Skip to content
Skip to navigation menu

 

Baledi Er Clod i'r 'Cyw Cloff o Fryncethin'

gan Dr E. Wyn James
Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Caerdydd

Cyhoeddwyd gyntaf yn Canu Gwerin, 15 (1992), tt. 3-29. ISSN 0967-0599.

Ymhelaethiad ar sgwrs a roddwyd i Gylch Llyfryddol Caerdydd, 20 Mawrth 1992.

Hawlfraint © E. Wyn James, 1992, 2006

 

Petaech yn gofyn i unrhyw Gymro neu Gymraes enwi rhedwr Cymreig, yr ateb cyntaf a gaech yn ddiau fyddai Guto Nyth-brân o blwyf Llanwynno — neu Griffith Morgan (1700-37), a rhoi iddo ei enw ‘swyddogol’. Un o hen blwyfi mawr Blaenau Morgannwg yw Llanwynno, yn ymestyn yn wreiddiol o ardal Aberpennar yn y gogledd hyd at Bontypridd yn y de, ac o afonydd Taf a Chynon yn y dwyrain hyd at afon Rhondda Fach yn y gorllewin. Fel yr awgryma ei enw, cartref Guto oedd ffermdy Nyth-brân yn ne-orllewin y plwyf, ar y llethrau uwchlaw’r Porth a Threhafod yng Nghwm Rhondda. ‘Y mae’r mymrym o ffeithiau a wyddys amdano’, meddai R. T. Jenkins yn ei erthygl ar Guto yn Y Bywgraffiadur Cymreig, ‘i’w weld yn y llyfr diddan Plwy Llanwynno, gan "Glanffrwd"...a chyda’r ffeithiau gryn swm o chwedloniaeth y fro ynghylch Guto.’

Y mae’r hanesion yn llyfr Glanffrwd am gampau rhedeg Guto yn rhai pur gyfarwydd, megis yr un amdano’n cychwyn am Aberdâr i brynu burum wrth i’w fam osod y tegell ar y tân i ddechrau paratoi brecwast ac yn cyrraedd yn ôl erbyn bod brecwast yn barod. Ond yr enwocaf yn ddi-os yw stori ei ras fawr ddeuddeg-milltir, o Gasnewydd i Eglwys y Bedwas ger Caerffili, yn erbyn Sais o’r enw Prince. Aeth Prince ar y blaen yn fuan ar ddechrau’r ras, a Guto’n aros ar ôl ac yn sefyll i siarad â rhywrai ar y ffordd nes bod Prince ymhell ar y blaen ac wedi mynd allan o’r golwg. Ond yna, meddai Glanffrwd, i ffwrdd â Guto

fel yr hydd dros ddôl, ac fel y gwelid ei fod yn ennill tir, cynddeiriogai ei wrthwynebwyr, a thaflent wydr ar hyd y ffordd i dreio torri ei draed a pheri iddo lithro, ond neidiai yntau dros lathenni o dir a dihangai fel yr ewig, a phan oedd yn myned i fyny i riw led serth tuag Eglwys y Bedwas goddiweddodd Guto Prince, ac aeth heibio wedi gofyn iddo a fedrai ef ddim dyfod dipyn yn gynt...a chyrhaeddodd ben y deuddeg milltir, saith munud o dan yr awr (Llanwynno Glanffrwd, gol. Henry Lewis, Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru, 1949, t. 107).

‘Yr oedd cannoedd lawer o bunnoedd wedi cael eu betio ar y rhedegfa,’ meddai Glanffrwd, a neb wedi betio’n fwy na ‘chyfeilles orau’ Guto, Siân o’r Siop, a oedd (fe ddywedir) wedi anturio ‘llond ei harffedog o aur ar draed Guto’. Cymaint oedd ei llawenydd ei fod wedi ennill fel y rhedodd at Guto gan weiddi ‘Guto Nyth-brân am byth, Well done, Guto!’ a rhoi clap cryf ar ei gefn, ‘heb ystyried ei fod wedi rhedeg yn galed, a bod ei galon yn curo yn gyflym mewn canlyniad i’w ymdrech. Yr oedd y clap yn rhy drwm,’ meddai Glanffrwd, ‘neidiodd ei galon o’i lle, a therfynodd Guto nid yn unig redegfa o ddeuddeg milltir, ond rhedegfa ei fywyd yn y byd hwn.’ Y mae ei fedd i’w weld hyd heddiw ym mynwent Llanwynno.

Adrodd hanes ras olaf Guto a wna I. D. Hooson yn ei faled adnabyddus ‘Guto Nyth Brân’, a hynny’n briodol iawn ar fesur triban Morgannwg — er y dylid nodi nad y ras yn erbyn Prince fel y’i ceir gan Glanffrwd yw’r hanes a adroddir gan I. D. Hooson, ond yn hytrach ras ‘bron wddf am wddf’ rhwng Guto a ‘march a’i farchog’. (Manylir ar grefft y faled hon gan Dafydd Owen yn ei gyfrol I Fyd y Faled, Dinbych: Gwasg Gee, 1986, tt. 273-5.)

I. D. Hooson yw un o awduron amlycaf y faled ‘lenyddol’ ddiweddar yn y Gymraeg. Gwrandewch, er enghraifft, ar y ganmoliaeth hael a rydd Cynan — baledwr amlwg arall — i Hooson wrth drafod y faled ddiweddar yn ei feirniadaeth ar gystadleuaeth y faled yn Eisteddfod Genedlaethol y Bala, 1967:

Fe ddisgyn [y faled Gymraeg heddiw], er nad yn uniongyrchol, o’r hen, hen faledi gwerin Saesneg a fyddai’n adrodd stori gyffrous ar un neu ragor o’r tair thema fawr — serch, rhyfel ac angau... Fel cynnyrch barddol y [mae’r baledi Saesneg hyn] yn gwbwl amhersonol eu harddull, ac ar hynny y saif llawer o’u swyn fel canu gwerin. Hawdd iawn ydyw adnabod nodweddion cyffredinol yr arddull honno — ei dull o ddisgyn fel hebog ar ddigwyddiad yn y stori heb unrhyw ragymadroddi, ei hoywder di-wastraff wrth gyflwyno’r stori, symlrwydd uniongyrch ei geirfa, ei defnydd o ansoddeiriau confensiynol, a’i mynych ailadrodd effeithiol ar air neu ymadrodd. ’Doedd ryfedd yn y byd i hen faledi fel ‘Chevy Chase’ a ‘Barbara Allen’ a ‘The Wife of Usher’s Well’ a ‘Sir Patrick Spens’, ym mhen canrifoedd ar ôl eu llunio mor uniongyrch o naïf, adael eu dylanwad hyfryd ar ramantwyr barddoniaeth Lloegr, ac yn arbennig felly Keats; a Coleridge a Wordsworth hwythau yn eu Lyrical Ballads. Aethant ati i geisio llunio cerddi eu hunain ar batrwm swynol yr hen faledi, ac fe’u hefelychwyd gan feirdd fel Scott, Tennyson, William Morris, Kipling a Masefield...Y baledi Saesneg diweddarach hyn, gyda’u crefftwaith ymwybodol a’u hartistri barddonol dewisol a chaboledig, a osododd batrymau i’r faled Gymraeg gyfoes; diolch i’r ddawn fawr a roed i arloeswr fel I. D. Hooson. Er bod beirdd eraill o’n cenhedlaeth ni wedi canu rhai baledi Cymraeg rhagorol, ni chanodd neb arall gynifer o rai mor safonol a chrefftus. Ynddo ef fe gyfunwyd yn hapus dros ben y storïwr, y bardd, a’r mydryddwr, ac ni allaf roddi gwell cyngor i brentisiaid o faledwyr eisteddfodol nag iddynt astudio’n ofalus grefftwaith glân a chaboledig yr artist cydwybodol hwn.

Yn yr un feirniadaeth, sonia Cynan hefyd am faledi pen-ffair y bedwaredd ganrif ar bymtheg, baledi eithaf gwahanol i faledi caboledig I. D. Hooson a’i debyg. Y maent yn gynhyrchion llawer mwy amrwd ac yn bur rigymllyd eu harddull, heb yr ‘ymgais artistig’ a’r ‘crefftwaith gofalus ac ymwybodol’ (chwedl Cynan) a berthyn i’r faled lenyddol ddiweddar. Ond er nad yw baledi Cymraeg y bedwaredd ganrif ar bymtheg yn ‘farddoniaeth fawr’, y maent yn dra diddorol, ac yn ddrych pwysig o gymdeithas y cyfnod, ei chwaeth a’i safonau a’i diddordebau.

Yn y ddeunawfed ganrif, daeth y gair ‘baled’ i olygu gan amlaf bamffledyn yn cynnwys dwy neu dair, ac weithiau mwy, o gerddi rhydd. Teitlau’r pamffledi hyn, fel arfer, yw Dwy o Gerddi Newyddion...neu Tair o Gerddi Newyddion..., neu, bob hyn a hyn, rywbeth ychydig yn fwy gwreiddiol, megis Dwy o Gerddi Dewisol...neu Dwy o Gerddi Tra Rhagorol...Ond weithiau fe geir y gair ‘balad’ yn nheitl y pamffled: Balad yn cynnwys dwy o gerddi duwiol..., Balad newydd tra diddanol, yn cynnwys tair o gerddi rhagorol..., ac yn y blaen. Pamffledi o wyth tudalen oedd y ‘baledi’ hyn, fel arfer.

Erbyn y bedwaredd ganrif ar bymtheg, yr oedd y pamffledi wyth-ochr hyn wedi ildio eu lle i daflenni bach pedair-ochr, yn cynnwys un neu ddwy o gerddi fel arfer. Ac felly wrth sôn am faledi’r bedwaredd ganrif ar bymtheg yr hyn a olygir gan amlaf yw taflenni bach pedair-ochr yn cynnwys cerdd neu gerddi yn y mesurau rhydd, a’r rheini at ei gilydd yn gerddi dipyn llai cywrain na baledi’r ddeunawfed ganrif.

Argraffwyd cannoedd lawer o’r taflenni baledi hyn yn ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Yn ei lyfryddiaeth o faledi’r ddeunawfed ganrif, rhestra J. H. Davies ychydig dros 750 o eitemau, a’r rheini wedi’u hargraffu mewn 16 o drefi — pedair ar y Gororau, pedair yn ne Cymru a’r gweddill yn y Gogledd, a dim un ym Morgannwg. Y mae Tegwyn Jones wrthi ar hyn o bryd yn paratoi llyfryddiaeth o faledi’r bedwaredd ganrif ar bymtheg [h.y. yn 1992; y mae’r llyfryddiaeth ar gael bellach yn electronig ar wefan Llyfrgell Genedlaethol Cymru]. Y mae wedi crynhoi rhwng wyth a deng mil o slipiau yn rhestru eitemau baledol, yn cynrychioli 359 o argraffwyr gwahanol mewn 96 o fannau argraffu. O’r rhain y mannau pwysicaf yw Merthyr Tudful, Abertawe, Aberdâr, Aberystwyth, Caernarfon a Chaerfyrddin — ac y mae tair o’r chwe thref hynny ym Morgannwg.

