Mae Carl Fredricksen yn hedfan hanner ffordd ar draws y byd yn y ffilm ‘Up’

Cafodd y ffilm hon ei rhyddhau ym mis Medi, llynedd, a bydd yn cael ei rhyddhau ar DVD ym mis Chwefror.
Mae’r ffilm yn dilyn bywyd Carl Fredricksen, dyn saith deg wyth mlwydd oed, sy’n clymu miloedd o falwnau i’w dŷ ar ôl i’w wraig farw. Ei fwriad ydy hedfan dros Dde America i weld yr anialwch. Ar ôl iddo hedfan i ffwrdd yn ei dŷ, sylweddolodd bod rhywun arall wedi dod gydag ef.
Roedd Russell, fforiwr anialwch, saith deg mlynedd yn ifancach na Carl, wedi dringo ar y tŷ cyn iddo hedfan i ffwrdd fel balŵn aer twym.
Maen nhw’n teithio gyda’i gilydd ac yn fforio sawl lle, ond yn ystod y daith maen nhw’n wynebu sawl rhwystr. Mae’n bosibl i weld y ffilm hon mewn sinemâu dros y byd, hyd yn oed yn 3D! Mae hi’n ddoniol, yn llawn sbri ac yn addas i bawb, hyd yn oed oedolion.
