Monsters Vs Aliens

Dyma ffilm newydd gan DreamWorks Animation. Ar ddiwrnod ei phriodas, mae merch o California, Susan Murphy, yn cael ei tharo gan feteor sy’n llawn o lysnafedd y gofod. Mae hi’n tyfu i fod yn 49 troedfedd 11 modfedd o daldra ac mae nhw’n ei ailenwi’n ‘Ginormica’. Mae hi’n cael ei dal gan y fyddin a’i charcharu mewn carchar cyfrinachol y llywodraeth. Mae yna anghenfilod eraill yn y carchar hefyd; Dr Cockroach, PhD, sydd â phen chwilen ddu, The Missing Link, sy’n hanner epa a hanner pysgodyn, B.O.B. sy’n amhosib i’w ddinistrio, a Insectosaurus, sy’n lindys 350 troedfedd o hyd.
Pan mae robot aliwn yn glanio yn America ac yn dechrau ymosod ar y byd. Mae’r Arlywydd yn cael ei berswadio i ryddhau’r anghenfilod ac i’w defnyddio i gwffio’r aliwn.
Mae’r ffilm yn cyfuno natur hiraethus B movies, technoleg o’r dyfodol a antur animeiddiedig 3D, sy’n berffaith ar gyfer ei weld gyda’r teulu. Mae hi’n stori draddodiadol am arwr wedi ei dweud mewn ffordd fodern.
Conrad Vernon, cyfarwyddwr Shrek 2, a Rob Letterman o Shark’s Tale sydd wrth helm y ffilm hon. Mae lleisiau enwog iawn yn cael eu defnyddio, fel Reese Witherspoon, Will Arnett, Hugh Laurie a Seth Rogen.
Bydd y ffilm yn cael ei rhyddhau ar y 27ain o Fawrth.