Nid yw’n anodd esbonio paham y symudodd canolbwynt daearyddol y faled Gymraeg mewn ffordd mor drawiadol. Y mae’n adlewyrchu’r newidiadau aruthrol ym Morgannwg a ddaeth yn sgil y twf diwydiannol enfawr a ddechreuasai yno erbyn diwedd y ddeunawfed ganrif ac a drawsnewidiodd gymoedd y De mor llwyr yn ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Yn y ddeunawfed ganrif, gwlad amaethyddol dlawd, denau ei phoblogaeth oedd Cymru. Ar ddechrau’r bedwaredd ganrif ar bymtheg, ychydig dros hanner miliwn oedd cyfanswm ei phoblogaeth, a’r boblogaeth honno wedi’i gwasgaru’n bur gyfartal ar hyd a lled y wlad, gyda rhyw 20% yn byw ym Morgannwg a Gwent. Erbyn dechrau’r ugeinfed ganrif, yr oedd poblogaeth Cymru tua dwy filiwn a hanner, a thua 60% o’r rheini yn byw ym Morgannwg a Gwent.

Oherwydd twf y diwydiant haearn yno, yr oedd Merthyr eisoes yn dref fawr yng nghyd-destun Cymru yn 1801, a’i phoblogaeth yn saith mil. Erbyn canol y bedwaredd ganrif ar bymtheg, yr oedd dros hanner can mil yn byw ym Merthyr yn unig, heb sôn am y cymunedau diwydiannol eraill a oedd ar dwf yng nghymoedd Morgannwg. Byddai twf poblogaeth Morgannwg yn fwy syfrdanol byth yn ail hanner y ganrif, gyda’r datblygu mawr ar y diwydiant glo. Ond yr hyn y mae’n rhaid ei bwysleisio yma yw mai cymunedau Cymraeg eu hiaith oedd y cymunedau diwydiannol newydd a ddatblygai ym Morgannwg yn hanner cyntaf y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Hyd yn oed wedi’r dylifiad mawr di-Gymraeg i Forgannwg yn ail hanner y ganrif, yr oedd tua 40% o boblogaeth y sir yn parhau i fedru’r Gymraeg ar ddechrau’r ugeinfed ganrif.

Yr oedd yn gwbl naturiol i’r faled fudo i’r cymunedau Cymraeg newydd hyn ym Morgannwg, ac fe ffynnodd ynddynt. A defnyddio Merthyr yn enghraifft eto, argraffwyd miloedd ar filoedd o faledi Cymraeg yno yn ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg, a hynny gan dros ugain o wahanol argraffwyr. Ac er bod llawer o’r baledwyr yn enedigol o’r tu allan i Forgannwg, tyrrent yno, a bu rhai ohonynt — fel y Monwysyn, Richard Williams (‘Dic Dywyll’ neu ‘Bardd Gwagedd’; c.1805-c.1865), er enghraifft — yn trigo yno am flynyddoedd lawer. Cerdd gymdeithasol yw’r faled, wedi’r cwbl, peth i’w berfformio o flaen cynulleidfa, a lle gwell iddi ymgartrefu nag yng nghymunedau poblog newydd y de-ddwyrain, gyda’u cynulleidfaoedd parod.

Ni sylwais ar yr un o faledi’r bedwaredd ganrif ar bymtheg sy’n adrodd hanes Guto Nyth-brân, ond fe wn am dair sy’n adrodd campau rhedwr Cymreig nodedig arall, sef John Davies, ‘Y Cyw Cloff o Fryncethin’. Ac yn ôl un o’r baledwyr hyn, beth bynnag, yr oedd John Davies yn ail agos fel rhedwr i Guto ei hun, oherwydd ceir y pennill a ganlyn ym maled Edward Jones, Môn, i’r ‘Cyw’ (a’i linell olaf yn cyfeirio at enw sir enedigol y ddau redwr, sef Morgannwg):

Guto Nyth Brân, mi glywais haeru,
Oedd y cyntaf a rodiodd Cymru,
Y Cyw yw’r ail, mi ddweda’n ddiddan
Os nad y cyntaf fagodd Forgan.

Er bod rhedeg yn un o bedair camp ar hugain Cymru’r Oesoedd Canol, ‘nid oes’, meddai Tecwyn Vaughan Jones (mewn erthygl yn Y Faner, 6 Mai 1983, t. 18), ‘fawr o dystiolaeth hanesyddol am rasio ar droed yng Nghymru cyn y 18fed ganrif...Yn ystod y 18fed a’r 19eg ganrif y daeth rasio i fri a chrewyd amryw o arwyr gwerin yn y cyfnod hwn...Erbyn dechrau’r 19eg ganrif ’roedd rasus o’r fath yn denu torfeydd enfawr yn enwedig yng nghymoedd y de, a hynny ymhell cyn sefydlu mabolgampau amatur.’

Rhywbeth a ddatblygodd mewn cyd-destun gwledig yn y lle cyntaf oedd y rasio hwn. Perthyn i’r Forgannwg gyn-ddiwydiannol y mae Guto Nyth-brân, er enghraifft, a’i waith fel amaethwr yn y mynydd-dir gwledig yn cyfrannu at ei lwyddiant fel rhedwr yn ôl y sôn. ‘The story goes’, meddai H. W. J. Edwards, ‘that his speed and endurance were developed by daily chasing of the silly but fast breed of sheep, which, by the way, climb like cats’ (The Good Patch: A Study of the Rhondda Valley, London: National Book Association, [1938], t. 176). A dywed Glanffrwd mai ffordd Guto o baratoi i redeg oedd cysgu ‘yn y domen dail frwd o flaen yr ystabl, yr oedd ei gwres naturiol yn effeithio er ei ystwytho, nes bod ei gyhyrau fel ffrewyllau, a’i aelodau fel whalebones hyblyg’ (t. 106).

Ond nid oedd anhawster trosglwyddo rasio ar droed i’r cyd-destun diwydiannol. I’r gwrthwyneb. Darparai cymunedau diwydiannol newydd Morgannwg dorfeydd lluosocach o dipyn ar gyfer y rhedegfeydd. Dyma’r union dorfeydd, wrth gwrs, a ddenai’r baledwyr i’r sir, ac yr oedd y torfeydd hyn at ei gilydd â thipyn mwy o arian yn eu pocedi na hen werin amaethyddol y bryniau. Ys dywedodd Gareth Williams: ‘Runners who developed their muscles and stamina pounding the moors of the uplands found their skills amply rewarded in the iron districts’ (‘Sport and Society in Glamorgan 1750-1980’, Glamorgan County History, cyf. VI, gol. Prys Morgan, Caerdydd: Glamorgan History Trust, 1988, tt. 385-6).

Fel y tystia betio trwm Sian o’r Siop, yr oedd yr ochr ariannol yn bwysig iawn yn hanes rasio ar droed. A dyfynnu Gareth Williams eto:

Running for wagers was the essence of footracing, or pedestrianism; promoted and patronized initially by the gentry, who generally backed their own servants — footmen being professional runners engaged to carry messages — by the second half of the eighteenth century it had moved out from the club and mess to the tavern and taproom. Twm Emwnt (Thomas Edmunds, d.1785) of Vaenor earned his living as a professional runner: his failure in a crunch race in London led one mortified backer to set fire to Twm’s house (t. 385).

Ac yn ei erthygl yn Y Faner ym Mai 1983, pwysleisia Tecwyn Vaughan Jones yntau bwysigrwydd y wedd ariannol yn natblygiad y gamp:

Tebyg mai tlodi ac angen a roddodd hwb i’r chwarae [yn y 18fed a’r 19fed ganrif] gan fod arian sylweddol yn dod i ran pencampwyr. Manteisiai amryw o dirfeddianwyr a pherchnogion gwaith ar ddawn rhai o’u tenantiaid a’u gweithwyr yn y gamp hon, ac os oedd pencampwr tebygol yn eu rhengoedd yna hwyrach y cai gyfle, o dan adain ei noddwr-feistr, i gystadlu yn erbyn un o’i gyfoedion o’r un cyffiniau. Noddid y rhedwyr gan y gwŷr cyfoethog, a’r rhain yn eu tro yn denu gwylwyr a ddeuai’n dorf i fetio ar y canlyniad. ’Roedd rasio yn fusnes proffidiol i’r trefnwyr a thros dro i’r rhedwyr, er fod llawer iawn ohonynt yn marw yn ifanc trwy gael eu gwthio yn ddiddiwedd ac yn amlwg y tu hwnt i’w gallu.

Fel y nodwyd uchod, ym Morgannwg yn hanner cyntaf y bedwaredd ganrif ar bymtheg, denai rhedegfeydd o’r fath dorfeydd enfawr, a rhai yn tyrru iddynt o bellter mawr i wylio ac i fetio. Yr oeddynt yn achlysuron cyffrous a chynhyrfus. Yr oeddynt hefyd yn achlysuron a barai nid ychydig o ofid i’r awdurdodau ar adegau. Yn Aberafan yn 1843, er enghraifft, cosbwyd nifer o redwyr am i’w cefnogwyr lluosog achosi rhwystr ar y ffordd dyrpeg; a cheir hanes yn y Cardiff and Merthyr Guardian am 10 Ionawr 1846 am ustusiaid heddwch yn gwrthod caniatáu cynnal ras ar y ffordd i Ferthyr, tua dwy filltir i’r gogledd o Gaerdydd, rhwng Rees Meredith o Aberdâr a William Robinson o Newton Moor yn swydd Stafford, ac i’r ras o’r herwydd gael ei throsglwyddo i’r dwyrain o Gaerdydd, i’r ochr arall i afon Rhymni, er mwyn ei symud allan o diriogaeth yr ustusiaid.

