Neidio at y cynnwys
Neidio at y fwydlen fordwyo

Aelodau ac Ysgolheigion ar Ymweliad

Aelodau Craidd, Prifysgol Caerdydd

Aelodau Cysylltiol

Ysgolheigion ar Ymweliad

Bydd yr Athro Vic Webb, De Affrica a Martin Normand, Prifysgol Montreal, Canada yn ymweld â'r Uned. Y cyntaf am bythefnos ym Mis Hydref 2011 a'r ail rhwng Hydref 1af 2011 a chanol Tachwedd 2011. Bydd y ddau'n gweithio gyda'r Athro Colin Williams ar Stratagaethau Ieithyddol a Chynllunio Iaith.

Yn ystod mis Mawrth 2011 bu'r Athro Colin H. Williams yn cydweithio â Dr Akiko Matsuyama, Tokyo, a'r Athro Xavier Lamuella, Prifysgol Gerona, Catalonia. Roedd y gwaith hwn yn ymwneud â pholisi iaith yng Nghymru ac agweddau ar addysg ddwyieithog.

Ym mis Gorffennaf 2010 ymunodd y Dr Julia Barnes o Brifysgol Mondragón yng Ngwlad y Basg â’r Uned gan wneud ymchwil ar y cyd â’r Athro Colin Williams ar bolisi iaith Cymru a Gwlad y Basg.  Bydd yn cymharu’r hyfforddiant a roddir i athrawon sy’n addysgu trwy gyfrwng y Gymraeg â’r hyfforddiant a roddir i athrawon sy’n addysgu trwy gyfrwng y Fasgeg.

Os oes gennych ddiddordeb mewn ymweld â ni, cysylltwch â’r:

Athro Colin Williams

Ffon: +44(0)29 208 75657