Ymchwil yn yr Ysgol
Dyfarnwyd Gradd 5 i waith yr Ysgol yn asesiadau’r Llywodraeth yn 1996 a 2001 o safon ei hymchwil a chadwodd yr Ysgol ei phroffil cryf yn asesiad y Llywodraeth yn 2008.Golyga hyn ein bod ymhlith yr adrannau gorau yn ein maes.
Y mae gan y Gymraeg yng Nghaerdydd hanes disglair, ac y mae nifer o brif ysgolheigion y genedl wedi dysgu ac ymchwilio yn yr Ysgol; yn eu plith y mae’r Athro G.J. Williams, yr Athro W.J. Gruffydd, yr Athro A.O.H. Jarman, a Saunders Lewis. Mae’r Ysgol yn parhau i gyfrannu at feysydd ymchwil cydnabyddedig, megis ieithyddiaeth a llenyddiaeth, ac yn arloesi mewn meysydd mwy newydd megis cynllunio ieithyddol, theori perfformio, a theori feirniadol.
Y mae diddordebau ac arbenigedd staff yr Ysgol yn rhychwantu (i) llenyddiaeth (ganoloesol a modern) a (ii) sosioieithyddiaeth a pholisi iaith.
Ar yr ochr lenyddol, mae’r diddordebau ymchwil yn cynnwys rhyddiaith a barddoniaeth yr Oesoedd Canol, crefft y cyfarwydd, llên a chwedlau gwerin, hanesyddiaeth a llenyddiaeth, yr emyn a’r faled, astudiaethau merched, llên de ddwyrain Cymru, theori a beirniadaeth lenyddol, llenyddiaeth plant, ac amryw agweddau ar lenyddiaeth gyfoes.
Ar yr ochr ieithyddol, mae’r diddordebau ymchwil yn cwmpasu datblygiad y Gymraeg, ei thafodieithoedd yn y cyfnod canol ac yn yr iaith gyfoes, dulliau dysgu a chaffael iaith mewn cyd-destun cymharol, sosioieithyddiaeth y Gymraeg yng Nghymru a thu hwnt (e.e. yn y Wladfa ac UDA), astudiaethau cymharol ar y Wyddeleg a’r Gymraeg, a chymdeithaseg iaith. Mae’r gwaith arloesol ym maes cynllunio ieithyddol yn dylanwadu ar bolisïau Llywodraeth y Cynulliad a Bwrdd yr Iaith Gymraeg. Ar hyn o bryd rydym yn gwneud gwaith yn ymwneud â chaffael Cymraeg i Oedolion ac ar droi Bwrdd yr Iaith Gymraeg yn Swyddfa Comisiynydd Iaith. Mae gwaith cyfredol gyda Llywodraethau Iwerddon, Canada, a Slofenia, ac Academi Gwlad y Basg, a Lingua Mon yn dylanwadu’n uniongyrchol ar ddatblygiad polisi iaith ar lefel genedlaethol ac rhyngwladol.
Yn pontio rhwng iaith a llenyddiaeth mae diddordebau eraill, gan gynnwys theori a methodoleg trosi, cyfieithu a golygu, hunaniaeth ac amlddiwylliannedd, theori perfformio, ac astudiaethau ar grefydd y Cymry.
Y mae’r Ysgol yn gartref i Ganolfan Uwchefrydiau Cymry America ac i Uned Ymchwil Iaith, Polisi a Chynllunio.
