Prosiectau Ymchwil
Mae prif brosiectau ymchwil yr Ysgol yn cynnwys:
Prosiect Swyddfa'r Comisynydd Iaith yng Nghymru, Iwerddon a Chanada
Ariennir y prosiect ymchwil sylweddol hwn gan yr ESRC. Bydd y Prosiect yn cyflawni dadansoddiad cymharol o waith y Comisiynydd Iaith o ran yr offerynnau a'r pwerau statudol ac anstatudol a arferir gan y swyddfa hon o dan ei hamrywiol ffyrdd yn awdurdodaethau gwahanol Cymru yn y DU, Iwerddon a Chanada
Mwy am Brosiect Swyddfa'r Comisiynydd Iaith yng Nghymru, Iwerddon a Chanada
Prosiect Rhyddiaith Gymraeg 1350-1425
Mae'r wefan hon yn cynnwys corff cynhwysfawr o ryddiaith Gymraeg ganoloesol, ac yn cynnig adnodd amhrisiadwy i iaith, llenyddiaeth, hanes a diwylliant y cyfnod.
Mwy am y prosiect Rhyddiaith Gymraeg 1350-1425 yma
Dysgu Cymraeg fel Ail Iaith
Mae'r rhaglen ymchwil hon yn cynnwys prosiect ymchwil sylweddol a ariennir gan Lywodraeth Cynulliad Cymru a gweithgareddau pwysig eraill a ariennir gan amryw gyrff gan gynnwys yr Academi Brydeinig a ffynonellau o Tsiena.
Mwy am y prosiect Dysgu Cymraeg fel Ail Iaith
Darlunio a Delweddu
Mae gan nifer o aelodau staff Ysgol y Gymraeg ddiddordeb ymchwil mewn agweddau ar ddarlunio cyhoeddiadau a delweddu gweledol. Adlewyrchir hyn, er enghraifft, yn y symposium, ‘English and Welsh Illustrative Practice in Mid-Nineteenth-Century Print Culture’, a gynhelir yn Ysgol y Gymraeg ar 6 Tachwedd 2008. Am fanylion pellach, gweler isod:
Rhaglen y Symposiwm [25 KB]
Gwefan Ann Griffiths
Yn 2003 lansiwyd gwefan ddwyieithog gan Brifysgol Caerdydd ar gyfer astudio bywyd a gwaith Ann Griffiths (1776-1805), un o feirdd mwyaf Cymru ac un o feirdd crefyddol mawr Ewrop.
Mwy am brosiect Gwefan Ann Griffiths
Gwefan Baledi Cymru
Roedd cynhyrchu taflenni baledi yn ei anterth yng Nghymru yn y ddeunawfed ganrif a’r bedwaredd ganrif ar bymtheg. Gan mwyaf, pamffledi wyth-ochr oedd taflenni baledi’r ddeunawfed ganrif, ond rhai pedair-ochr oeddynt yn arferol yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg.
Mwy am y prosiect Gwefan Baledi Cymru
Corff electronig o ryddiaith Gymraeg y cyfnod canol
Mae rhyddiaith y cyfnod canol wedi goroesi mewn dros bedwar ugain o lawysgrifau a luniwyd rhwng tua 1250 a 1450. Mae’r corff hwn yn cynnwys y cyfreithiau, gweithiau hanesyddol, crefyddol, meddygol, a gramadegol, chwedlau wedi eu cyfieithu o’r Lladin a’r Ffrangeg, ac, wrth gwrs, chwedlau’r Mabinogion.
Mwy am y corff electronig o ryddiaith Gymraeg y cyfnod canol
Cymdeithaseg y Gymraeg yn y Wladfa
Mae’r Athro Robert Owen Jones, ynghyd â’r cynorthwy-ydd ymchwil Walter Brooks, wedi bod yn gweithio ar ddau brosiect a ariannwyd gan The Leverhulme Trust (‘Goroesiad iaith? Y Gymraeg a’r Gymuned Gymreig yn y Wladfa’ a ‘Deinameg Adfywiad Iaith yn Chubut’) sy’n canolbwyntio ar gymdeithaseg y Gymraeg (1900 – 2000) yn Nyffryn Camwy ac yng ngodre’r Andes ym Mhatagonia.
Mwy am y prosiect Cymdeithaseg y Gymraeg yn y Wladfa
Perfformio o’r Pulpud
Datblygiad o ddiddordeb yr Athro Sioned Davies mewn theori perfformio a chyfathrebu yn y cyfnod canol yw’r ymchwil ar bregethu dramatig y bedwaredd ganrif ar bymtheg a’r ugeinfed ganrif.
Mwy am y prosiect Perfformio o'r Pulpud
Prosiect Dafydd ap Gwilym
Nod y prosiect cyffrous hwn, a noddwyd gan yr AHRC ac a arweinwyd gan yr Athro Dafydd Johnston o Brifysgol Abertawe, oedd cynhyrchu golygiad electronig o waith Dafydd ap Gwilym, bardd pwysicaf Cymru yn yr Oesoedd Canol.
Mwy am brosiect Dafydd ap Gwilym
Datganoli yng Nghymru a Llydaw
Dadansoddwyd natur datganoli yn Ffrainc ac ym Mhrydain rhwng 1999 a 2003, ac fe archwiliwyd polisïau addysg, hyfforddiant ac iaith yng Nghymru ac yn Llydaw.
Mwy am y prosiect Datganoli yng Nghymru a Llydaw
Trydanu'r Testun
Ffurfiwyd Fforwm Trydanu’r Testun ar ddiwedd 2004 gan Diana Luft, Llion Pryderi Roberts a D. Mark Smith gyda’r bwriad o hyrwyddo trafodaeth ar agweddau ar destunau electronig a rhannu ymarfer da.
Mwy am y prosiect Trydanu'r Testun