A chyda’r fath dorfeydd yn crynhoi a chyda chymaint o arian yn cyfnewid dwylo, nid yw’n syndod fod pob math o gynnen a chythrwfl a chamymddwyn yn digwydd ar yr achlysuron hyn. Nid y gwydr a daflwyd ar lwybr Guto Nyth-brân yw’r unig enghraifft o bell ffordd o chwarae triciau brwnt yn rasys troed Morgannwg! Er enghraifft, mewn ras ar y ffordd i Ferthyr ychydig i’r gogledd o Gaerdydd yn Awst 1844, baglwyd un o’r ddau redwr, Howell Powell o Aberdâr (yng ngeiriau’r Glamorgan, Monmouth, and Brecon Gazette am 25 Awst) gan ‘a little urchin who crossed the road just as he was coming up to him, it is supposed, by "accident" ’. Yn yr achos hwnnw yr oedd Powell yn rhedwr digon cyflym i oresgyn yr anfantais ac ennill y ras. Ond yn y Glamorgan, Monmouth, and Brecon Gazette am 2 Mawrth 1844, adroddir ar yr un tudalen am ddwy ras — y naill ar y Mynydd Bychan, Caerdydd a’r llall ar y Cimdda, Llantrisant — lle, yn y ddau achos, y cafodd y naill redwyr ei rwystro gan un o gefnogwr y rhedwr arall, a thrwy hynny golli’r ras. Ac fe ddilynid digwyddiadau o’r fath gan gynnwrf a drwgdeimlad.

Yn ystod yr 1840au y daeth John Davies, ‘Y Cyw Cloff’, i’r amlwg fel rhedwr. Dywedir yn y faled iddo gan Ywain Meirion mai ‘Yn y Bryncethin cadd ei fagu’, sef (yn ôl pob tebyg) y Bryncethin sydd ym mhlwyf Llansanffraid-ar-Ogwr, ychydig i’r gogledd o Ben-y-bont ar Ogwr. Yn y Cardiff and Merthyr Guardian am 22 Chwefror 1845 dywedir y byddai’n ‘23 years of age next March’. Cafodd ei eni, felly, ym Mawrth 1822; ond gwaetha’r modd, ni lwyddais i ddod o hyd i gofnod bedyddio ar ei gyfer yng nghofrestri plwyf Llansanffraid-ar-Ogwr, nac ychwaith yng nghofrestri plwyf cyfagos Coety, nac yn unman arall o ran hynny.

Yr oedd gosod llysenwau ar redwyr yn arfer cyffredin iawn yng nghyfnod John Davies. Er enghraifft, mewn adroddiad yn y Glamorgan, Monmouth, and Brecon Gazette (2 Mawrth 1844) am ras rhwng John Davies a rhedwr Seisnig amlwg o’r enw John Tetlow ar 26 Chwefror 1844, dywedir fel hyn:

A more respectable concourse was never seen in any part of Wales to witness a foot race; several of the first racers in England and Wales attended on this occasion, viz.: The American Deer, the London Stag, the Welsh Bantwm [=Bantam], Shepherd, the Collier Boy, Meredith, the Mountain Deer, Woozey, Kiloil [=Cilhaul], Panwr, Davies, Williams, and Croesvane [=Croes-faen].

Ac ar wasgar yn adroddiadau’r papurau newydd gwelir enwau megis ‘The Llandaff Deer’, ‘The Cambrian Clipper’, ‘Pontrhydyfen’, ‘Maendy’, ‘The Staffordshire Pet’ a ‘The Cardiff Deer’; ac yn ôl H. W. J. Edwards, un o redwyr amlycaf Cwm Rhondda tua chanrif ar ôl marw Guto Nyth-brân oedd Ned y Crydd, alias ‘Maer Trebanog’ (The Good Patch, t. 177).

Fe ddichon y defnyddir ‘Cyw’ yn y llysenw ‘Y Cyw Cloff’ mewn ffordd debyg i’r llysenw ‘Welsh Bantam’ a nodwyd uchod, sef i gyfeirio at faintioli John Davies. Yr oedd yn gymharol fach ac ysgafn — yn 5 troedfedd a 4 modfedd a hanner o ran taldra, ac yn pwyso 9 stôn a 5 pwys — a dywedir ym maled Iolo Mynwy iddo nad oedd ‘ond Cyw mewn cynnydd’. Sonnir hefyd yn yr un faled am ei allu i hedfan ymlaen wrth redeg: ‘Ni cheir dynion heb adenydd!/Fyth i’w ddilyn dros faith ddolydd.’ Yn ychwanegol at hynny, y mae’n ogleisiol cofio fod dau o’r pentrefi bach sy’n gorwedd i’r dwyrain o Fryncethin, rhwng Bryncethin a Llanharan, yn dwyn yr enwau Heol-y-cyw a Rhiwceiliog, heb sôn am y ffaith fod fferm ychydig i’r de o bentref Bryncethin yn dwyn yr enw ‘Bryn quills’ a bod rhywun o’r enw William David (65 oed) y byw yno yn 1841 a chrydd o’r enw John David (40 oed) yn byw yn ‘Hewl-y-quils’ yn yr un plwyf. Gellir cynnig mwy nag un eglurhad, felly, dros lysenwi John Davies yn ‘Gyw’; ond anodd egluro paham y rhoddwyd yr enw ‘Cyw Cloff’ ar un o redwyr mwyaf chwimwth ei oes, oni bai ei fod efallai yn cyfeirio at ryw ddull afrosgo yn ei symud.

Y mae’r Cardiff and Merthyr Guardian am 22 Chwefror 1845 yn awgrymu i John Davies ddechrau rhedeg tua phum mlynedd ynghynt, pan oedd felly o gwmpas 18 mlwydd oed. Yr oedd ei ras gyntaf yn erbyn rhedwr o’r enw Evan Jones, sef ras tair milltir am £20 yr ochr. Enillodd John Davies y ras honno, ac ennill yn fuan wedyn ras arall o dair milltir yn erbyn rhedwr o’r enw Jenkin Davis, am £30 yr ochr. Oherwydd ei lwyddiant yn y ddwy ras hyn, fe’i gosodwyd gan ei gyfeillion i redeg am dair milltir yn erbyn William Bevan o Bont-rhyd-y-fen, neu Wil o’r Waun fel y’i gelwid, un o brif redwyr Morgannwg. Rhedodd yn ei erbyn ddwywaith, a cholli’r ddeutro, er i’r Cyw ddod yn agos iawn at ennill yr eildro. Cynhaliwyd ambell ras arall rhyngddo a rhedwyr lleol eraill, a’r Cyw yn fuddugol ynddynt oll. Ac yna, ddydd Llun, 22 Ionawr 1844, rhedodd am y tro cyntaf yn erbyn un o brif redwyr y Saeson, John Tetlow o Hollinwood, ger Oldham yn swydd Gaerhirfryn.

Daethai Tetlow i lawr i Forgannwg tua diwedd Rhagfyr 1843 i redeg yn erbyn gŵr o Aberdâr. Am ryw reswm ni chynhaliwyd y ras honno a chynigiodd Tetlow redeg ras dwy filltir, am £25 yr ochr, yn erbyn unrhyw ddau Gymro, y naill Gymro i ddechrau’r ras a’r llall i gymryd drosodd hanner ffordd trwyddi. Y ddau a ddaeth allan yn ei erbyn oedd Robert Williams (‘The Flower of the Forest’) a John Davies (‘Y Cyw Cloff’). Cynhaliwyd y ras ar y Cimdda, tir comin i’r gogledd o dref Llantrisant a chyrchfan boblogaidd ar gyfer rhedegfeydd. (Defnyddir y ffurfiau ‘Cimla’ a ‘Cimlai’ hefyd yn y baledi i’r Cyw Cloff. Ystyr yr enw yw ‘cytir, comin, tir cyffredin’ — gw. Geiriadur Prifysgol Cymru dan ‘cimle’, t. 482.)

Daeth rhwng dwy a thair mil ynghyd i wylio’r ras, gan gynnwys ‘several influential gentlemen’ yn ôl y Glamorgan, Monmouth, and Brecon Gazette (3 Chwefror 1844). Dechreuodd y ras toc wedi dau o’r gloch, ac erbyn iddi ddod yn amser i’r Cyw drosglwyddo’r ras i Robert Williams yr oedd rhyw ganllath ar y blaen i’r Sais. Dyma adroddiad y Gazette o weddill y ras:

Then off started the Flower of the Forest to run the other mile, at that time the shouts of the spectators rent the air, so that they were heard three or four miles off. The Englishman endeavoured to overtake his man, but...the Flower of the Forest soon left him behind at a considerable distance...and finished his task, leaving the Lancashire man about three hundred yards behind, when the voices of all present were elevated to the highest pitch. Some hundreds of pounds exchanged hands. No bets could be procured on the common with the Englishman without giving two to one. The Flower of the Forest and the Cyw came to the town in triumph, the bells ringing merry peals, and banners floating in the air. The best of order was observed during the whole of the race, and every one seemed satisfied with the sport and pleasures of the day. The Cyw ran his mile in 4 min. 45 sec., and the race was completed in about 10 min. 5 sec.

Heriodd Tetlow y Cyw i ras arall, ras filltir, am £25 yr ochr. Cynhaliwyd honno ddydd Llun, 26 Chwefror 1844, ar ‘fine level road’ yn Llanilltud Faerdref ger Llantrisant (‘Llanelltud Fardra’ ar lafar yn lleol), sef ar ran o’r heol newydd a godwyd ychydig ynghynt rhwng Llantrisant a Threfforest. Yn ôl y Glamorgan, Monmouth, and Brecon Gazette (2 Mawrth 1844):

Early on Monday morning, crowds were seen pouring in from different parts of this county, to witness a race which so many took an interest in...The fineness of the day, and the excellence of the sport, with the hopes incident to rather extensive speculations on the race, brought a large company to the ground. Both the men were in good condition and spirits, with a host of backers sanguine of victory.

Yn ôl un amcangyfrif yr oedd dros dair mil o bobl yno i wylio’r ras.

Yr oedd y ddwy ochr yn hyderus, ond y mae’n amlwg mai’r Sais a ystyrid yn ffefryn. ‘There were some rather heavy bets depending upon the result of this race,’ meddai’r Gazette, ‘money having been laid out, in most instances, at even, but towards the time of starting at five to three on the Englishman.’

Dechreuodd y ras toc wedi un o’r gloch. Rhedodd y ddau yn arbennig o gyflym yn hanner cynta’r ras. Aeth y Cyw ar y blaen yn syth, a llwyddodd i gadw tua hanner llath o flaen Tetlow am y rhan fwyaf o’r ras. Yna, meddai’r Gazette, ‘within a few hundred yards of the close of the race, the Ciw [sic] left his opponent behind, and completed his task in four minutes and forty-five seconds, and won by ten or twelve yards’.

