X-Men Origins: Wolverine

Mae X-Men Origins: Wolverine yn ffilm archarwr wedi ei selio ar gymeriad Wolverine o'r comic X-Men gan Marvel Comics. Cafodd y ffilm ei rhyddhau ddechrau mis Mai. Hugh Jackman fydd yn actio Wolverine unwaith eto, â Gavin Hood fydd yn cyfarwyddo. Rhaghanes i'r drioleg X-Men fydd y ffilm hon, yn cymryd lle tua deg blynedd cyn y ffilm gyntaf.
Yn amlwg, mae'r ffilm yn canolbwyntio ar Wolverine. Bydd yn edrych ar ei gefndir, a sut iddo droi mewn i Wolverine, gyda Tîm X yn bondio ei sgerbwd â adamantiwm, metal sy'n amhosibl i'w ddinistrio. Byddwn hefyd yn gweld sut i Wolverine gwrdd â Colonel William Stryker (Danny Huston), sut mae'n dod ymlaen â 'mutants' eraill, a'r berthynas anodd rhwng Wolverine a'i hannar brawd, Victor Creed (Liev Schreiber).
