Archif Newyddion 2010-11
Archif Newyddion yr Ysgol o'r flwyddyn academaidd 2009-10:
Llwyddiant i’r Ysgol yn yr Eisteddfod
17/08/2011
Go brin fod llawer o barau wedi ennill Cadair, Coron a Medal Ryddiaith yr Eisteddfod rhyngddynt. Fodd bynnag, mae T James Jones a’i wraig Manon Rhys o Gaerdydd yn un ohonynt.
Ysgol Haf
28/07/2011
Mae’r Ysgol Haf Cymraeg i Oedolion, a gynhelir drwy gydol mis Gorffennaf a mis Awst, yn cynnig cyrsiau preswyl a dibreswyl ar gyfer dysgwyr y Gymraeg o bob lefel a gallu.
13/07/2011
Mae un o ddramâu cynharaf y Gymraeg wedi cael ei hadfywio er mwyn diddanu ac addysgu cynulleidfaoedd unwaith eto.
Swydd Tiwtor
22/06/2011
Mae Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Caerdydd, yn hysbysebu swydd tiwtor am gyfnod o 10 mis, i ddechrau 1 Medi 2011.
Buddsoddi yn y Cynllun Sabothol Cenedlaethol
17/06/2011
Mae Ysgol y Gymraeg yn croesawu penderfyniad Llywodraeth Cymru i fuddsoddi yn y Cynllun Sabothol Cenedlaethol ac yn edrych ymlaen yn fawr at barhau i gyfrannu at y prosiect.
Myfyriwr yn cipio’r Gadair am yr eildro
09/06/2011
Llŷr Gwyn Lewis yw Prifardd Eisteddfod Urdd Gobaith Cymru Abertawe a'r Fro 2011. Dyma'r ail flwyddyn yn olynol i Llŷr, sy’n fyfyriwr ôl-raddedig yn Ysgol y Gymraeg, ennill y gystadleuaeth.
Y Gymraeg yng Nghaerdydd ar y brig o hyd
03/05/2011
Ysgol y Gymraeg Prifysgol Caerdydd sydd ar y brig ym Mhrydain eto eleni ar gyfer Astudiaethau Celtaidd, yn ôl arolwg diweddar yn The Complete University Guide...
Ysgoloriaethau Israddedig y Brifysgol
15/04/2011
Congratulations to Osian Gruffydd from the second year and Owain Rhys Lewis from the final year who have won the University Undergraduate Scholarships 2010/11.
Y myfyrwyr yn ennill y Stomp eto eleni
05/04/2011
Cynhaliwyd y Stomp flynyddol rhwng myfyrwyr a staff Ysgol y Gymraeg ar nos Iau 31 Mawrth ym mar Nos Da yng Nghlan-yr-afon.
30/03/2011
Mae Elidir Jones o Fangor yn fyfyriwr PhD yn Ysgol y Gymraeg a’r Ysgol Saesneg Cyfathrebu ac Athroniaeth. Mae hefyd yn un o sgriptwyr y gyfres gomedi ‘Ddoe am Ddeg’ sydd newydd...
Myfyrwyr Colgate yn cwrdd â gweinidogion y Cabinet yn y Senedd
29/03/2011
Bob blwyddyn, yn ystod semester y gwanwyn, daw myfyrwyr o Brifysgol Colgate ym Madison County, Efrog Newydd draw i Brifysgol Caerdydd fel rhan o’u Rhaglen Astudio Dramor...
Casglu arian at Comic Relief
21/03/2011
Yn ystod yr wythnos yn arwain at ddiwrnod y Trwynau Cochion ar 18 Mawrth, bu Ysgol y Gymraeg yn brysur yn codi arian drwy gynnal gweithgareddau amrywiol.
11/03/2011
Ddydd Gwener 11 Mawrth cynhaliwyd Diwrnod Profiad Cymraeg blynyddol Ysgol y Gymraeg. Mynychodd dros 30 o ddisgyblion a phob un ohonynt yn paratoi ar gyfer eu harholiad TGAU.
Prifysgol Caerdydd yn agor Coleg y Graddedigion
04/02/2011
Mae Prifysgol Caerdydd wedi sefydlu coleg newydd i raddedigion a fydd yn cyfuno gwaith y pedair Ysgol i Raddedigion a gweithgarwch ymchwil ôl-raddedig y Canolfan y Graddedigion.
03/02/2011
I ddathlu diwrnod Santes Dwynwen (nawdd sant cariadon Cymru) ar 25 Ionawr gwahoddwyd Ysgol y Gymraeg i gymryd rhan yn nigwyddiad ‘Gwib Garu’ Ysgol Uwchradd Caerdydd.
10/12/2010
Ym mis Rhagfyr gwahoddwyd Ysgol y Gymraeg i gymryd rhan yng nghynhadledd flynyddol Ysgol Uwchradd Fitzalan yng Nghaerdydd.
Cynhadledd Flynyddol i Diwtoriaid Cymraeg i Oedolion
15/11/2010
Yr wythnos hon, bydd ymchwilwyr o'r prosiect ymchwil ar y Gymraeg fel ail iaith ymhlith oedolion yn cynnal gweithdy fel rhan o'r Gynhadledd Flynyddol i Diwtoriaid Cymraeg i Oedolion.
Dathlu’r Dyniaethau
12/11/2010
Mae Prifysgol Caerdydd wedi lansio cyhoeddiad newydd yn dathlu rhai o straeon y Dyniaethau yng Nghaerdydd.
Pedair Ysgoloriaeth newydd gwerth £3,000
05/11/2010
Mae’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol newydd yn cynnig ysgoloriaethau cyfrwng Cymraeg i fyfyrwyr israddedig.
Ysgoloriaethau ar gael ar gyfer Astudio Ôl-raddedig
04/11/2010
Mae Ysgol y Gymraeg yn gwahodd ceisiadau ar gyfer ysgoloriaethau ôl-raddedig 2011/12 a ariennir gan yr AHRC. Mae’r ysgoloriaethau hyn ar gael i fyfyrwyr sydd am ddilyn cwrs Meistr mewn Astudiaethau Celtaidd neu PhD mewn Ysgrifennu Creadigol...
Ysgol y Gymraeg ar Facebook a Twitter
28/10/2010
Mae Ysgol y Gymraeg yn lansio ei phresenoldeb ar y gwefannau rhwydweithio Facebook a Twitter. Rydym yn lansio grŵp arbennig ar Facebook...
Myfyrwyr yn dangos eu dawn greadigol
27/10/2010
Yng Ngŵyl Llên y Lli 2010 bydd ein myfyrwyr ar flaen y gad. Gŵyl flynyddol a drefnir gan yr Academi yw Llên y Lli sy’n cyflwyno llenyddiaeth sy’n torri tir newydd...
Dau aelod newydd o staff
11/10/2010
Mae Ysgol y Gymraeg yn croesawu dau aelod newydd o staff. Mae Dr Patrick Carlin a Miss Jennifer Marshall wedi’u penodi’n Gydymaith ac yn Gynorthwyydd Ymchwil...
Gwobr Goffa G.J. Williams
07/09/2010
Llongyfarchiadau mawr i Osian Gruffydd a Robert Mansel Lewis o'r flwyddyn gyntaf a Lisa Sheppard a Hanna Hopwood o’r drydedd flwyddyn...