Parodd buddugoliaeth y Cyw gryn syndod a cholled i’r arbenigwyr. Meddai’r Cardiff and Merthyr Guardian (22 Chwefror 1845) am yr achlysur:

The Welshman proved victorious, to the great astonishment of the ‘knowing ones,’ who had travelled very many miles to witness the race, and who had speculated heavily on Tetlow, evidently imagining it was ‘all over but shouting.’ The Lancashire party were especially great losers on this race.

Fe gollodd Tetlow ei hun £500, yn ôl y sôn, a dywedir fod bron £1,000 yn dibynnu ar y ras. Ym marn Tetlow, cafodd ei drechu oherwydd y blinder a achoswyd gan ei daith o Fanceinion. Yr oedd yn ddigon hyderus i herio’r Cyw i ornest arall rywle hanner ffordd rhwng Llantrisant a Manceinion, gan gynnig talu £5 tuag at gostau’r Cyw i gyrraedd yno; ond ni welais unrhyw gyfeiriad at ras arall rhyngddynt.

Y ras nesaf y clywir sôn amdani yw un ym Mai 1844 yn ardal y Rhath, Caerdydd, am hanner milltir ‘between the celebrated Cue [sic] Cloff and sergeant Rennie [a lysenwyd ‘The Running Sergeant’] of the 73rd regiment, now stationed in this town [of Cardiff]’ (Glamorgan, Monmouth, and Brecon Gazette, 11 Mai 1844). Y Cyw a enillodd, ac fe’i disgrifiwyd ar yr achlysur fel ‘the pet of the hills’.

Yna fe ddaeth y Cyw allan am y trydydd tro yn erbyn William Bevan o Bont-rhyd-y-fen, am ras dwy filltir am £20 yr ochr. Enillodd y Cyw yn rhwydd y tro hwn, ac aeth ymlaen i ennill ras filltir yn erbyn rhedwr amlwg arall o’r enw Howell Powell. Cynhaliwyd y ras honno yn ardal Cefncoedycymer, pentref sydd ychydig i’r gogledd o dref Merthyr Tudful a thros y ffin yn sir Frycheiniog. Cyfeirir at y ras yn nhrydydd pennill baled Ywain Meirion i’r Cyw, lle y dywedir, er iddo gerdded hyd at ‘drip Nathaniel’ (ym Morgannwg, gair am heol ar oleddf yw ‘trip’) a chymryd ei amser ar y ‘trip’, iddo er hynny lwyddo i gyrraedd pen draw’r ras yng Nghefncoedycymer o flaen Howell Powell.

Wedi dod fel hyn yn bencampwr yn ei wlad ei hun, penderfynwyd gosod y Cyw yn erbyn rhai o bencampwyr Lloegr. Y mae’n werth dyfynnu’r Cardiff and Merthyr Guardian (22 Chwefror 1845) ar y mater:

A liberal-hearted countryman determined to bring the young Welshman to London, and back him against some of the ‘great guns;’ and on arriving at Owen Swift’s in Tichborne-street, Haymarket, he was received by the ‘wonder’ of the P[rize] R[ing] in the kindest manner. As Davies, however, could only speak a few words of English, an interpreter accompanied him, and in due time the little chicken was despatched to the Angel, at Sutton, in Surrey, under the mentorship of that renowned trainer and pedestrian, Robert Fuller.

Ac un o ganlyniadau ei ymweliad â de Lloegr oedd rhedeg am y tro cyntaf yn erbyn Tom Maxfield (‘The North Star’; 1819-64). Brodor o Sheffield oedd Maxfield, ond treuliodd dipyn o’i oes yn Windsor, ger Slough, a marw yno mewn tlodi mawr yn 45 oed. Cludydd glo ydoedd wrth ei alwedigaeth, ond yr oedd hefyd yn un o brif redwyr Lloegr. Rhedodd mewn dros hanner cant o ornestau yn erbyn rhai o redwyr gorau’r wlad a phrofi bron yn anorchfygol.

Trefnwyd ras rhwng y Cyw Cloff, Maxfield a rhedwr amlwg arall o’r enw William Jackson ar gyfer dydd Mawrth, 11 Chwefror 1845. Ceir sôn amdani yn y Cardiff and Merthyr Guardian am 8 Chwefror:

The fourth deposit of £10 a side for the mile sweepstakes race, for £50 each, in which Thomas Maxfield (the North Star), John Davies (Cyw Cloff), and William Jackson (the American Deer), are engaged, was made good at Owen Swift’s on Monday night, when Maxfield, who gave £6 for choice of ground, named Slough, and the men are to meet at the North Star Inn, on Tuesday next, the 11th instant, at 12, and start at or before 2 o’clock. The remaining £15 a side are to be placed in Swift’s hands on the ground. The race excites considerable interest.

Maxfield a enillodd y ras, gyda’r Cyw ryw 20 llath ar ei ôl, a Jackson yn drydydd, dros 50 llath ar ôl Maxfield. Peth pur gyffredin oedd i redwyr gael eu llwgrwobrwyo i golli’n fwriadol. Gwelir hynny’n glir yn y baledi a ysgrifennwyd er clod i’r Cyw, yn y canmol sydd ynddynt ar ei onestrwydd ac ar ei deyrngarwch i’w gyd-Gymry trwy beidio â cholli’n fwriadol yn erbyn y Saeson, a thrwy hynny beri colled ariannol i’r Cymry a oedd wedi gosod arian arno:

Gwelir digon o redegwyr,
Wedi hudo eu cyd-wladwyr,
Gwaeth na lladron — rhith golledwyr,
Dwyn ar brydiau aur eu brodyr
I wresogi boliau segur.

Ni allai hyd yn oed ‘AUR BRENHIN’ brynu’r Cyw, meddid. Ond fe gafwyd awgrym cryf i’r gwrthwyneb yn achos Jackson yn ei ras yn erbyn Maxfield a’r Cyw. Dyma ran o adroddiad y Cardiff and Merthyr Guardian (15 Chwefror 1845) o’r ras:

The long pending foot-race...came off on Tuesday afternoon last, at Slough. During the preceding day, and up to the start, the knowing ones were betting £25 to £20, with plenty of takers, in favor of Maxfield. Indeed the result was anticipated, from certain hints which had got abroad, long before the race. The sweepstakes were won by Maxfield...It will be recollected that a short time since Jackson beat Maxfield, in a three miles race, without any apparent effort. Jackson also beat the celebrated Sheppard in an hour’s match, not long ago, performing in that time upwards of 11 miles. The mile on Tuesday was ran by the winner in 4 minutes and 49 seconds.

Cafodd cefnogwyr y Cyw eu cythruddo’n fawr gan yr ensyniad mewn un cyhoeddiad yn Lloegr fod Jackson wedi caniatáu i’r Cyw ddod yn ail yn y ras. Ysgrifennodd sawl un at y Cardiff and Merthyr Guardian (22 Chwefror 1845) i gwyno am hyn, gyda’r awgrym clir fod yr holl adroddiad o’r ras yn y cyhoeddiad Seisnig wedi’i liwio yn erbyn y Cyw am ei fod yn Gymro. Yn ôl y sôn yr oedd betio trwm ar bwy fyddai yn yr ail a’r trydydd safle yn y ras, yn ogystal ag ar yr enillydd.

Ymhen y flwyddyn cyfarfu Maxfield a’r Cyw unwaith eto, ond yng Nghymru y tro hwn, oherwydd ddydd Llun, 9 Mawrth 1846, cynhaliwyd ras filltir rhyngddynt, am £50 yr ochr, ar y Cimdda, Llantrisant, gyda’r Cyw yn talu £6 i Maxfield am gael dewis lleoliad y ras. Yn ôl adroddiad y Cardiff and Merthyr Guardian (14 Mawrth 1846):

The day was beautifully fine, which circumstance, powerfully aided by the high fame and well-known lasting qualities of the men had the effect of inducing upwards of 4000 persons to assemble in order to witness the race. The men appeared in first-rate condition, and betting, consequently, took place pretty freely on both — the Englishman being rather the favourite...Previous to starting, umpires and a referee were appointed; and it was also understood that the umpires and another person should ride behind the men, in order to keep off the crowd...The men went off well together, and ran nearly side by side until within two hundred and fifty yards of the gaol, when Maxfield accidentally fell, being at the time about a yard in advance of his opponent. He instantly attempted to rise, but, while in the act of jumping up, one of the three riders alluded to, who were to keep off the crowd, found it impossible to stop his horse, which knocked him (Maxfield) down, and rode over him, inflicting thereby some severe injuries, and rendering his chance of winning altogether hopeless. Indeed, so seriously was he injured that William Robinson (the well-known pedestrian) was obliged to support him to the fly which stood waiting to receive him at the end of the ground. Davies, however, ran on, and, having reached the winning point, claimed the stakes.

Yr oedd y baledwyr Cymraeg, wrth sôn am y ras yn ddiweddarach, yn bendant fod Maxfield wedi cwympo’n fwriadol: ‘Pan yn gyfyng gwnâi ’r Sais gofio,/Rhag colli ’r gamp, mai gwell oedd cwympo.’ Ond nid dyna farn y canolwyr. Pan brotestiodd cyfeillion Maxfield yn erbyn rhoi’r arian i’r Cyw, cytunodd y canolwyr fod Maxfield wedi cwympo’n deg a bod y niweidiau a gafodd gan y ceffyl wedi difetha ei gyfle i ennill; ac yn ganlyniad aeth cyfeillion Maxfield o gwmpas yn dweud wrth bobl i beidio â thalu’r betiau nes i’r mater gael ei setlo’n derfynol. Creodd y cwbl gynnwrf mawr ymhlith y dorf, ac er gwaethaf ymdrechion y Cyw a’i gyfeillion i’w tawelu, aeth pethau’n gas iawn.

