Neidio at y cynnwys
Neidio at y fwydlen fordwyo

Perfformio o’r Pulpud

Pregethu dramatig yn yr 19eg ar 20fed ganrif yng Nghymru

Christmas Evans, a Welsh Nonconformist minister, regarded as one of the greatest preachers in the history of Wales

Datblygiad o ddiddordeb yr Athro Sioned Davies mewn theori perfformio a chyfathrebu yn y cyfnod canol yw’r ymchwil ar bregethu dramatig y bedwaredd ganrif ar bymtheg a’r ugeinfed ganrif. Ym mis Rhagyfr 2004, dechreuwyd prosiect arbennig, gan dynnu ar arbenigedd staff eraill yn yr Ysgol, sef y Dr E Wyn James, Yr Athro Colin Williams, a’r Athro Peter Wynn Thomas, a lluniwyd Pwyllgor Ymgynghorol yn cynnwys yr Athro Brynley F. Roberts, Aberystwyth a’r Dr Huw Walters, Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth.

Gyda grant o Bwyllgor Ymchwil Prifysgol Caerdydd, penodwyd Llion Pryderi Roberts yn Gynorthwy-ydd Ymchwil i weithio ar y prosiect. Un o’i ddyletswyddau yw llunio cronfa wybodaeth electronig o gofiannau pregethwyr y cyfnod yn seiliedig ar gyfres o allweddeiriau:

Allweddeiriau [13 KB]

Noddfa Pulpit 1919

Mae’r gronfa ar ffurf Microsoft Access a gyhoeddir arlein ar ddiwedd y prosiect. Yn ogystal, lluniwyd llyfryddiaeth anodedig i faes y prosiect. Mae Llion hefyd yn gweithio ar draethawd PhD ar gofiannau Owen Thomas, Lerpwl. Mae’r prosiect wedi ennyn diddordeb myfyrwyr ymchwil eraill; gweler, er enghraifft, draethawd MA Adrian Brake (Prifysgol Caerdydd, 2007), ‘Edward Matthews, Ewenni a’r Cysyniad o “Berfformio o’r Pulpud”’.

Yn 2007, llwyddwyd i gael nawdd pellach i ddatblygu Prosiect Hanes Llafar.