Canolfan Uwchefrydiau Cymry America
Sefydlwyd Canolfan Uwchefrydiau Cymry America yn 2001 er mwyn hybu astudio diwylliant, iaith, llên a hanes y Cymry ar gyfandiroedd America, ac yn enwedig yn yr Unol Daleithiau, Canada a Phatagonia.
Trwy drefnu seminarau, darlithoedd a chynadleddau, trwy gyhoeddiadau, a thrwy hybu cydweithio a chyd-drafod ysgolheigaidd, ei nod yw bod yn ganolbwynt i rwydwaith rhyngwladol o ysgolheigion sy'n ymddiddori mewn maes astudio sydd ar gynnydd cyflym.
Lleolir y Ganolfan yn Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Caerdydd. Ei chyd-Gyfarwyddwyr yw Dr E Wyn James o Ysgol y Gymraeg a Dr Bill Jones o'r Ysgol Hanes ac Archaeoleg.
Cynadleddau
Cynhaliwyd Degfed Gynhadledd Flynyddol y Ganolfan ddydd Gwener, 11 Tachwedd 2011 yn Ysgol y Gymraeg. Teitl y gynhadledd oedd 'Cymry ar Daith ar Gyfandiroedd America'.
Darlithoedd
Traddodwyd Wythfed Ddarlith Gyhoeddus y Ganolfan ddydd Iau, 31 Mawrth 2011, am 5.30pm, yn Ystafell 0.31, Adeilad y Dyniaethau, Prifysgol Caerdydd.
Yr Athro Colin H. Williams, sy'n Athro Ymchwil yn Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Caerdydd, oedd yn traddodi'r ddarlith a'i destun oedd 'The Office of Language Commissioner: The Welsh Model from a Canadian Perspective'.



