Archif Newyddion 2009-10
Archif Newyddion yr Ysgol o'r flwyddyn academaidd 2009-10:
Ysgoloriaeth Emyr Feddyg
18/08/2010
Yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Blaenau Gwent a Blaenau’r Cymoedd dyfarnwyd Ysgoloriaeth Emyr Feddyg 2010 i Gwennan Evans.
Cymharu’r sefyllfa yng Nghymru ac yng Ngwlad y Basg
20/07/2010
Rydym yn croesawu’r Dr Julia Barnes i Ysgol y Gymraeg am gyfnod o chwe mis.
17/06/2010
Llŷr Gwyn Lewis enillodd Gadair Eisteddfod yr Urdd 2010. Mae’n yn gyn-fyfyriwr Ysgol y Gymraeg, ac ar ôl treulio blwyddyn yn Rhydychen...
2 Swydd Ymchwil
04/06/2010
Gwahoddir ceisiadau am ddwy swydd ymchwil i weithio ar brosiect ymchwil i wella’r modd y trosglwyddir yr iaith Gymraeg i oedolion.
Y Gymraeg yng Nghaerdydd ar y brig ym Mhrydain
21/05/2010
Ysgol y Gymraeg Prifysgol Caerdydd sydd ar y brig ym Mhrydain ar gyfer Astudiaethau Celtaidd, yn ôl arolwg diweddar...
19/05/2010
Mae un o ddramâu cynharaf y Gymraeg, Y Gŵr Cadarn, yn cael ei hadfywio er mwyn diddanu ac addysgu cynulleidfaoedd unwaith eto.
Cyn-fyfyrwraig yn cyflwyno gwasanaeth newydd i blant Cymru
06/05/2010
Mae Anni Llŷn Parri, cyn-fyfyrwraig yn Ysgol y Gymraeg, yn un o gyflwynwyr y rhaglen newydd ‘Stwnsh’ ar Planed Plant.
Grant ar gyfer Ymchwil ar Drosglwyddo’r Gymraeg i Oedolion
29/04/2010
Mae tîm o ymchwilwyr a leolir yn Ysgol y Gymraeg wedi ennill grant o fwy na £300,000 gan Lywodraeth Cynulliad Cymru i gynnal ymchwil...
Yr Ysgolion Cymraeg mewn Cyd-destun Rhyngwladol
29/04/2010
Ar 19 Ebrill, cynhaliwyd cynhadledd ar ‘Yr Ysgolion Cymraeg mewn Cyd-destun Rhyngwladol’ dan nawdd yr Uned Ymchwil Iaith, Polisi a Chynllunio...
Llygad ar y Gyfraith
28/04/2010
Mae Seán Ó Conaill, myfyriwr PhD yn Ysgol y Gymraeg, wedi cyfrannu at lyfr newydd sy’n ymwneud â’r Gyfraith a’r Wyddeleg.
22/04/2010
Mae gornest rhwng beirdd brwd Ysgol y Gymraeg wedi tyfu’n dipyn o draddodiad erbyn hyn...
31/03/2010
Ymddangosodd un o yfyrwyr y drydedd flwyddyn ar raglen BBC Cymru Welsh Tenor ar 31 Mawrth 2010.
Drama gerdd newydd gan Ceri Elen
25/03/2010
Drama gerdd newydd sbon yw ‘Heb ei Fai...’ a ysgrifennwyd ar y cyd gan Ceri Elen ac Eilir Owen Griffiths.
Dr. Simon Brooks i gadeirio Panel Beirniaid Llyfr y Flwyddyn
23/03/2010
Mae'r Dr. Simon Brooks wedi ei benodi'n Gadeirydd Panel Beirniaid Cymraeg cystadleuaeth Llyfr y Flwyddyn ar gyfer 2011.
23/02/2010
Mae staff o Brifysgol Genedlaethol Patagonia San Juan Bosco yn Ariannin yn ymweld ag Ysgol y Gymraeg ym Mhrifysgol Caerdydd am bythefnos fel rhan o gynllun a ariennir gan Banco Santander.