Bu llawer o ohebu rhwng y ddwy ochr ynghylch yr enillion, ac yn y diwedd penderfynwyd cynnal ras arall i dorri’r ddadl. Cynhaliwyd honno ar y ‘Lansdown Race Course’, tua thair milltir i’r gogledd o ganol Caerfaddon, ddydd Llun, 21 Rhagfyr 1846. Yr oedd Maxfield eisoes yn gyfarwydd iawn â’r cwrs, ac aeth y Cyw i Gaerfaddon ar y dydd Gwener cyn y ras i ymgyfarwyddo ag ef. Ras filltir ydoedd, am £100 yr ochr. Daeth tyrfa fawr ynghyd, ac erbyn dechrau’r ras yr oedd y tywydd wedi codi’n braf. Dyma ran o adroddiad y Cardiff and Merthyr Guardian (26 Rhagfyr 1846):

A vast crowd had assembled to witness the race, amongst whom were about 400 persons who sported Davies’s colours — blue — whilst a far more numerous body seemed, by their crimson ‘favours,’ to be of Maxfield’s party. However, the ‘little Welshman’ was well and spiritedly supported by his countrymen, who had the most perfect confidence in their man. Previous to starting, Mr. Bragge, landlord of the North Star Inn, Slough, was appointed umpire for Maxfield; and Mr. William Emanuel, Newbridge [sef Pontypridd], filled a similar office for Davies. The referee was Mr. Owen Swift, the well known pugilist. At half-past two, the men prepared for the contest. Davies appeared in tip-top condition — cheerful, animated, full of life and vigour...Maxfield, on the other hand, seemed thoughtful and reserved...Betting took place freely at the rate of 5 to 4 in favour of Davies. We saw one bet taken of £20 to £18...The signal having been given, away they went — Maxfield having an advantage at the commencement. They ran nearly side by side for about three hundred yards, Maxfield being only about two yards in advance of Davies. At that point of the course one of Maxfield’s friends called out to him — ‘Now, Tom; you are in front, keep your advantage; go on and win;’ — but that was easier said than accomplished; for all this time Davies had been wide awake, having his eyes upon his opponent’s motions, the result being that he felt confident in his own mind he could easily pass Maxfield, which he did much to the chagrin of hundreds. On ‘the little Welshman’ ran — keeping a head without much exertion, as was apparent to all; and although Maxfield made the most strenuous efforts, Davies ran in an easy winner, at least thirty yards in advance of his opponent, who seemed completely worn out. Davies’ friends welcomed his arrival with tremendous shouts. He appeared not in the least distressed, but leapt into his carriage, and was immediately driven away. During the last two hundred yards of the race he frequently looked back at Maxfield and might have increased his distance from him if he had thought it proper to do so. The distance was accomplished in 4 min. and 40 seconds...Davies generously presented Maxfield with two sovereigns... The utmost good feeling and fair play prevailed on the course.

Yr oedd ei gyd-Gymry wrth eu bodd gyda buddugoliaeth y Cyw, wrth gwrs. Am wyth o’r gloch ar y bore ar ôl y ras, hwyliodd y Cyw a nifer o’i gefnogwyr o Fryste i Gaerdydd ar y Prince of Wales, un o’r ddwy long ager a hwyliai yn rheolaidd rhwng y ddau borthladd yr adeg honno. Daeth rhai cannoedd o’i gefnogwyr ynghyd yng Nghaerdydd i gyfarfod â’r Cyw. Trefnwyd ymlaen llaw y byddid yn addurno’r llong petai’r Cyw yn ennill; a phan welwyd y Prince of Wales yn cyrraedd porthladd Caerdydd wedi’i haddurno â lliwiau’r Cyw, fe’i croesawyd â bonllefau o gymeradwyaeth.

Hyd yma yn yr erthygl hon tynnwyd ar adroddiadau’r Cardiff and Merthyr Guardian a’i ragflaenydd, y Glamorgan, Monmouth, and Brecon Gazette, wrth sôn am redegfeydd y Cyw Cloff. Ond gyda’i ras yn erbyn Maxfield yng Nghaerfaddon ar 21 Rhagfyr 1846, fe gyrhaeddwn y gyntaf o’r baledi Cymraeg i’r Cyw Cloff sydd wedi goroesi. Baled gan Edward Williams (‘Iolo Mynwy’) ydyw, ac fe’i hargraffwyd gan Rees Lewis yn yr Heol Fawr, Merthyr Tudful. Ar ddiwedd y faled, o dan enw’r awdur, gosodwyd y geiriau ‘Merthyr, Ionawr 20, 1847’, sef man a dyddiad ei chyfansoddi, mae’n rhaid. Teitl y faled yw ‘Can Newydd, o Glod i John Davies, "Cyw Cloff" ’, ac fe’i canwyd ar y dôn ‘Y Fel Wefus’. Un copi ohoni yn unig sydd wedi goroesi, hyd y gwn i. Deuthum ar ei thraws yn Llyfrgell Gyhoeddus Merthyr Tudful, mewn casgliad o faledi a fu ar un adeg trwy ddwylo J. Kyrle Fletcher, y llyfrwerthwr o Gasnewydd. Y mae rhywfaint o sôn yn y faled am rai o ornestau’r Cyw cyn yr un yng Nghaerfaddon. Tybed faint o faledi a gyhoeddwyd adeg y rhedegfeydd hynny sydd wedi diflannu’n llwyr erbyn hyn? Yn wir, a barnu o’i ddisgrifiad byw o redegfeydd y Cyw yn erbyn John Tetlow, ni fyddai’n anodd credu i Iolo Mynwy fod yn llygad-dyst iddynt a’i fod wedi ysgrifennu baledi amdanynt. O dan y teitl ac yn rhagflaenu’r faled ei hun, argraffwyd y paragraff canlynol o eglurhad:

Yn cynhwys ychydig o’i orchestion diweddar fel Prif rhedegwr yr oes, wedi trechu ’r Saeson blaenaf yn y Deyrnas. Yr hanes yn dechreu pan ddaeth John Tedlow, i Gimla, Llantrisant, i redeg dwy filldir a’r Cyw Cloff, a Robert Williams, pan y collodd y Sais yn ddidrafodaeth. Yn ganlynol, penwyd gyrfa arall i’r Cyw Cloff, a J. Tedlow, am un filldir, ar yr heol yn Llanilltyd, am haner cant punt yr ochr, lle bu ’r Cyw ’n fuddugol eilwaith. Er profi taerineb y Saeson, daeth Thomas Maxfield, i Gimla, Llantrisant, i redeg Milldir a’r Cyw Cloff, pa un derfynodd mewn ymryson anarferol, a hyny o herwydd i’r Sais gwympo yn wirfoddol. Er tori ’r ddadl, a chael prawf hollol pa un o’r ddau oedd y gorau, penwyd gyrfa eilwaith i’r un dau redeg milldir yn Lloegr, gerllaw Caerbaddon, (Bath,) am gant punt yr ochr, pa un gymerodd le yr 21in o Ragfyr diweddaf, ac er clod ac enill mawr i’r Cymry, bu’r Cyw ’n fuddugol yno hefyd.

Parheir yn yr un cywair gwladgarol trwy gydol y faled ei hun, baled sydd o ran ei harddull yn nhraddodiad y canu rhydd cynganeddol:

 

1.
Dewch holl Feirddion, dynion doniol,
O bob goror, Gymry gwrol;
Chwi gewch hanes Cymro heini’,
Nerth ac anian werth ei enwi;
Er nad yw ond Cyw mewn cynnydd,
Mae’n alluog, bywiog beunydd,
Fel yr ewig mewn gwir awydd; —
Ni cheir dynion heb adenydd!
Fyth i’w ddilyn dros faith ddolydd:
Gwir i’r Saeson er ys oesoedd,
Ddangos llawer o alluoedd, —
Felly taeru ar eu tiroedd
Nad oedd hefyd dan y NEFOEDD
Ddyn i’w dilyn o’n hardaloedd.

2.
Trôdd y rhod, mawr glod i’n Gwladwr,
Cynta’n fyw, y Cyw di-gynhwr’,
Ar y Cimlai, dir teg amlwg,
Bryn yn ganol brô Morganwg:
Lle daeth TEDLOW i gystadlu,
Fel rhyw DDIRFAWR GAWR yn gyru! —
Am DDWY FILLDIR yn ymwylltu,
ADYN DWL yn meddwl maeddu.
Y ddau Gymro blaena ’n Nghymru;
Yn ddysymwth c’add ei siomi, —
Y Cymry oedd ar goedd ’n gwaeddi,
A’r Saeson bron a digalonni,
Er mor dyned eu codei,
Oe’nt wag hollawl wedi colli.

3.
Er bod ar ôl gwneud ffol yn ffolach,
Gwnaed ar forau race oedd férach, —
Am un filldir yn LLANILLTYD,
I’r CYW dewr â THEDLOW diwyd,
Lle bu camu, llamu llyma’
TEDLOW ’n flin am gadw ’n flaena,’
Y CYW ’n chwerwi, weithiau ’n chwara,
I’r olaf gant fe neidiau’ n gynta’
I ben am hanner cant o bunna’.
Gwedi hynny gwnaed cyttuno,
I’r CYW drud â MAXFIELD dreio,
Ar y CIMLAI hên dir Gamlo;
Pan yn gyfyng gwnai ’r Sais gofio,
Rhag colli ’r gamp, mai gwell oedd cwympo.

4.
Er tori ’r plê mewn lle ’n Lloeger,
Penwyd gyrfa ’nol teg arfer;
Bron Caerbadon, glas-don glwys-deg,
Gael ail brofi ’r cewri cu deg;
Ar y cynta ’r Sais teg heini,
Oedd yn araf yn blaenori —
Ddim ag oedd, — a Bragg yn gwaeddi,
‘Don’t be timid, well done Tommy,
Work the tough one, rare Welsh Taffy.’
Gyda ’r gair y Cymro gora’,
Aml hoenus neidiai ’mlaena’,
’Nillai ’n ddiogel, dri o ddega,
(Helaeth wedyn) o latheidia’,
O’i flaen i orfod pen yr yrfa.

5.
Gormod gwaith ddarlunio gwewyr,
Neu holl adwyth y colledwyr;
Gwyr y Cyw, TRUE BLUE i’r blewyn,
Derbyn miloedd o aur melyn;
Clod i’r manol Gyw am hynny,
Trwy bob gyrfa a gyfarfu,
Wedi cym’ryd plaid y Cymry,
Neb yn abl i’w wynebu,
Nac AUR BRENHIN all ei brynu!
Gwelir digon o redegwyr,
Wedi hudo eu cyd-wladwyr,
Gwaeth na lladron — rhith golledwyr,
Dwyn ar brydiau aur eu brodyr
I wresogi boliau segur.

6.
Clôd uchelaf a pharch hylwydd,
I’r Cyw ‘n wastad am onestrwydd;
Wedi atal twyll hyd etto,
Hyd ei elor parhau wnelo;
Cyn diweddu, Gymro diddan,
Rhoddaf iddo gynghor rhwyddlan,
Ni ddaw henaint wrth ei hunan,
Gwell fe allai o hyn allan,
Rhoddi ’fynu a hynny ’n fuan:
Cadw ’r clôd a’r aur parodol,
Aros adre’ — byw ’n gymhedrol,
Ym mysg doethion cym’dogaethol,
Lle caiff fawredd anarferol,
Nes diweddu oes rinweddol.

