Skip to content
Skip to navigation menu

 

Andy Murray

andy murray picture

Ganwyd Andy Murray yn Dunblane yn yr Alban ar Fai 15, 1987. Mae’i ffrindiau yn ei galw fe’n ‘Muzcat’. Dechreuodd chwarae tennis pan oedd e’n 3 mlwydd oed gyda’i fam o’r enw Judy yn Clwb Chwaraeon Dunblane. Wedyn, dechreuodd chwarae’n professiynol pan oedd e’n 17 mlwydd oed.

Ar hyn o bryd, Andy Murray yw’r chwaraewr gorau ym Mhrydain a rhif pedwar yn y byd, ar ol Nadal sef rhif un, a wedyn Federer a Dojokovic. Ym mis Rhagfyr yn 2005, enillodd wobr y ‘BBC Sports Personality of the Year’.

Mae Murray yn fwy llwyddiannus ar don gyflym, fel gwellt a mae fe’n gweithio gyda thim o arbenigwyr ffitrwydd. Ar y foment, ei brif hyfforddwr yw Miles Maclagan.

Ar y cyfan, mae 2008 wedi bod yn blwyddyn llwyddiannus iawn i Murray, achos mae fe wedi curo nifer o chwaraewyr enwog ac yn mynd trwy i’r rownd terfynol yn yr cystadleuaeth ‘Agored US’.

1) Pryd dechreuodd Murray chwarae tennis?

2) Pryd decreuodd e chwarae tennis yn professiynol?

3) Pwy yw'r chwaraewr gorau yn y byd?

4) Pwy yw ei brif hyfforddwr?

  •     Geirfa    

    yr Alban – Scotland

    Dechreuodd – He started

    Ar hyn o bryd – At the moment

    Chwaraewr – player

    ym Mhrydain – In Britain

    wobr – award

    llwyddiannus – successful

    don gyflym – fast surface

    gwellt – grass

    arbenigwyr ffitrwydd – fitness experts

    hyfforddwr – coach

    Ar y cyfan – On the whole

    curo – to beat

    terfynol – final

    ‘Agored US’ – ‘US Open’

Related Resources