Uned Ymchwil Iaith, Polisi a Chynllunio
Nod yr Uned
Sefydlwyd yr Uned Ymchwil Iaith, Polisi a Chynllunio yn gynnar yn 2005 er mwyn ffurfioli diddordebau ymchwil yn Ysgol y Gymraeg ym maes dadansoddi polisi iaith, datblygu methodoleg ac astudiaethau ymddygiad ieithyddol. Nod yr Uned yw arwain datblygiadau cenedlaethol a rhyngwladol ym maes cynllunio ieithyddol. Rhoddir pwyslais neilltuol ar ddeall goblygiadau cymdeithasol, economaidd ac amgylchfydol iaith yn hanesyddol a daearyddol. Mae gwaith yr Uned yn ymestyn o’r lleol i’r byd-eang. Gwneir defnydd o ystod eang iawn o dechnegau ymchwil meintiol ac ansoddol.
Mae’r Uned Ymchwil Iaith, Polisi a Chynllunio yn ganolbwynt ar gyfer gwaith rhyng-ddisgyblaethol, gan ymgymryd â’r canlynol:
- ymchwil ar faterion polisi a chynllunio ieithyddol;
- cyfarwyddo a dysgu ar lefel MA, MPhil a PhD;
- hwyluso rhwydweithiau ymchwil ar draws y Brifysgol a chyflawni gwaith ymchwil yng nghyd-destun y gymuned polisi iaith yn rhyngwladol.
Pum thema sydd yn rhoi ffocws i waith yr Uned, sef:
- dwyieithrwydd yn y cyd-destun Cymreig;
- polisi a chynllunio ieithyddol cymharol;
- dadansoddi daearyddol a gofodol;
- materion llywodraethiant, hawliau lleiafrifol a lluosrywiaeth;
- cynllunio gofodol, amlddiwylliannedd ac amlieithrwydd.