 

Y mae’n ddiddorol darllen y faled uchod ochr yn ochr â’r adroddiad ar ras Caerfaddon yn y Cardiff and Merthyr Guardian. O wneud fe gawn eglurhad ar rai cyfeiriadau yn y faled, megis galw’r Cyw yn ‘TRUE BLUE i’r blewyn’, nad oedd angen eu hegluro wrth gynulleidfa’r baledwr. Y mae’n amlwg hefyd y gallai’r baledwr gymryd yn ganiataol fod Bragg, tafarnwr y North Star Inn yn Slough a chefnogwr mawr i Maxfield, yn enw digon cyfarwydd i ddilynwyr rhedegfeydd yng Nghymru iddo beidio â gorfod esbonio yn ei faled pwy ydoedd.

Trwy garedigrwydd Mrs Elizabeth Bevan o Lyfrgell Ganolog Caerfaddon, cefais gopi o’r adroddiad byr o’r ras rhwng Maxfield a’r Cyw a ymddangosodd yn y Bath Chronicle, 24 Rhagfyr 1846. Yn yr adroddiad hwnnw ceir tipyn o sôn am yr ochr ariannol i’r ornest. Dywedir fod tua £2,000 wedi newid dwylo ar yr achlysur, ac meddai’r Chronicle:

The Welsh competitor was accompanied to Bath by a large body of his countrymen anxious for the honour of the Principality. The spectators were admitted at a charge of sixpence each at the Grand Stand; and here was assembled a host of betters, whose zeal in the cause of their respective men was very ardently expressed, and it was no small source of amusement to witness the eager display of the bank notes on the tables by the Welshmen, who vaunted their cash in no measured terms.

Nid yn annisgwyl, yr oedd hen ddigon o ladron wedi cyrchu’r maes, a sonia’r Chronicle am griw ohonynt yn amgylchu ‘one native of the land of mountains and goats, less discreet than some of his compatriots, [who] was foolish enough to make a boasting exposure of his money’, gan ddwyn hanner can punt oddi arno.

Y mae’r faled Gymraeg arall a gyfansoddwyd yn sgil ras Maxfield a’r Cyw yng Nghaerfaddon, hithau yn canolbwyntio i raddau helaeth ar agweddau ariannol y ras. Baled gan Edward Jones, Môn, ydyw — baledwr, yn ôl Ben Bowen Thomas, ‘nad oes un o’i faledi sydd ar gael yn ymwneud â’r Gogledd’, er gwaetha’r ‘Môn’ ar ôl ei enw. Teitl y faled yw ‘Cân Newydd yn rhoddi ychydig o hanes gyrfa neu ras a gymerodd le rhwng Maxfield, a’r Cyw Cloff yn Lansdown yr unfed dydd ar hugain o Ragfyr diwethaf’, ac fe’i cyfansoddwyd ar fesur ‘Lili Lon’. Gwelwyd yn dda gan ddau o olygyddion casgliadau baledi yn y gorffennol lled agos i gynnwys y faled hon yn eu casgliadau — sef Ben Bowen Thomas yn Baledi Morgannwg (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru, 1951), tt. 67-70, a Tegwyn Jones yn Hen Faledi Ffair (Tal-y-bont: Y Lolfa, 1971), t. 30. Gyda chaniatâd caredig Tegwyn Jones, dyma fersiwn Hen Faledi Ffair, a godwyd o gopi o’r faled sydd yn y Llyfrgell Genedlaethol:

 

Dewch Forgannwg oll ar unwaith,
Sir Frycheiniog, Mynwy odiaeth
Yma i wrando ar gân a ganlyn
Clod yn wiw i Gyw Bryncethin.
Dyma blufyn hoywlun un
Ysgafn droed anhawdd ei drin,
Maeddu Sais a wnaed yn sydyn
Y Cyw fel deryn ydyw’r dyn.

Fe gamsyniodd Sais o Loegar
Trwy ail-gynnig y Cyw cynnar,
Ofer iddo fu’r tro yma
Fel o’r blaen ar ras y Cimdda.

Mawr yw ffrwst a thrwst y Saeson
Maeddu’r Cymry yw eu hamcanion,
Ond fe fagwyd yng ngwlad Forgan
Un sy’n cario ar y cyfan.

Os ceir unrhyw Sais neu Gymro
Glywai ar ei galon dreio
Y Cyw yn gyflym red yn glonnog
Mor ddidaro ag un ’sgyfarnog.

Daeth o Lantrisant redwyr buan,
Castell Nedd rhaid cofio’n gyfan,
Trwy’r Cefn ac Aberdâr a Merthyr
Am y Cyw yn gyfan cofir.

Yn Landsdown fe bwyntiwyd gyrfa
Yr hon a ganfu, gwn, ugeinia,
’R’oedd yr arian yno’n rorio
A’r gwŷr mewn ffwdan am ei ffeindio

Ym mysg y bobl yr oedd pleidio
Rhai gyda’r Sais a’r lleill y Cymro
Daeth un ymlaen a dwedodd wrthynt
[‘]Gyda’r Cyw mi fetiaf bumpunt.’

Yn Aberdâr r’oedd rhyw ddyn ynfyd
Yn gweiddi coron gyda Maxfield
Un o Ddowlais waeddodd allan
‘Sofren gyda’r Cyw ’mhen chweugan!’

Rhyw golier oedd yn gweiddi’n greulon
‘Gyda’r Sais mi ddodaf goron,’
A dwedodd rhywun o’r Gyfarthfa
‘Y Cyw am goron yw’r gŵr gora!’

’R’oedd yno fwtsiwr lled ariannog
Yn gweiddi gyda’r Cyw yn glonnog,
Gan ddweud, ‘Mi ddodaf ugain sofryn
Ymhen deg ar draed y deryn.’

I weld y ras ’r aeth dyn diniwed
A chanddo sofren yn ei boced,
Gyda’r Sais fe’i betiai’n sydyn,
Ond fe gariodd Cyw Bryncethin.

’R’oedd rhyw dafarnwr yn Llantrisan’
Gyda’r Sais yn betio arian,
Menyw a’i atebai’n sydyn —
‘Gyda’r Cyw mi fetia’r mochyn.’

Ym Mhontypridd r’oedd gŵr tŷ tafarn
Yn betio gyda’r Sais mor gadarn,
Ond pan glywodd mae’r Cyw gariodd
A droes i regi’r Sais o’i wirfodd.

Mi glywais i fod yn y Llwyni
Gymro gyda’r Sais yn gweiddi,
Ond pan glywodd i’r Cyw gario
Edrychodd fel hen hwrdd â’r bendro.

Pob dyn gyda’r Sais a fetiodd
Gwn mai’i siomi’n gyfan gafodd,
Pawb fetiodd gyda’r Cyw yn unig
Gânt ŵydd dew ar ddydd Nadolig.

Guto Nyth Brân, mi glywais haeru,
Oedd y cyntaf a rodiodd Cymru,
Y Cyw yw’r ail, mi ddweda’n ddiddan
Os nad y cyntaf fagodd Forgan.

Dyma ydwyf yn ddymuno —
Bywyd hir a iechyd iddo,
A phob un sydd o blaid y deryn
Rhowch hwrâ u [sic] Gyw Bryncethin.

 

Yn ei gyfrol Yn Chwech ar Hugain Oed, wrth hel ei atgofion am Gwm Rhondda ar ddechrau’r ugeinfed ganrif, cyfeiria D. J. Williams at ornestau dyrnau moelion a gynhelid ar ben y mynydd yng nghymoedd Morgannwg a Mynwy gyda thoriad gwawr ar fore Sul, ond a oedd wedi graddol ddiflannu erbyn diwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg. ‘Am sofren felen, ddim mwy na dim llai, yr ymleddid fynychaf,’ meddai D.J., gan ychwanega: ‘Hyd y clywais i nid oedd fawr o ddim betio ymhlith y dorf ar yr ymladdfeydd hyn. Nid oedd pioden fraith y bwci wedi cyrraedd gwareiddiad y De yr adeg honno’ (t. 120). Ond gallai Gwyn A. Williams ddweud am bobl cymoedd y De yn oes gynharach y Cyw Cloff: ‘These people had a passion for games...[and] for betting — they’d bet on anything, one man streaked naked through a wedding procession in Merthyr High Street for sixpence’ (When Was Wales?, Harmondsworth: Penguin Books, 1985, t. 187). A chadarnheir y darlun hwnnw gan y faled uchod. Y mae’n amlwg mai ehedeg i ffwrdd dros dro yn ail hanner y bedwaredd ganrif ar bymtheg a wnaeth ‘pioden fraith y bwci’ — os bu iddi fudo o’r cymoedd erioed, mewn gwirionedd!

Baled hwyliog yn null baledi ysgafn megis ‘Can yn gosod allan yr olygfa geir yn Merthyr ar nos Sadwrn’ a ‘Can yn gosod allan yr hyn a welais ac a glywais yn Ffair Llandilo Fawr’ yw baled Edward Jones; ond baled ydyw hefyd sydd, fel y baledi eraill i’r Cyw, a thipyn o angerdd cenedlaethol yn rhedeg trwyddi. Ceir rhai gwahaniaethau rhwng fersiwn Tegwyn Jones ac un Ben Bowen Thomas o’r faled, er enghraifft ‘wir’ yn lle ‘wiw’ yn llinell olaf y pennill cyntaf, a ‘Cimla’ yn lle ‘Cimdda’ yn llinell olaf yr ail bennill. Ond mân amrywiadau ydynt, o’r math sydd i’w weld yn gyffredin rhwng copïau o faled sydd naill ai yn gynnyrch gweisg gwahanol neu yn argraffiadau gwahanol o’r un wasg.

Ar ddiwedd ei faled yn cofnodi buddugoliaeth fawr y Cyw yng Nghaerfaddon, dywedodd Iolo Mynwy mai ‘Gwell fe allai o hyn allan,/Rhoddi ’fynu a hynny’n fuan’. Ond ni ddilynodd y Cyw gyngor Iolo. Dywedir i Maxfield gydnabod wrth y Cyw ar ddiwedd y ras yng Nghaerfaddon mai’r Cyw oedd y rhedwr gorau o’r ddau. Ond er hynny, y mae’n amlwg fod Maxfield a’i gyfeillion am roi un tro arall ar guro’r Cyw. Trefnwyd gornest rhyngddynt ar gyfer dydd Llun, 19 Gorffennaf 1847, yn Salthill ger Slough, sef ras filltir am £100 yr ochr. Yn ôl y Cardiff and Merthyr Guardian (24 Gorffennaf 1847):

Davies, although at such a distance from his native Cambria, [was] countenanced by about a hundred good men and true from this town [Caerdydd] and neighbourhood. There were a great many spectators. Both men appeared in good condition. There were not many bets made, although Davies’s friends exhibited the utmost readiness to back their man; but Maxfield’s supporters were not very sanguine — fought shy — consequently no great amount of business was transacted; and the comparatively trifling sums which were staked were upon the terms of six to four in favour of the gallant little Welshman.

