Skip to content
Skip to navigation menu

Swyddfa'r Comisiynydd Iaith yng Nghymru,
Iwerddon a Chanada

Diben yr astudiaeth arloesol hon o weithrediad polisi ieithoedd swyddogol yng Nghymru, Iwerddon a Chymru yw gwneud cyfraniad ar sail tystiolaeth i bolisi cyhoeddus, a hynny o fewn endid wleidyddol ranbarthol sy’n graddol esblygu. Elfen greiddiol ym maes polisi iaith Iwerddon a Chanada yw rôl y Comisiynwyr Iaith fel rheoleiddwyr ac eiriolwyr ieithoedd swyddogol. Yn y meysydd polisi cyhoeddus hyn, mae hyrwyddo iaith wedi bod yn destun prif-ffrydio lle ceir pwyslais cynyddol ar weithredu polisïau a’u rheoleiddio.

Sefydlodd Llywodraeth Cymru Swyddfa Comisiynydd y Gymraeg yn 2012. Bwriad y prosiect hwn o ganlyniad yw dadansoddi tair elfen o’r datblygiad strategol hwn yng Nghymru. Yn gyntaf, bydd yn cynnig dehongliad awdurdodol o’r trafodaethau cychwynnol mewn tystiolaeth ddogfennol sydd wedi dylanwadu ar gylch gorchwyl a strwythur y Swyddfa. Yn ail, bydd yn darparu dadansoddiad manwl o flynyddoedd cyntaf gweithrediad Swyddfa Comisiynydd y Gymraeg. Yn drydydd, drwy fabwysiadu dull cymharol tuag at weithdrefnau gweithredu iaith, bydd datblygiadau yn Iwerddon a Chanada yn cael eu defnyddio fel meincnod i fesur datblygiadau yng Nghymru. Dylai’r rhain yn eu tro fod o werth i Swyddfa Comisiynydd Iaith Iwerddon a Swyddfa’r Comisiynydd Ieithoedd Swyddogol yng Nghanada sydd wedi hen ymsefydlu. Mae’r ddwy Swyddfa hyn wrthi’n ailgysylltu â’u cymunedau targed wedi cyfnod o ennill eu plwyf o fewn eu priod systemau gwleidyddol. 

Cyn hyn, mae polisïau sy’n ymdrin ag ieithoedd lleiafrifol wedi canolbwyntio ar agweddau hyrwyddo ar gynllunio ieithyddol, gan esgor ar rywfaint o lwyddiant. Mae’r UE bellach yn destun mwy byth o fecanweithiau rheoleiddio sy’n gysylltiedig â hawliau dynol ac agenda cydraddoldeb eang. Mae Comisiynwyr Iaith Canada, yn eu rôl fel Asiantwyr Seneddol, wedi cyfrannu’n sylweddol i weddnewid cydraddoldeb iaith yn faes statudol. O ganlyniad, bwriedir y bydd canlyniadau’r ymchwil hwn yn uniongyrchol berthnasol i lywodraethau’r Alban, Gogledd Iwerddon a Gweriniaeth Iwerddon ac, drwy estyniad, i nifer o gyd-destunau yn yr UE megis y Ffindir, Gwlad y Basg, Catalwnia a’r Gwledydd Baltig. Mae’r awdurdodaethau hyn yn wynebu’r dasg o benderfynu sut orau i reoleiddio a gwerthuso’r defnydd cynyddol o wasanaethau ac arferion gweithio dwyieithog yn y sector gyhoeddus, yn ogystal â pharchu hawliau iaith o blith poblogaeth sydd yn fwyfwy amryfath ac amlieithog.