The Race for Christmas No.1

Rydym ni i gyd yn gwybod gall Nadolig fod yn amser cynhyrfus, yn enwedig pan mae hi’n ddod i ddewis pwy fydd ar flaen y siartiau.
Bob blwyddyn mae mwy a mwy o gantorion yn cystadlu am y safle uchaf yn y siartiau. Sut bynnag, yn y blynyddoedd diweddarach mae sêr realiti wedi ennill y safle rhif un, gyda chantorion X Factor yn ennill dros y bedair blynedd ddiwethaf. Oherwydd hyn, mae pobl wedi bod yn ceisio dyfalu pwy fydd ar y blaen y Nadolig hwn. Pwy alla hi fod? Jedward? Neu efallai Susan Boyle?
Mae’r lle cyntaf wedi mynd at gantorion digon teilwng yn y gorffennol, gyda Band Aid yn 1984, Queen efo Bohemian Rhapsody yn 1975, a’r Beatles yn ennill pedwar gwaith. Mae’r enillwyr mwyaf lliwgar yn cynnwys Mr Blobby a Bob the Builder. Gyda’r cymysgedd hwn o bobl sydd wedi cyrraedd blaen y siartiau, mae hi’n syniad da i ofyn barn y cyhoedd. Felly – pwy fydd eich rhif un chi y flwyddyn hon?
