Sut i hyfforddi eich draig

Mae ‘Sut i hyfforddi eich draig’ yn ffilm ffantasi sydd wedi cael ei gwneud gan animeiddiad cyfrifiadurol Dream-Works. Mae’r stori yn cymryd lle mewn byd mytholegol Llychlynnaidd ac mae Llychlynnwr ifanc o’r enw ‘Hickup’ (llais Jay Baruchel) yn penderfynu dilyn traddodiad ei lwyth i fod yn lladdwr dreigiau.
Mae’r stori yn cael ei seilio mewn tref bysgota Lychlynnaidd ble mae’r bobl leol yn siarad gydag acen Albanaidd ryfedd!
Ar ôl iddo ddal ei ddraig gyntaf, a gyda siawns o gael ei dderbyn gan ei lwyth, mae’n sylweddoli nad ydy e am ladd y ddraig. Mae’r bachgen eisio bod yn ffrindiau gydag ef.
Mae’r ffilm wedi cael ei saethu mewn 3-D, ac mae jôcs da yn y ffilm i gyd. Bydd y ffilm yn cael ei rhyddhau ar y 26ain o Fawrth ac mae wedi cael sawl adolygiad da.
