth Green Day a sioeau cerdd yn gwneud llawer o synnwyr, ond dyna oedd o'n ei hoffi amdano. 

Cafodd yr albwm, American Idiot ei ryddhau gyntaf yn 2004.  Mae'n un o albwms roc mwyaf llwyddiannus y ddegawd hon, ar ôl gwerthu 10 miliwn copi ac ennill Grammy.  Mae albwm newydd Green Day, 21st Century Breakdown ar gael nawr.

1) Beth yw'r sioe gerdd?

2) Pryd a lle fydd hi'n cael ei rhyddhau?

3) Pwy fydd yn gweithio ar y sioe gerdd?

4) Sawl copi o American Idiot gafodd eu gwerthu?

5) Beth yw enw albwm newydd y band?

  •     Geirfa    

    sioe gerdd – musical

    dilyn – follow

    yn dueddol o gymysgu – tend to mix

    synnwyr – sense

    llwyddiannus – successful