Slumdog Millionaire

Mae’n siwr erbyn hyn i chi glywed am Slumdog Millionare ers iddi gael ei rhyddhau dechrau mis Ionawr. Mae’r ffilm wedi ennill 5 gwobr ‘Critics Choice’, 4 ‘Golden Globe’, 7 gwobr BAFTA, gan gynnwys ‘Y Ffilm Orau’. Mae hi hefyd wedi cael ei enwebu ar gyfer deg Oscar.
Ffilm brydeinig yw hi, wedi ei selio ar nofel Vikas Swarup, Q&A, gyda Simon Beaufoy yn ysgrifennu’r sgript. Danny Boyle (Trainspotting) a Lovleen Tandan oedd yn cyfarwyddo. Dev Patel o Skins oedd yn actio’r prif gymeriad, Jamal.
Mae’r stori’n gymysgedd o ddrama, trosedd a rhamant. Mae Jamal yn mynd ar y rhaglen deledu ‘Who Wants To Be A Millionare’ ac yn cael ei gyhuddo o dwyllo. Mae’n cael ei arestio, ac wrth iddo esbonio ei stori i’r heddlu cawn straeon o’i blentyndod yn slums Mumbai, sy’n esbonio sut iddo wybod yr atebion.
