Ymchwil
Mae diddordebau ymchwil y staff yn cynnwys y Gymraeg a’i llenyddiaeth, ac agweddau cymdeithasol a rhyngwladol ar gynllunio ieithyddol. Rhagor am Ymchwil yn yr Ysgol.
Prosiectau Ymchwil
Mae'r Ysgol ynghlwm â nifer o Brosiectau Ymchwil, gan gynnwys prosiect gwefan ar Ryddiaith Gymraeg 1350-1425, Ann Griffiths a Baledi Cymreig; a phrosiectau ar bynciau megis Cymdeithaseg y Gymraeg ym Mhatagonia (1900-2000), Perfformio o'r Pulpud, a Datganoli yng Nghymru a Llydaw.
Canolfannau ac Unedau
Mae’r Ysgol yn gartref i Ganolfan Uwchefrydiau Cymry America ac i Uned Ymchwil Iaith, Polisi a Chynllunio.

Moeseg Ymchwil
Gwybodaeth a dogfennau yn ymwneud â phrosesau’r Ysgol, gan gynnwys Datganiad Ysgol y Gymraeg ar Fonitro Moeseg Ymchwil.
Seminarau, Cynadleddau a Darlithoedd Cyhoeddus
Yma ceir rhagor o wybodaeth am ddarlithoedd cyhoeddus, cynadleddau a seminarau yr Ysgol, gan gynnwys manylion am Ddarlith Goffa G J Williams, Darlith Goffa Islwyn, a’n Seminarau Ymchwil sydd ar agor i’r cyhoedd yn ogystal â staff a myfyrwyr.

Cyhoeddiadau ar y We
Mae'r adran hon yn eich tywys at gyhoeddiadau arlein, yn ogystal â chyhoeddiadau ar ffurf PDF y medrir eu lawrlwytho.
