The Curious Case of Benjamin Button

“Cefais fy ngeni mewn amgylchiadau anghygoel” – dyma sut y mae stori Benjamin Button yn dechrau.
Cafodd ei haddasu o nofel fer gan F. Scott Fitzgerald. Mae Benjamin yn cael ei eni yn ei 80au ac yn heneiddio am yn ôl. Rydym yn dilyn ei hanes o New Orleans, ym 1918, i’r unfed ganrif ar hugain. Mae’n syrthio mewn cariad â merch o’r un pentref bach, sef Daisy. Wrth i Daisy heneiddio mae Benjamin yn mynd yn iau. Er bod y ffilm yn dilyn holl fywyd Benjamin, mae’n canolbwyntio ar ei berthynas â Daisy.
David Fincher sy’n cyfarwyddo’r ffilm. Brad Pitt sy’n chwarae Benjamin, a Cate Blanchett sy’n chwarae Daisy. Mae Taraji P. Henson, Tilda Swinton, Jason Flemyng, Elias Koreas a Julia Ormond hefyd yn ymddangos yn y ffilm.
Mae’r ffilm yn adrodd stori fawreddog a swynol. Mae’n sôn am yr holl bobl a’r llefydd y mae Benjamin yn eu darganfod ar ei siwrnau. Mae’n sôn am hapusrwydd bywyd a thristwch marwolaeth.
Bydd y ffilm yn cael eirhyddhau y Nadolig hwn, ac mae hi’n siwr o fod yn ‘hit’ mawr. Efallai y bydd Brad Pitt a Cate Blanchett yn ennill Oscar am eu perfformiadau yn y ffilm.
