Skip to content
Skip to navigation menu

 

Griffith John Williams (1892-1963)

Athro'r Gymraeg, Prifysgol Caerdydd: 'Yr ysgolhaig Cymraeg mwyaf erioed' 

Professor of Welsh, Cardiff University: 'The greatest Welsh scholar ever'

 

G. J. Williams: Yr Ysgolhaig / The Scholar

Portrait of G. J. Williams

"credaf mai'r ysgolhaig a edmygai fwyaf oedd Edward Lhuyd… Iddo ef, yr oedd Lhuyd yn 'ŵr cwbl eithriadol, yn un o'r gweithwyr galluocaf a welwyd yng Nghymru erioed, gŵr yr oedd ganddo ddawn ryfeddol i feistroli pynciau, a hynny mewn byr amser', ei 'ddidordeb yn ymledu dros holl feysydd dysg', a hefyd yn ŵr a chanddo 'graffter syfrdanol' a 'gallu rhyfeddol i weithio'n ddi-baid'. Ond uwchlaw pob dim, yr oedd Lhuyd yn 'bersonoliaeth fawr', yn gallu ysbrydoli a 'chipio dychymyg' y rhai a ddeuai i gysylltiad ag ef…  Ni ellid gwell disgrifiad o Griffith John Williams ei hun."

-- Aneirin Lewis M.A. (1924-89), myfyriwr i G.J.W., ac wedyn uwch-ddarlithydd yng Nghaerdydd. Dysg a Dawn: Cyfrol Goffa Anerin Lewis (gol. W. A. Mathias, E. W. James), Cylch Llyfryddol Caerdydd, 1992, t. 33.

"Griffith John Williams was a truly great Welsh scholar. He made a pioneering and lasting contribution to our understanding of literature and learning in Welsh, especially the history of the Glamorgan literary tradition, and the special place of Iolo Morganwg in that history. However, this was only one part of the totality of his contribution. Indeed, in the view of Dr Thomas Parry, 'he was the greatest Welsh scholar that Wales ever saw' (Y Faner, 29 February 1980)." 

-- Aneirin Lewis M.A. (1924-89), a student of G.J.W., and later a senior lecturer in Cardiff. Dysg a Dawn: Cyfrol Goffa Anerin Lewis (gol. W. A. Mathias, E. W. James), Cylch Llyfryddol Caerdydd, 1992, t. 67.

 

G. J. Williams, Iolo Morganwg a Chywyddau'r Ychwanegiad. Cymdeithas yr Eisteddfod Genedlaethol (1926)

G. J. Williams, Iolo Morganwg a Chywyddau'r Ychwanegiad. Cymdeithas yr Eisteddfod Genedlaethol (1926)

 

"Iolo Morganwg oedd ei ddewis bwnc  pan wahoddwyd ef i draddodi darlith flynyddol y B.B.C. Saesneg o flaen cynulleidfa yn Y Bont-faen, Morgannwg, yng ngwanwyn 1963. Ysywaeth, ni chafodd ei thraddodi ond i'w wraig yn nhawelwch ei stydi, a thra oedd yn newid geiriad y paragraff olaf, trawyd ef yn sâl wrth ei ddesg a bu farw ymhen ychydig ddyddiau ar 10 Ionawr 1963." 

"Iolo Morganwg was his chosen subject when he was invited to deliver the annual lecture of the B.B.C. Welsh Home Service before an audience in Cowbridge, Glamorgan, in the spring of 1963. Alas, he delivered it only to his wife in the quietness of his study, because as he was amending the wording of the final paragraph, he was taken ill at his desk and he died within a few days on 10 January 1963."

-- Aneirin Lewis, o'r cofnod ar G.J.W. in Y Bywgraffiadur Cymreig / from the entry on G.J.W. in the Dictionary of Welsh Biography.

 

Un o lyfrau Iolo Morganwg â nodiadau yn ei law ei han / One of a number of books owned by Iolo Morganwg, with manuscript annotations.

Un o lyfrau Iolo Morganwg â nodiadau yn ei law ei han / One of a number of books owned by Iolo Morganwg, with manuscript annotations.