Dechreuodd y ras am un o’r gloch. Aeth Maxfield ar y blaen yn syth o ryw dair llath, a chadw felly am bron 300 llath:

Davies then gradually drew near to him, and having overtaken him they ran side by side — elbow to elbow — until they reached half the whole distance, at which point Davies took the lead, stepping out like a man amidst the cheers of his friends, who, from the commencement, had felt perfectly confident in his capabilities. Gradually he increased the distance between him and Maxfield to nearly twenty-five yards; but when he was about 300 yards from the end of the race, perceiving that he had the matter all in his own hands, he slackened his pace, and ran in an easy winner ten yards before his opponent. Enthusiastic cheering welcomed his arrival. He left the neighbourhood of the race for London to receive the stakes...Most of [Davies’s friends] reached Cardiff in the ‘Prince of Wales’ steam packet on Tuesday — which was very gaily decorated — and proceeded to the New Inn, Crockherbtown [sef yr Heol y Frenhines bresennol yng nghanol Caerdydd], where their success was celebrated in a capital dinner...Maxfield, we are informed, now admits that he is an inferior runner to Davies, and will not enter into further competition with him.

Ysgrifennodd Ywain Meirion faled ar yr achlysur hwn ar fesur ‘Difyrrwch Gwŷr Harlech’. Dyma’r drydedd a’r olaf o’r baledi Cymraeg i’r Cyw Cloff sydd wedi goroesi. Mae teitl y faled yn un hir, eglurhaol:

Cân newydd o glod i John Davies ‘Cyw Cloff’ yr hwn a drechodd y Saeson blaenaf yn y deyrnas. Yn dechrau pan ddaeth John Tedlow i Gimla, Llantrisant i redeg dwy filltir â’r Cyw Cloff, a Robert Williams, pan y collodd y Sais. Yn ganlynol trechodd J. Tedlow ar heol Llanilltyd. Wedi hynny rhedodd â Thomas Maxfield, ar Gimla, Llantrisant yr hon a derfynodd mewn ymryson anarferol a hynny oherwydd i’r Sais gwympo’n wirfoddol. Er torri’r ddadl, penwyd gyrfa eilwaith i’r un dau redeg yn Lloegr gerllaw Caerbaddon (Bath) pan y bu’r Cyw yn fuddugol. Yn olaf, ar Salt Hill, ger Llundain, Gorffennaf 19eg pan y bu gyrfa rhyngddynt drachefn a bu’r Cyw yn fuddugol yno hefyd.

Fersiwn wedi’i dalfyrru a’i addasu o’r cyflwyniad sy’n rhagflaenu baled Iolo Mynwy yw’r teitl estynedig hwn, ac o ran arddull y mae baled Ywain Meirion yn nes at arddull un Iolo nag ydyw at un Edward Jones, Môn. Yn ôl Tegwyn Jones yn Baledi Ywain Meirion (Y Bala: Llyfrau’r Faner, 1980), t. 223, argraffwyd y faled gan David Jones ym Merthyr. Fe’i cynhwyswyd gan Tegwyn Jones yn ei Hen Faledi Fair, wedi’i chodi ganddo o gopi o’r faled sydd yn y Llyfrgell Genedlaethol. Dyma’r faled fel y’i ceir yn y gyfrol honno:

 

Deffro, Awen, dere i’r amlwg
Yn awr heb gelu yn ddigilwg
I ganu clod i Gymro diddrwg
O wlad Forgannwg wiw,
Yn y Bryncethin cadd ei fagu
Hwn yw’r rhedegwr gorau ’Nghymru
Doed pob perchen dawn i’w barchu
Gan ganu clod i’r Cyw,
Mae hwn yn gampwr hynod
Rhyw foddion mae’n rhyfeddod
Am redeg tir, ras fer neu hir,
Yn ôl ei ddifyr ddefod,
Ni wiw i Sais na Sgot na Gwyddel
Gynnig arno mewn un gornel
Y mae’r Cyw yn siwr o’r afel
Fe drecha heb gêl bob gŵr.

Fe redodd ras yn Sir Forgannwg
Ar y Gimla wiwdeg amlwg
A’r Cyw enillodd hon yn ddiddrwg
Mewn golwg yn ddi-gel,
Rhoes Tedlow sialens yn y funud
Am ras ferach i’w harferyd
A’r Cyw a ’nillodd hi yn Llanilltyd
Yn ddiwyd doed a ddêl;
Rhoes Maxfield sialens eger
Am ras ar randir Lloeger
Gerllaw i’r Bath bu’r ymdrech hon
Rhwng Saeson a hil Gomer,
Deg i un yn erbyn Cymro
Oedd eu lleisiau, gan ’wyllysio
Gweled Maxfield yno’n cario —
Ond concro ddarfu’r Cyw.

Ni wiw i Maxfield chwaith na Thedlow
Gynnig rhedeg mwy â’r Cymro
Gan fod y Cyw yn siŵr o’u concro
Pan dreio nerth ei draed,
Ar y Gimla fe enillodd
Ddwy râs galed ac nis ciliodd,
A dau o’r Saeson yno a drechodd —
Ei glod ar gyhoedd gaed.
Fe drechodd Gymro c’lonnog
O fewn i Sir Frycheiniog
Sef Howel Powel, enwai’n wir,
Rhedegwr pur odidog,
I drip Nathaniel fe a gerddodd
Ac yno’i amser a gymerodd
Ond Cefn Coedcymer a gyrhaeddodd
Fe’i concrodd megis cawr.

Ond y pedwerydd ddydd ar bymtheg
O fis Gorffennaf oedd yr adeg
Pan fu Maxfield a’r Cyw yn rhedeg
Yn Lloeger liwdeg lon,
Y bu tyn ymaelyd milain
Ni fu fath ymdrech ar dir Brydain
I’w harwain nag oedd hon,
A’r Saeson oedd yn gweiddi
‘Now Maxfield work the Taffy
If you now miss, the cause is this
Our purses will be empty.’
A’r Cyw ym mlaenaf tan fileinio
A Maxfield ydoedd yn diffygio
A’r Cyw a droes ei wyneb ato
Gan wenu arno’n wir.

A’r Cyw a wylltiodd fel y fellten
A Maxfield gafodd weld ei gefen
Fe goncrai’r lliwus Gymro llawen
Er gwaethaf sen pob Sais,
A’r hen Gymru a enillodd
Ar draed y Cyw, do gwn, rai canno’dd
O aur melyn os dan [sic] milodd
Pan drechodd yn ddi-dras,
Mae’n rhedwr anghyffredin
Ni phrisia ddim am undyn
Nid oes yn fyw un ‘True Blue’
Yn ail i Gyw Bryncethin,
Mae trigolion tref Llantrisaint
A’r Fro i’w ganmol nis gwn gymaint
A gwŷr y gweithiau a ddymunant
Ei ffyniant yn ddi-ffael.

Mae’i ddull yn rhedeg yn anrhydedd
I Gymru gwn trwy Dde a Gwynedd.
Ni welwyd un mor hardd ei agwedd,
Heb drawsedd ar un tro.
Nid fel llawer o redegwyr
Fu’n denu arian eu cydwladwyr
A bradwyr gwŷr eu bro,
Cydwaeddwn llwyddiant iddo,
A rhwydd-deb lle bo’n rhodio,
Hir oes ac iechyd hyfryd hedd
Mewn ’mynedd pawb ddymuno
Tra bo dwfr a gro mewn afon
A meillion teg ar ddolydd gleision
Tra enwir gwlad Morgannwg union
Bydd cofion am y Cyw.

 

Dywedir i’r Cyw guro Morgan Cox, un arall o brif redwyr y Saeson, ond hyd y gwn i, nid oes unrhyw faled wedi goroesi yn sôn am y gamp honno. Yn ei gyfrol I Fyd y Faled (t. 199), noda Dafydd Owen fod Thomas Harris, y baledwr o Drefdraeth ac Abertawe, yntau wedi llunio baled i’r Cyw Cloff. Ond er ymgynghori â Dafydd Owen, â Tegwyn Jones ac â Rheon Prichard (o Lyfrgell Prifysgol Cymru, Bangor), ni lwyddais ysywaeth i ddod o hyd i gopi ohoni.

Er i Ywain Meirion gysylltu’r Cyw â Bryncethin fwy nag unwaith yn ei faled, erbyn dechrau 1845 yr oedd wedi symud i bentref Glan-bad yng Nghwm Taf, ychydig islaw Pontypridd ar ochr ddwyreiniol afon Taf, oherwydd fe’i disgrifir yn y Cardiff and Merthyr Guardian am 22 Chwefror 1845 fel ‘a collier, a resident at "Upper Boat," about two miles from Newbridge [sef Pontypridd], near Cardiff’. Yng Nghyfrifiad 1851 y mae rhyw John Davies, a oedd yn 30 oed ar y pryd ac wedi’i eni ym mhlwyf Coety, yn cadw’r ‘Upper Boat Inn’ yng Nglan-bad, tafarn sydd yn dal yno heddiw. Er na allaf fod yn sicr, y mae’n rhesymol credu, o ran ei oed a’i fan geni, mai dyma John Davies, ‘Y Cyw Cloff’. Dichon fod ei enillion wrth redeg wedi’i alluogi erbyn 1851 i fynd yn dafarnwr. Ym mhlwyf Eglwysilan y mae Glan-bad, ac yr oedd tafarnwr yr ‘Upper Boat Inn’ yn 1851 yn briod â merch o’r plwyf o’r enw Ann (23 oed), a chanddynt dri o blant, oll wedi’u geni ym mhlwyf Eglwysilan, sef merch (5 oed) â’r enw anghyffredin Margam (enw sy’n tanlinellu cysylltiad y tafarnwr â gorllewin Bro Morgannwg), merch arall (2 oed) o’r enw Elizabeth, a bachgen bach deufis oed o’r enw John.

