Patagonia
Cryfhau ein perthynas â'r Wladfa
Banco Santander yn cwrdd â Prifysgol Caerdydd fis Medi 2008
Gaeaf 2009
Mae gan Ysgol y Gymraeg ym Mhrifysgol Caerdydd nifer o gysylltiadau â’r Wladfa ym Mhatagonia, rhai ohonynt yn ymestyn yn ôl dros flynyddoedd lawer.
- Mae ein Canolfan Cymraeg i Oedolion yn un o’r partneriaid yng nghynllun y Cynulliad Cenedlaethol i anfon athrawon Cymraeg i’r Wladfa.
- Mae’r Wladfa yn un o feysydd ymchwil ein Canolfan Uwchefrydiau Cymry America. Bu’n destun sawl darlith a chynhadledd dan nawdd y Ganolfan, ac ar hyn o bryd mae Walter Brooks, sy’n frodor o Batagonia ac yn Swyddog Ymchwil yn y Ganolfan, yn ymchwilio i’r papurau newydd Cymraeg a gyhoeddwyd yno.
- Dan nawdd Ymddiriedolaeth Leverhume, mae’r Athro Robert Owen Jones, sy’n Athro yn yr Ysgol ac yn un o’r awdurdodau pennaf ar hanes y Gymraeg ym Mhatagonia, wedi bod yn gweithio ar brosiect ymchwil ar hanes cymdeithasol y Gymraeg yn Nyffryn Camwy ac yn yr Andes.
Ac ar ben hyn oll, y mae un o ysgrifenyddesau’r Ysgol, Alicia Arthur, yn dod o’r Wladfa!
Ond y mae cynlluniau ar y gweill a fydd yn datblygu ein perthynas â’r Wladfa hyd yn oed ymhellach.
Mae Banco Santander yn noddi cynlluniau sy’n hybu cysylltiadau rhwng prifysgolion yn Ewrop a rhai yn Ne America. Prifysgol Caerdydd yw’r brifysgol gyntaf yng Nghymru i ddod yn bartner yn rhwydwaith rhyngwladol ‘Prifysgolion Santander’. Arwyddwyd cytundeb cydweithredu ym mis Medi 2008 rhwng Prifysgol Caerdydd ac Abbey National, is-gwmni Banco Santander ym Mhrydain, a fydd yn galluogi Prifysgol Caerdydd i sefydlu nifer o gysylltiadau ymchwil a dysgu â phrifysgolion yn Ne America sy’n rhan o rwydwaith ‘Prifysgolion Santander’.
Mae hwn yn ddatblygiad arbennig o gyffrous yn achos Ysgol y Gymraeg ym Mhrifysgol Caerdydd, oherwydd fe fydd nawdd Banco Santander yn caniatáu i ni ddatblygu cysylltiadau â nifer o sefydliadau addysg uwch ym Mhatagonia, ac yn enwedig â Phrifysgol Genedlaethol Patagonia yn Nhrelew.
Fel cam cyntaf yn y cydweithio hwn, aeth nifer o staff Ysgol y Gymraeg ar daith i'r Wladfa yng ngwanwyn 2009 (hynny yw, gwanwyn Cymru gan yr oedd yn hydref yn y Wladfa!). Yn eu plith yr oedd arbenigwyr ar ddysgu Cymraeg i oedolion a chynllunio ieithyddol, ac ar lenyddiaeth a hanes y Wladfa. Cliciwch yma i weld lluniau o'r daith honno.
Bwriad yr ymweliad cyntaf hwn oedd gosod y sylfeini ar gyfer cydweithio pellach, a’r nod dros y blynyddoedd nesaf yw gweld ffrwd reolaidd o staff a myfyrwyr o Ysgol y Gymraeg yng Nghaerdydd yn mynd draw i astudio ac ymchwilio am gyfnodau ym Mhatagonia, a ffrwd o staff a myfywyr o Batagonia yn dod yn eu tro i astudio ac ymchwilio yng Nghaerdydd.
Daeth criw o staff a myfyrwyr Prifysgol Gendlaethol Patagonia yn Nhrelew i ymweld â Phrifysgol Caerdydd ym mis Chwefror 2010. Cliciwch yma i ddarllen am eu hymweliad.
Rydym yn ddiolchgar iawn i Banco Santander am y nawdd hael hwn sy’n cynnig cyfle gwych i gryfhau ymhellach berthynas Ysgol y Gymraeg â’r Wladfa ym Mhatagonia. Bydd yn fodd i hybu’n sylweddol y berthynas rhwng Cymru a Phatagonia ym myd addysg uwch ac ymchwil academaidd, a’r holl fudd addysgol, economaidd a diwylliannol a ddaw o hynny.