 

G. J. Williams: Ei Ddylanwad / His Influence

"Er ei fod fel petai'n osgoi bod yn arweinydd gweithredol amlwg yn gyhoeddus, eto, yr oedd o gwmpas ac o'r tu ôl i lawer o'r symudiadau a'r mudiadau a wnaeth gymaint i gryfhau bywyd Cymru a'r iaith Gymraeg yn ystod y ganrif hon, gan ddechrau gyda'r cylchgrawn Y Wawr yng Ngholeg Aberystwyth yn 1913; Y Llenor yn 1922…; y Mudiad Cymreig a’r Blaid Genedlaethol; Undeb Cenedlaethol Athrawon Cymru…; y Clwb Llyfrau Cymraeg…; Llên Cymru, y bu’n olygydd arno o 1950 hyd ei farw… Ac yn ddiweddar, sylweddolwyd un o'i freudwyddion mawr ynglŷn â dysg Gymraeg, sef, yn ei eiriau ef, 'Adran Ymchwil i Astudiaethau Cymraeg' [y Ganolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd heddiw]."

-- Aneirin Lewis, Dysg a Dawn: Cyfrol Goffa Anerin Lewis (gol. W. A. Mathias, E. W. James), Cylch Llyfryddol Caerdydd, 1992, t. 80.

"[G. J. Williams and his wife] made their home from 1922 to 1933 at 9 Bedwas Place, Penarth, and it was there on 7 Jan. 1924, that Saunders Lewis and W. Ambrose Bebb came together to found a 'new Welsh movement', to decide on fundamental principles and to choose W. Ambrose Bebb as President of the movement, Saunders Lewis as Secretary and G. J. Williams as Treasurer. This was the south Wales strand that joined with the strand from north Wales to establish the Welsh National Party (Plaid Cymru) at the national eisteddfod at Pwllheli in August 1925.”

-- Aneirin Lewis, from the entry on G.J.W. in the Dictionary of Welsh Biography.

 

Dogfennau o'r archifau am sefydlu Darlith Goffa yn enw G.J. Williams; gweler yma ohebiaeth gan Saunders Lewis, Kate Roberts a Gwynfor Evans / Documents from the archives about establishing a G. J. Williams memorial lecture; seen here are letters from Saunders Lewis, Kate Roberts and Gwynfor Evans.

Dogfennau o'r archifau am sefydlu Darlith Goffa yn enw G. J. Williams; gweler yma ohebiaeth gan Saunders Lewis, Kate Roberts a Gwynfor Evans / Documents from the archives about establishing a G. J. Williams memorial lecture; seen here are letters from Saunders Lewis, Kate Roberts and Gwynfor Evans.

 

Gweler hefyd / See also:

Y Llenor, 1941, 20.

Y Wawr (Coleg Prifysgol Cymru, Aberystwyth), 1914, 1, 2. Pan oedd G. J. Williams yn fyfyriwr yn Aberystwyth / From G. J. Williams’s student days at Aberystwyth.

Llên Cymru, Cyfrol 1, 1950-51. Golygwyd gan G. J. Williams, 1950-63 / Edited by G. J. Williams, 1950-63).

Cadrawd (T. C. Evans). Gwaith Iolo Morganwg, 1913. Llun o Iolo a’i gartref / Photo of Iolo and his home.

Saunders Lewis. Meistri a’u Crefft…GPC, 1981.

J. E. Jones. Tros Gymru: J. E. a’r Blaid. Gwasg John Penry, 1970.

Aneirin Lewis (gol.). Agweddau ar Hanes Dysg Gymraeg: Detholiad o Ddarlithiau G. J.Williams. GPC, 1985.

W. Alun Mathias / E. Wyn James (gol.). Dysg a Dawn: Cyfrol Goffa Aneirin Lewis. Cylch Llyfryddol Caerdydd, 1992.

Philip Henry Jones / Eiluned Rees (ed.). A Nation and its Books. NLW, 1998. Llun o lyfrgell G. J. Willams ar y clawr / Picture of G. J. Williams’ library on the cover.

Ceri Lewis. Griffith John Williams: Y Dyn a’i Waith. Llys yr Eisteddfod, 1994.  

