Bydd Cynhadledd Newyddiaduraeth Gymunedol Prifysgol Caerdydd yn edrych ar y syniadau, yr ymchwil a’r profiad ymarferol diweddaraf ym maes newyddiaduraeth hyperleol a chymunedol, sy’n faes sy’n datblygu’n gyflym iawn, gan ystyried y potensial i gynnwys a grymuso cymunedau drwy ddefnyddio technolegau digidol a rhwydweithiau cymdeithasol mewn ffyrdd arloesol, rhad a chynaliadwy. English
Newyddiaduraeth Gymunedol
Mae newyddiaduraeth leol a chymunedol draddodiadol yn cael ei gweddnewid gan dechnolegau digidol a newidiadau ym mhatrymau defnyddio a dosbarthu’r cyfryngau.
Mewn rhai achosion mae cymunedau wedi cael eu gadael heb newyddon a gwybodaeth annibynnol a heb le cyffredin i greu cydlynedd a chyd-ddeall. Mae hyn yn codi her ddifrifol ar gyfer newyddiaduraeth annibynnol a chynnal cymunedau democrataidd iach, ymroddgar a chydlynol.
Dyfodol y Newyddion
Ar yr un pryd – yn y Deyrnas Unedig, Ewrop a’r Unol Daleithiau – rydyn ni’n gweld mentrau newydd ac arloesol yn dod i’r amlwg mewn newyddiaduraeth gymunedol a lleol, a’r rheiny wedi’u creu gan y bobl leol ac i’r bobl leol. Fel yn achos pob sector sy’n datblygu, mae’r potensial a’r problemau yn dod yn fwy amlwg, ynghyd â ffyrdd newydd i weithio a mathau newydd o gynaliadwyedd.
Dysgu byd-eang: effaith leol
Mae’r gynhadledd yn dod â rhai o feddylwyr ac academyddion mwyaf blaenllaw’r byd at ei gilydd gyda newyddiadurwyr, arloeswyr a gwneuthurwyr polisïau hyperleol er mwyn ystyried y dystiolaeth sy’n dechrau dod i’r amlwg ac edrych ar ffyrdd effeithiol i ddatblygu canolfannau newyddion cymunedol.
Bydd y gynhadledd hefyd yn dechrau adeiladu rhwydwaith bywiog o ganolfannau newyddion cymunedol, gan lansio Canolfan Newyddiaduraeth Gymunedol Prifysgol Caerdydd.
Cofrestru a’r Lleoliad
Cynhelir y gynhadledd yn Ysgol Newyddiaduraeth, y Cyfryngau ac Astudiaethau Diwylliannol Prifysgol Caerdydd yn Adeilad Bute, Parc Cathays. CF10 3NB
Cost y gynhadledd yw £95 yr un a darperir cinio a lluniaeth.
Gwahoddir ymarferwyr newyddion cymunedol i wneud cais am ddod i’r gynhadledd am ffi ostyngedig o £40.
Booking is now closed
Pwy ddylai ddod i’r gynhadledd?
Bydd y gynhadledd o ddiddordeb i ymarferwyr, penderfynwyr, ffurfwyr barn, academyddion a galluogwyr, gan gynnwys:
- y rhai sy’n gweithio yn y cyfryngau ac sydd â diddordeb mewn llunio dyfodol newyddiaduraeth gymunedol a lleol
- academyddion, gwneuthurwyr polisi, gweithwyr cymunedol a gweithredwyr
- newyddiadurwyr cymunedol a lleol sy’n arwain neu’n cynllunio mentrau
- cyrff cyllido a chwmnïau masnachol yn y cyfryngau cymdeithasol
Bydd y gynhadledd yn hoelio sylw ar rannu’r ymchwil ddiweddaraf mewn newyddiaduraeth hyperleol; dod o hyd i’r galluogwyr allweddol a’r ffactorau sy’n effeithio ar lwyddiant neu fethiant; a chychwyn rhwydwaith o newyddiadurwyr hyperleol a chymunedol yng Nghymru.
Bydd hefyd yn codi proffil newyddiaduraeth gymunedol a lleol ac yn ystyried y potensial i bartneriaethau a chymorth polisi sicrhau deilliannau ar ran cymunedau.
Bydd siaradwyr y gynhadledd a chyflwynwyr y gweithdai yn rhannu gwybodaeth ymarferol hanfodol ynghylch dulliau digidol, y gyfraith a moeseg.
Mae’r siaradwyr yn y Gynhadledd yn cynnwys:
- Leighton Andrews AM, (@LeightonAndrews) Minister for Education and Skills
- Jan Schaffer, Executive Director of the Institute for Interactive Journalism, Washington D.C.
- Damian Radcliffe, author of the first review of the UK's hyper local sector
- Solana Larsen, (@solanasaurus) Managing Editor of Global Voices Online, an award winning worldwide network of bloggers
- Simon Milner (Director of Policy at Facebook UK)
- Prof Richard Sambrook, (@Sambrook) Director of Cardiff University’s Centre for Journalism
- Prof Ian Hargreaves, Professor of Digital Economy at Cardiff University
- John Kingsbury, Programme Director, Creative Economy, NESTA
- Cyfranwyr
Dewiswch dri gweithdy i ddod iddyn nhw
Bydd cyfle i’r cynadleddwyr fynd i dri o’r gweithdai a ganlyn, i’w dewis ymlaen llaw:
1. Sut i sefydlu llwyfannau hyperleol, gwefannau agored a defnyddio aml-lwyfannau
2. Defnyddio’r cyfryngau cymdeithasol i gasglu newyddion a chreu cynulleidfa
Using social media is sponsored by NUJ Training Wales
3. Y gyfraith, moeseg ac achredu mewn oes ddigidol
6. Rhoi Gallu a Grym i Gymunedau
7. Adeiladu rhwydwaith yng Nghymru
8. Ffactorau allweddol wrth sicrhau llwyddiant canolfannau newyddion
Cysylltwch â’r Gynhadledd
Cysylltwch â Sara Moseley i gael manylion y siaradwyr ac i holi am gynnwys y gynhadledd.
MoseleyS@cardiff.ac.uk ¦ 029 208 76843
Cysylltwch ag Emma Meese i gael manylion y sesiynau ac i holi am y cynnwys.
MeeseE@cardiff.ac.uk ¦ 029 208 70101
Cysylltwch â Deb Lloyd i gael amserau’r sesiynau ac i holi am archebu lleoedd.
LloydDL@cardiff.ac.uk ¦ 029 208 74509