Myfyrwraig yn cyrraedd rownd derfynol ‘Cân i Gymru 2010’
22/02/2010
Mae Megan Williams, myfyrwraig yn ei blwyddyn gyntaf yn Ysgol y Gymraeg, wedi cyrraedd rownd derfynol y gystadleuaeth Cân i Gymru eleni.
T. James Jones yn cael ei enwi’n Archdderwydd
22/02/2010
Y Prifardd T. James Jones, Jim Parc Nest, sy’n ddarlithydd cysylltiol yn Ysgol y Gymraeg, yw Archdderwydd etholedig newydd yr Eisteddfod Genedlaethol.
02/02/2010
Mae John Caulfield, sy’n dod yn wreiddiol o Wexford yn Iwerddon, wedi ymuno ag Ysgol y Gymraeg fel myfyriwr PhD.
Ysgol y Gymraeg yn noddi Gwobrau CBAC
12/01/2010
Eleni, mae Ysgol y Gymraeg wedi noddi dwy wobr a drefnir gan Gyd-Bwyllgor Addysg Cymru. Cyflwynir y gwobrau i’r myfyrwyr safon Uwch a enillodd y marciau uchaf yn arholiadau mis Mehefin 2009.
Cynhadledd ‘Cymraeg mewn Busnes’ Ysgol Uwchradd Fitzalan
07/01/2010
Ym mis Rhagfyr gwahoddwyd Ysgol y Gymraeg i gymryd rhan yng nghynhadledd flynyddol Ysgol Uwchradd Fitzalan yng Nghaerdydd.
Ceri Elen yn cipio gwobr Taliesin
22/12/2009
Llongyfarchiadau mawr i Ceri Elen, tiwtor ar y modiwlau Sgriptio, Ysgrifennu Creadigol a Drama yn Ysgol y Gymraeg, ar ennill cystadleuaeth monolog y cylchgrawn llenyddol Taliesin.
Casglu arian i Blant mewn Angen
26/11/2009
Yr wythnos ddiwethaf bu Ysgol y Gymraeg yn brysur yn casglu arian ar gyfer Plant mewn Angen 2009. Gofynnwyd i’r myfyrwyr edrych ar luniau o aelodau’r staff yn blant...
Angharad George yn cwblhau PhD
16/11/2009
Llongyfarchiadau mawr i Angharad George ar gwblhau ei thraethawd PhD yn llwyddiannus.
Urddo'r Athro Sioned Davies
06/11/2009
Fore Sadwrn 24 Hydref, urddwyd yr Athro Sioned Davies yn aelod o Orsedd y Beirdd, Eisteddfod Powys, am ei chyfraniad i lenyddiaeth a diwylliant Cymru.
Cymraeg ag acen Sbaenaidd
19/10/2009
Am wythnos ym mis Hydref bydd Walter Brooks, cynorthwyydd ymchwil a thiwtor iaith yn Ysgol y Gymraeg, yn mynychu cynhadledd yr American Folklore Society yn Boise, Idaho.
07/10/2009
Ym mis Medi 2009, daeth Dr Sarah Campbell atom ar ysgoloriaeth Fulbright o'r Unol Daleithiau. Bydd hi'n cynnal seminar yn yr Ysgol ar 13 Hydref...
Ysgoloriaeth Emyr Feddyg
16/09/2009
Dyfarnwyd Ysgoloriaeth Emyr Feddyg 2009 i Llion Pryderi Roberts, Tiwtor Iaith yn Ysgol y Gymraeg, am bennod gyntaf ei nofel Llewych.
Gwobr Goffa G.J Williams
15/09/2009
Llongyfarchiadau mawr i Ffion Pritchard a Caroline McManus o'r flwyddyn gyntaf ac Elain Llwyd a Llŷr Gwyn Lewis o’r drydedd...
