Alice in Wonderland

Mae Alice in Wonderland yn ffilm ffantasi ac antur, gyda Tim Burton fel y cyfarwyddwr.
Mae’n dilyn llyfrau Lewis Carroll; Alice's Adventures in Wonderland a Through the Looking-Glass. Mae Mia Wasikowska yn chwarae rôl Alice, gyda Johnny Depp fel yr Hetiwr Gwallgof a Helena Bonham Carter yn chwarae’r Frenhines Goch.
Yn ei pharti, mae Alice Kingsleigh, sydd nawr yn 19 mlwydd oed, yn gweld cwningen wen yn gwisgo watsh boced a gwasgod. Mae hi’n rhedeg ar ei ôl ac yn dod i Wonderland.
Roedd hi wedi mynd i Wonderland unwaith ond dydy hi ddim yn cofio. Mae hi’n uno gyda ffrindiau ei phlentyndod, fel yr Hetiwr Gwallgof. Wedyn mae Alice yn ceisio achub ei ffrindiau rhag y Frenhines Goch.
Bydd y ffilm yn dod mas i’r sinemâu ar y 5ed o Fawrth 2010.
