Skip to content
Skip to navigation menu

 

The Twilight Saga - New Moon

Image for Week 1 Twilight New Moon Article

Wedi ei chyfarwyddo gan Catherine Hardwicke a’i seilio ar y nofel gan Stephanie Meyer, mae ‘Twilight’ yn ffilm ramantaidd a ffantasi wedi ei ffilmio yn Washington ac Oregon yn 2008.

Yn y stori, mae Bella Swan (Kristin Stewart), 17 mlwydd oed, yn symud i Forks ac yn darganfod bod ei ffrind, Edward Cullen, yn sugnwr gwaed. Mae’r ddau yn cwympo mewn cariad ac mae Edward yn cyflwyno Bella i’w deulu. Mae Edward a’i deulu yn peryglu eu bywydau i ddiogelu Bella o’r tri sugnwr gwaed arall; James, Victoria a Laurent.

Yn dilyn llwyddiant y ffilm, mae New Moon wedi cael ei seilio ar y nofel gan Stephanie Meyer. Cafodd ei chyfarwyddo gan Chris Weitz ac mae’r ffilm yn ddilyniant i’r ffilm Twilight o 2008.

Cafodd y ffilm ei rhyddhau mewn sawl gwlad wahanol ar Dachwedd yr ugeinfed, 2009. Roedd hi’n llwyddiannus iawn o’r cychwyn.

Ewch i brynu tocynnau nawr. Mae pawb ym mhob man yn sôn am ‘New Moon’.

1) Pwy ydy’r actores sy’n chwarae Bella yn y ffilmiau?
2) Pwy yw awdur y llyfrau Twilight?
3) Pan gafodd New Moon ei rhyddhau ym Mhrydain?
4) A ydych chi’n hoffi’r ffilmiau Twilight? Pam?

  •      Geirfa