Gwobrau'r BRITS yn dathlu eu 30ain penblwydd!

Bydd y sioe yn cymryd lle ar y 16eg o Chwefror yn yr Earl’s Court Arena yn Llundain. Hon fydd yr 30ain sioe a bydd yn rhoi cyfle i’r cynulleidfa i fwynhau’r canwyr gorau ym Mhrydain.
Roedd y bleidlais wedi mynd ymlaen ar yr 18fed o Ionawr yn yr Indig02 yn Llundain, lle roedden nhw wedi dadorchuddio’r cystadleuwyr ym mhob dosbarth.
Cafodd y rhai a enwebwyd eu pleidleisio fel y canwyr gorau ym Mhrydain, ac ar lefel ryngwladol yn y grwpiau canlynol:
- Cantores unigol
- Canwr unigol
- Act newydd
- Grŵp
Mae yna hefyd bleidlais ychwanegol am albwm gorau'r 30 blwyddyn ddiwethaf.
Dylai’r sioe fod yn wych, a bydd hi’n cael ei ffilmio yn fyw ar ITV2. Mae cadeirydd y BRITS, Ged Doherty, yn dweud eu bod nhw’n cynllunio digwyddiad mawr a fydd yn dathlu’n wir pen-blwydd y sioe. Mae’r BRITS yn un o’r dathliadau mwyaf y byd ac yn cael ei wylio gan bobl ar draws y byd!
Cewch hwyl yn gwylio!
