Neidio at y cynnwys
Neidio at y fwydlen fordwyo

Digwyddiadau

Digwyddiadau'r gorffennol

30 Mawrth 2011: Yn Nghaerdydd

Yr Athro Xavier Lamuela (Prifysgol Girona)
Seminar yn dehongli datblygiadau yn y Gatalaneg, yr Ocitaneg a'r Friulianeg
Ystafell 1.69, Ysgol y Gymraeg, Adeilad y Dyniaethau
Cyflwyniadau gan Dr Patrick Carlin, Dr Diarmait Mac Giolla Chriost, Dr H.S Thomas a'r Athro Colin Williams.

 

20 a 21 Mai 2010: Yn Marcelona

Yr Athro Colin Williams
Cyfres o ddarlithoedd sef 1. 'Language, Rights and Legislation'; 2. ' Legislation and Bilingual Services: A Comparative Analysis'; 3. ' In Defence of Language Rights: Language Commissioners in Canada, Ireland and Wales'.
Linguamón, Casa de Llengues, Barcelona

Rhaglen y Digwyddiad [275KB]

 

19 Ebrill 2010: Yng Nghaerdydd

Cynhadledd Un Dydd: 'Yr Ysgolion Cymraeg mewn Cyd-destun Rhyngwladol'
Neuadd a Chanolfan Gynadledda’r Brifysgol, Pen-y-lan, Caerdydd

Rhaglen a Ffurflen Gofrestru [10KB]

 

27 Mai 2009: Yng Nghaerdydd

Gweithdy CHRI: Rheoleiddio a Hyrwyddo Ieithoedd Swyddogol yn y DU ac Iwerddon

Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wrthi'n llunio Mesur Cynulliad newydd ar yr Iaith Gymraeg, a all gynnwys sefydlu Comisiynydd Iaith i Gymru.

Bydd y broses o gadarnhau'r Mesur yn San Steffan yn cymryd hyd at ddiwedd 2010. O ganlyniad, mae cyfle i godi ymwybyddiaeth o fewn y byd academaidd a’r gymdeithas sifil er mwyn asesu sut y gall datblygiad o’r fath effeithio ar statws cyfreithiol a chymdeithasol yr ieithoedd Celtaidd eraill yn yr ynysoedd hyn.

Bydd y gweithdy hanner diwrnod hwn yn casglu ynghyd bedwar o'r ysgolheigion mwyaf blaenllaw ym maes hyrwyddo a rheoleiddio ieithoedd swyddogol y DU ac Iwerddon.

Yn dilyn eu cyflwyniadau, bydd fforwm agored i drafod materion sy'n codi o'r themâu a gyflwynir yn y gweithdy. Darperir cyfieithu ar y pryd.

Am fwy o wybodaeth ynglŷn â chofrestru, cysylltwch â Swyddfa'r Ysgol:

cymraeg@caerdydd.ac.uk

(029)20 874843

Rhaglen y Gweithdy [20 KB]