Gwelais gofnod yng nghofrestri plwyf Eglwysilan am briodas glöwr o’r enw John Davies, a oedd yn byw ar y pryd yn y ‘Moulder’s Arms’ yng Nglan-bad, a merch o’r enw Ann Davies ar 1 Mehefin 1844. Mab i löwr o’r enw William Davies oedd y John Davies hwn, ac ni allai ysgrifennu; ond fe dorrodd ei wraig ei henw ar gofrestr y priodasau. Un o Dwyn-tân ym mhlwyf Eglwysilan oedd hi, ac yn ferch i lafurwr o’r enw David Davies. (Dywed Dr Ceinwen H. Thomas wrthyf fod Twyn-tân yng nghyffiniau Glyn-taf, pentref ar ochr ddwyreiniol afon Taf tua milltir i’r de o Bontypridd.) Ysywaeth ni roddir union oedrannau’r ddeuddyn yn y gofrestr, dim ond nodi ei fod ef dros 21 mlwydd oed yn priodi a hithau o dan yr oedran hwnnw. Os hi yw’r Ann a oedd yn wraig tafarnwr yr ‘Upper Boat Inn’ yn 1851, ac o’r dystiolaeth y mae’n rhesymol inni gredu hynny, golyga ei bod hi tua 16 oed yn priodi a’i gŵr yn 23 oed.

Erbyn Cyfrifiad 1861, tafarnwr arall oedd yn cadw’r ‘Upper Boat Inn’, sef un Evan Davies, a symudodd i’r ardal o Lanwenarth, ger y Fenni, rywbryd o 1856 ymlaen. Ni wn i ba le y symudodd y Cyw Cloff o’r ‘Upper Boat Inn’ (os efe oedd y tafarnwr, wrth gwrs!), na dim arall am ei hanes ef a’i deulu. Yr unig beth arall y gellir ei ychwanegu yw ei fod yn parhau i redeg ar ddiwedd 1858.

Yn Hen Faledi Ffair (t. 32), cynhwysodd Tegwyn Jones faled gan Richard Hughes er clod i bencampwr arall, sef Daniel Thomas (‘Dan Bach Pontypridd’ neu ‘Dan o’r Wnion’; 1823—1910). Fel yr awgryma ei lysenw, brodor o Bontypridd ydoedd, yn fab i dafarnwr. Daeth i enwogrwydd sydyn fel paffiwr pan drechodd paffiwr Seisnig amlwg o’r enw John Brooks (y ‘Norwich Champion’) mewn gornest yn Llundain yn Hydref 1858. A thri mis yn ddiweddarach, fe drechodd y pencampwr paffio Americanaidd, Charley Lynch.

Hyd yn oed pan oedd yn ei anterth fel paffiwr, âi Dan yn gyson i wrando pregethwyr y Bedyddwyr. Wedi iddo roi’r gorau i ymladd, bu’n cadw tafarn yr ‘Union’ yng Nghaerdydd. (Dyna sy’n cyfrif am ei lysenw ‘Dan o’r Wnion’.) Mynychai’r Tabernacl, eglwys y Bedyddwyr ar yr Ais yng Nghaerdydd, a chafodd dröedigaeth o dan ddylanwad pregethau cyhoeddedig yr enwog C. H. Spurgeon (1834-92). Yn ganlyniad, trodd ei gefn yn llwyr ar ei orffennol fel paffiwr ac ymroi i hybu achos y Bedyddwyr yn Nwyrain Morgannwg.

Y mae dwy faled gan Richard Hughes i Daniel Thomas wedi goroesi. Canwyd un ohonynt adeg ei fuddugoliaeth yn erbyn Charley Lynch. (Ceir dyfyniadau ohoni yn ysgrif Dafydd Idris Edwards, ‘Caneuon Gwerin a Baledi’, yn Rhwng Dwy Afon, gol. David A. Pretty, Pwyllgor Llenyddiaeth Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd, Taf-Elái, 1991, tt. 93-4.) Y mae’r faled a atgynhyrchir yn Hen Faledi Ffair ychydig yn gynharach, ac yn canu clodydd Daniel Thomas am iddo guro’r ‘Norwich Champion’ yn Hydref 1858.

Fel yn achos y baledi er clod i’r Cyw Cloff, y mae cryn angerdd cenedlaethol yn cerdded trwy faledi Richard Hughes i Dan Pontypridd. Nid gornest rhwng dau baffiwr yn unig a ddisgrifir yn y faled am yr ornest rhyngddo â’r ‘Norwich Champion’, ond gornest rhwng Cymro a Sais, ac y mae awyrgylch y faled yn bur debyg i awyrgylch y Maes Cenedlaethol mewn gêm rygbi ryngwladol rhwng Cymru a Lloegr. Fe’i diweddir gan benillion sy’n gorfoleddu am i’r Cymro drechu’r Sais, ac yn eu plith ceir pennill sy’n crybwyll y Cyw Cloff:

Nid oes gwiw i’r Saeson bellach
 gwŷr Morgannwg i ymyrrath;
Y Cyw a’u trecha i redeg gyrfa,
Dan Pontypridd a dorra’u clonna.

A dyna’r cyfeiriad olaf y gwn i amdano at John Davies, ‘Y Cyw Cloff o Fryncethin’.

Y mae’r baledi i’r Cyw Cloff yn enghraifft ardderchog o’r swyddogaeth newyddiadurol a gyflawnai baledi’r bedwaredd ganrif ar bymtheg. Anodd iawn bellach yw mesur pa mor eang y treiddiai’r adroddiadau am gampau’r Cyw a gyhoeddwyd mewn papurau newydd megis y Cardiff and Merthyr Guardian. Ond gallwn fod yn bur sicr i’r baledi gario’r hanes ymhellach o lawer na’r papurau hynny i blith trwch poblogaeth cymoedd y De, a honno’n aml iawn yn boblogaeth anllythrennog ac uniaith Gymraeg.

I’r Cymry llythrennog yr oedd, wrth gwrs, wasg Gymraeg ar gael — gwasg a oedd i raddau helaeth yn gynnyrch yr enwadau Anghydffurfiol. Fe geir peth newyddion cyffredinol yn ogystal â newyddion crefyddol ac enwadol mewn cylchgronau megis Y Drysorfa, Y Dysgedydd a Seren Gomer, a gellir darllen ynddynt bytiau am lofruddiaethau a thrychinebau, am weithgareddau’r Senedd, ac yn y blaen. Ond chwiliais yn ofer ynddynt am unrhyw gyfeiriad at redegfeydd y Cyw Cloff yn erbyn Thomas Maxfield yn 1846-47. Perthynai’r rheini i Gymru ‘Buchedd B’ y dydd — Cymru nad oedd cyfryngau’r enwadau, wrth reswm, yn awyddus iawn i’w hybu. Ond tybed ai cyd-ddigwyddiad yw’r ffaith i’r Traethodydd am Orffennaf 1847 gario erthygl ar ‘Y Campau Olympaidd’, erthygl sy’n treulio tipyn o’i gofod yn trafod y gamp o ‘redeg gyrfa’ a’r cyfeiriadau sydd gan yr Apostol Paul at redeg yn ei epistolau?

 

Ôl-Nodyn (2006)

Wrth drafod campau’r ‘Cyw Cloff’ yn ei thraethawd MPhil, ‘Athletic Competition in Pre-Industrial Wales, c.1066-c.1888’ (Prifysgol Birmingham, 1994), y mae Emma Lile yn tynnu sylw at nodyn gan E. E. C. Gardens yn Byegones, 31 Ionawr 1894, t. 266, sy’n sôn am frodor o Lansanffraid-ym-Mechain yn sir Drefaldwyn o’r enw John Davies, a oedd wedi dangos gallu nodedig fel rhedwr ac wedi synnu trigolion ei bentref pan oedd yn llanc ifanc trwy redeg o’r Lion Inn yn Llansanffraid i’r Goat Inn yn Llanfyllin mewn 28 munud. Yr oedd yn un o ganwyr clychau Eglwys Llansanffraid. Dywedodd wrth E. E. C. Gardens nad oedd wedi colli’r gwasanaeth boreuol yn yr Eglwys ar y Sul dros gyfnod o 70 mlynedd. Yn ôl Gardens, bu farw pan oedd yn 82 oed o lid yr ysgyfaint, a ddatblygodd ar ôl iddo ddal annwyd wrth ganu clychau Eglwys Llansanffraid yn oerfel y clochdy.

Y mae Emma Lile wedi cymryd, yn ei thraethawd MPhil ac mewn erthyglau diweddarach, mai cyfeirio at John Davies, ‘Y Cyw Cloff’, y mae’r nodyn yn Byegones. Ond nid felly. Yn un peth, y mae tystiolaeth y baledwyr yn bendant mai un o Forgannwg oedd y ‘Cyw Cloff’, a’i fod wedi’i fagu ym Mryncethin; ond y mae’n amlwg mai un a dreuliodd y rhan fwyaf o’i oes yn Llansanffraid-ym Mechain oedd y John Davies o sir Drefaldwyn. Ar ben hynny, fe aned ‘Y Cyw Cloff’ yn 1822; ond yr oedd y John Davies o sir Drefaldwyn wedi marw erbyn Ionawr 1894, ac yn 82 oed yn marw. Rhaid felly ei fod wedi’i eni rywbryd cyn 1812. Ond ceir un cyd-ddigwyddiad trawiadol. Y mae Bryncethin ym mhlwyf Llansanffraid-ar-Ogwr (St Bride’s Minor). Y mae hynny’n golygu, felly, fod un rhedwr nodedig o’r enw John Davies yn hanner cyntaf y bedwaredd ganrif ar bymtheg yn frodor o blwyf Llansanffraid-ar-Ogwr a rhedwr nodedig arall o’r un enw a’r un cyfnod yn frodor o Lansanffraid-ym-Mechain.

Y mae Emma Lile yn trafod rhywfaint ar y ‘Cyw Cloff’ a rhedegwyr eraill yn ei herthyglau, ‘Professional Pedestrianism in South Wales During the Nineteenth Century’, The Sports Historian, 20:2 (November 2000), tt. 94-105, a ‘Chwaraeon Tymhorol yng Nghymru Cyn y Chwyldro Diwydiannol’, yn Geraint H. Jenkins (gol.), Cof Cenedl XVIII (Llandysul: Gwasg Gomer, 2003), tt. 71-98. Ymatebodd Tegwyn Jones i’m herthygl, ‘Baledi Er Clod i’r "Cyw Cloff o Fryncethin" ’, gan dynnu sylw at faledi eraill am redegwyr, yn ei erthygl ‘Rhagor o Redwyr’, Canu Gwerin, 16 (1993), tt. 38-42. Cyhoeddais erthygl Saesneg ar yr un maes, ‘The Lame Chick and the North Star: Some Ethnic Rivalries in Sport as Reflected in Mid-Nineteenth-Century Welsh Broadsides’, yn Marjetka Golež (gol.), Ballads between Tradition and Modern Times (Lubljana, Slofenia: Slovenian Academy of Sciences & Arts, 1998), tt. 93-100.