Barack Obama

Ganwyd Barack Obama ar y pedwerydd o Awst 1961 yn Honolulu, Hawaii. Aeth e i ysgol yn Indonesia tan oedd e’n 10 mlwydd oed pan dychwelodd i Honolulu i fyw gyda’i famgu a thadcu mamol. Yn anffodus, bu farw ei fam o gancr wyfaol yn 1995.
Ar ol graddio o ysgol uwchradd, symudodd Obama i Los Angeles, lle astudiodd yng ‘Ngholeg Occidental’ am ddwy flynedd. Wedyn, trosglwyddodd i Brifysgol Columbia yn Efrog Newydd. Astudiodd e Gwyddioniaeth Gwleidyddol.
Yng nghanol 1988, trafeilodd am y dro gyntaf i Ewrop am dair wythnos, a wedyn am bump wythnos yn Kenya, lle cwrddodd a’r rhan fwyaf o’i berthnasau tadol am y dro cyntaf yn ei fywyd.
Aeth Obama i Ysgol y Gyfraith Harvard yn 1988. Ar ddiwedd ei flwyddyn gyntaf, dewiswyd i weithio fel golygydd yr Harvard Law Review. Ym mis Chwefror, yn ei ail flwyddyn, etholiwyd Obama fel llywydd y Law Review. Obama oedd y person cyntaf gyda chroen ddu i gael ei etholi fel golygydd y cylchgrawn. Ar ol ei addysg, gweithiodd fel athro coleg ym Mrifysgol Chicago yn dysgu’r Gyfraith Cyfansoddiadol am 12 mlynedd.
Eleni, ar y pedwerydd o Dachwedd enillodd Barack Obama yr etholiad cyffredinol yn America. Obama yw’r llywydd cyntaf gyda chroen ddu ac yn ei araith o fuddigoliaeth, dywedodd bod “newid wedi dod i America”.
Mae hi’n priodi i Michelle a mae ganddyn nhw dau blentyn o’r enwau Malia Ann a Sasha.
