The Other Boleyn Girl

Mae’r ffilm newydd hwn wedi addasu o nofel o’r un enw gan yrawdures Brydeinig Philippa Gregory. Mae’n rhoi hanes bywyd Mary Boleyn, chwaer y frenhines Anne Boleyn, a oedd ar un adeg mewn perthynas gyda Harri’r 8fed, brenin Lloegr. Mae cast gwych gan y ffilm, gan gynnwys Natalie Portman fel Anne Boleyn, Scarlett Johansson fel Mary Boleyn ac Eric Bana fel Harri’r 8fed.
Mae Mary ac Anne, dwy chwaer brydferth yn Lloegr yn ystod amser y Tuduriaid, yn cystadlu yn erbyn ei gilydd er mwyn denu sylw Harri. Mae eu tad, Syr Thomas Boleyn, yn uchelgeisiol ac eisiau i’r brenin briodi ei ferch hynaf Anne, ond dyw’r cynllun ddim yn gweithio. Yn lle, mae Harri’n syrthio mewn cariad gyda Mary, er ei bod hi’n briod yn barod. Mae Harri’n priodi Anne ond mae Mary’n mynd i fyw yn y palas gyda nhw, ac mae’r ddau yn cael perthynas gyfrinachol.
Mae pawb yn gwybod na fydd diweddglo hapus i’r stori hwn, ond bydd rhaid gwylio’r ffilm i ddarganfod beth yn union sy’n digwydd.
