Neidio at y cynnwys
Neidio at y fwydlen fordwyo

Ymchwil

Ymchwil Ôl-Raddedig

Myfyrwyr PhD dan ofal yr Uned:

Prosiectau Ymchwil Presennol

EUNOM- Aelod o Brosiect Ewropeaidd ar Amlieithrwydd

Prosiect EUNOM


Cynyddu gallu a throsglwyddo sgiliau iaith yn economi ddigidol Cymru

Mae'r prosiect tair blynedd hwn, a ariennir drwy ysgoloriaeth KESS, yn edrych ar ddysgu electronig yng nghyd-destun oedolion sy'n dysgu Cymraeg yn Nant Gwrtheyrn. Bydd cyfres o adnoddau e-ddysgu yn cael eu cynhyrchu er mwyn ychwanegu at brofiad dysgu dysgwyr y Nant, ar ôl wythnos o drochi iaith yn y ganolfan breswyl. Bydd safbwyntiau dysgwyr yn helpu i hysbysu'r broses greadigol ac yn cyfrannu at werthusiad o'r adnoddau a fydd wedi'u datblygu.

Y bobl sy'n cyfrannu at yr ymchwil hwn yw:

Yr Athro Colin H Williams, Athro Ymchwil, Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Caerdydd

Dr Adrian Price, Cyfarwyddwr Dysgu, Canolfan Cymraeg i Oedolion Caerdydd a Bro Morgannwg

Pegi Talfryn, Pennaeth Addysgol, Canolfan Iaith a Threftadaeth Cymru Nant Gwrtheyrn

Jennifer Marshall, Myfyrwraig PhD, Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Caerdydd

 

Swyddfa’r Comisiynydd Iaith yng Nghymru, Iwerddon a Chanada

Dyddiad dechrau: 25 Mehefin 2012

Dyddiad gorffen: 24 Mehefin 2015

Bwriad yr ymchwil hon yw canfod yr egwyddorion sy’n arwain at arferion da o safbwynt rheoleiddio ieithoedd swyddogol yng Nghymru, Iwerddon a Chanada. Y prif ffocws fydd dulliau gweithredu Comisiynydd y Gymraeg, a sefydlwyd ym mis Ebrill 2012, yn ogystal ag effaith Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011. Bydd y gwaith yn canolbwyntio ar flynyddoedd cyntaf gweithrediad Comisiynydd y Gymraeg. Gorchwyl y Comisiynydd fydd creu safonau cenedlaethol ar gyfer gwasanaethau Cymraeg a fwriedir i wella system y Cynlluniau Iaith Gymraeg o dan Ddeddf yr Iaith Gymraeg 1993.
Caiff ymchwiliadau eu cynnal ar swyddogaethau’r Comisiynydd Iaith yn Iwerddon ac yng Nghanada ar y lefel ffederal ac is-ffederal, a hynny gyda’r bwriad o gynnig dehongliad cymharol a hewristig. Disgwylir y bydd yr ymchwil yn ei chyfanrwydd o gymorth i ymgynghorwyr polisi a gweision cyhoeddus yn yr awdurdodaethau dan sylw yn ogystal ag i eraill sy’n ymddiddori yn y meysydd canlynol: cydraddoldeb; hawliau dynol; hyrwyddo a rheoleiddio ieithoedd swyddogol ynghyd â galluogi cymunedol yn Ewrop a Gogledd America.

Bydd y fethodoleg yn cynnwys gwaith archifol, adolygiadau testunol a dogfennol, gwaith maes a chyfweliadau gyda staff y Comisiynwyr Iaith, Comisinwyr Seneddol a Chomisiynwyr eraill, gwleidyddion, cyfreithwyr cyfansoddiadol ynghyd ag ystod o weision cyhoeddus.

Mae mwy o fanylion am brosiect Swyddfa'r Comisiynydd Iaith yng Nghymru, Iwerddon a Chanada ar gael yma

Dysgu Cymraeg fel Ail Iaith

Bwriad y prosiect ymchwil hwn yw ystyried ymha ffyrdd y gellir gwella'r modd y trosglwyddir yr iaith Gymraeg i oedolion. Dechreuodd y prosiect ym mis Mai 2010 a bydd yn rhedeg am ddwy flynedd. Mae sawl elfen i’r gwaith:

Mae'r adroddiad llawn ar gael yma

Ariennir yr ymchwil gan Adran Plant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau, Llywodraeth Cynulliad Cymru.

Prosiectau Ymchwil Blaenorol

‘Ombwdsman Ieithyddol: Cymariaethau Rhyngwladol.’ (2009-10)

Prosiect peilot a gefnogir gan Fwrdd yr Iaith Gymraeg, sy'n ychwanegu at yr ymchwil ar Reoleiddio Iaith a gefnogir gan yr Academi Brydeinig

‘Mapio Amrywiaeth Ieithyddol mewn Cymdeithasau Amlddiwylliannol’ (2006-7)

Prosiect Sefydliad Gwyddoniaeth Ewrop, a gydlynir gan Guus Extra, Prifysgol Tilburg, Yr Iseldiroedd, a Monica Barni, Università per Stranieri di Siena, Yr Eidal.

‘From Act to Action’ (2005-2008)

Astudiaeth gymharol o effeithiolrwydd deddfwriaeth ieithyddol yn y Ffindir, Iwerddon a Chymru. Fe’i noddir gan yr Undeb Ewropeaidd, EBLUL, Rhwydwaith Byrddau Iaith Ewrop. Y cydlynydd yw Svenska Kulturfonden, Helsinki.

‘Cyfalaf Iaith’ (2006-2009)

Dadansoddiad o effaith lleoliad a thwf y cyfryngau ar natur economaidd a chymdeithasol cymunedau arbennig. Noddir y gwaith gan Fwrdd yr Iaith Gymraeg drwy ysgoloriaeth PhD (Caroline Walters).

‘Y Defnydd o’r Iaith Wyddeleg yn Llysoedd Iwerddon’ (2006-2009)

Noddir y gwaith gan Lywodraeth Iwerddon, Adran y Gaeltacht, drwy ysgoloriaeth PhD (Sean Ó Conaill).