 

G. J. Williams: Ei Waith / His Work

"Darlithiai ar ei hoff bynciau – yr Elfen Ladin yn yr Iaith Gymraeg, Hanes y Gymraeg a'r Ieithoedd Celtaidd, Gramadeg Hanesyddol, Ieitheg Gymharol, Hen Gymraeg, Hanes y Llawysgrifau a'r Gramadegau a Hanes Ysgolheictod. Dyna ddigon o waith i un dyn, ond yn ychwanegol at hyn, ef hefyd a ddarlithiai ar destunau rhyddiaith yr Oesoedd Canol (y Mabinogi, etc.), yr Hen Ganu, Llydaweg, a hefyd ar hanes llenyddiaeth Gymraeg o'r unfed ganrif ar bymtheg ymlaen. Ar ben hyn i gyd, rhoddai gwrs manwl ar Ramadeg Cymraeg Diweddar yn ogystal â chywiro cyfieithiadau wythnosol dosbarthiadau tair blynedd… Ni all y cyfarwydd lai na rhyfeddu ei bod yn bosibl i un gŵr gyflawni cymaint."

-- Aneirin Lewis, Dysg a Dawn: Cyfrol Goffa Anerin Lewis (gol. W. A. Mathias, E. W. James), Cylch Llyfryddol Caerdydd, 1992, tt. 30-31.

"He threw himself into his work as a lecturer and in 1946 he succeeded W. J. Gruffydd in the Chair of Welsh, because by this time he had developed into one of the foremost Welsh scholars of his day. In order to separate the chaff from the wheat in the vast learning and abundant imagination of Iolo Morganwg, he set about mastering every aspect of knowledge about the Welsh language and its literary tradition. Consequently, he made a brilliant contribution in many fields. Gramadegau'r Penceirddiaid (1933) is a standard work on the grammar of poets in the middle ages with an authoritative preface on the manuscripts and the education of the bards. He undertook a thorough study of the work of the Welsh scholars of the Renaissance producing in 1930 editions of William Midleton's Barddoniaeth neu Brydyddiaeth (1593) and Henri Perri's Egluryn Phraethineb (1595). But his masterpiece in this field was his expert editing of Gruffydd Robert's Welsh grammar of 1567 (1939), a work that entailed research at the Biblioteca Ambrosiana in Milan and other libraries in Italy."

--Aneirin Lewis, From the entry on G.J.W. in the Dictionary of Welsh Biography.

 

William Midleton, Barddoniaeth neu Brydyddiaeth (1593). Edited by G. J. Williams in 1930.

William Midleton, Barddoniaeth neu Brydyddiaeth (1593). Edited by G. J. Williams in 1930.

 

Gweler hefyd / See also:

G. J. Williams. Iolo Morganwg: Y Gyfrol Gyntaf. GPC, 1956.

G. J. Williams. Iolo Morganwg. BBC Wales, 1963.

G. J. Williams. Edward Lhuyd ac Iolo Morganwg. Amgueddfa Werin Cymru, 1964.

G. J. Williams. Traddodiad Llenyddol Morgannwg. GPC, 1948.

G. J. Williams ac E. J. Jones (gol.). Gramadegau’r Penceirddiaid. GPC, 1934.

G. J. Williams. Iolo Morganwg a Chywyddau’r Ychwanegiad. Cymdeithas yr Eisteddfod Genedlaethol, 1926.

G. J. Williams. 'Yr Henwyr', Oxford Book of Welsh Verse, ed. Thomas Parry. OUP, 1962.

G. J. Williams (gol.). Y Ffydd Ddi-ffuant… gan Charles Edwards… 1677. GPC, 1936.

G. J. Williams (gol.). Barddoniaeth neu Brydyddiaeth… gan William Midleton, 1593 (facsimile). GPC, 1930, gol. G. J. Williams.

 

Charles Edwards, Y Ffydd Ddi-ffvant. Sef, Hanes y Ffydd Gristianogol (1677). Edited by G. J. Williams in 1936.

Charles Edwards, Y Ffydd Ddi-ffvant. Sef, Hanes y Ffydd Gristianogol (1677). Edited by G. J. Williams in 1936.