Gorolwg
Bwriad y prosiect ymchwil hwn yw ystyried ymha ffyrdd y gellir gwella'r modd y trosglwyddir yr iaith Gymraeg i oedolion. Dechreuodd y prosiect ym mis Mai 2010 a bydd yn rhedeg am ddwy flynedd. Mae sawl elfen i’r gwaith:
- dulliau/methodolegau dysgu ac addysgu ieithoedd i oedolion;
- theori dysgu iaith;
- natur yr adnoddau dysgu ac addysgu sydd eu hangen er mwyn trosglwyddo’r Gymraeg i oedolion mewn modd effeithiol;
- y gwahanol ystyriaethau fydd yn dylanwadu ar ddatblygiad cwricwlwm Cymraeg i Oedolion (CiO) yn y dyfodol.
Rhoddir ystyriaeth i’r materion canlynol yn neilltuol:
- natur y cwricwlwm CiO presennol, sut mae’r cwricwlwm yn cefnogi dysgu ac addysgu effeithiol a gwelliannau posibl;
- gwersi i'w canfod o sefyllfaoedd perthnasol o wahanol rannau’r byd;
- achredu, ariannu, hyfforddiant i ymarferwyr, a goblygiadau cost unrhyw newidiadau i’r cwricwlwm CiO.
Ariennir yr ymchwil gan Adran Plant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau, Llywodraeth Cynulliad Cymru.




