Archif Newyddion 2007-08
Archif Newyddion yr Ysgol o'r flwyddyn academaidd 2007-08:
11/08/2008
Llongyfarchiadau gwresog i'n myfyrwyr a fu'n llwyddiannus dros ben yn yr Eisteddfod eleni...
08/08/2008
Cynhaliwyd aduniad i gyn-fyfyrwyr yr Ysgol eleni i ddathlu pen-blwydd y Brifysgol a'r Ysgol yn 125...
Lansio cyfrol newydd sbon
07/08/2008
Cafwyd lansiad llwyddiannus o'r gyfrol gyntaf yn y gyfres "Gwerin Gwlad" ar Faes yr Eisteddfod eleni...
29/09/2008
Agorwyd y Gynhadledd Faledi Ryngwladol eleni gan y Prif Weinidog Rhodri Morgan.
Urddo'r Dr E. Wyn James â'r Wisg Wen eleni
26/06/2008
Bydd y Dr E. Wyn James yn cael ei urddo â'r wisg wen yn Eisteddfod Caerdydd a'r Cylch eleni.
Comisiynwyr Iaith
25/05/2008
Mae'r Athro Colin Williams wedi ennill grant ymchwil o £6337 gan yr Academi Brydeinig i archwilio systemau rheoleiddio iaith yn yr UDA, Canada ac Iwerddon
Eirian Jones yn ennill MPhil
24/06/2008
Llongyfarchiadau mawr i Eirian Jones ar lwyddo yn ei MPhil. Teitl ei thraethawd oedd 'B. T. Hopkins - Bardd Gwlad?'.
Huw Foulkes yn ennill y Fedal Ddrama
28/05/2008
Llongyfarchiadau mawr i Huw Foulkes ar ennill y Fedal Ddrama yn Eisteddfod yr Urdd.
Cath Pugh yn ennill MA mewn Astudiaethau Gwerin
27/05/2008
Llongyfarchiadau mawr i Cath Pugh, Gweinyddydd yr Ysgol, ar ennill MA mewn Astudiaethau Gwerin, gyda chlod.
24/04/2008
Dyfarnwyd Ysgoloriaethau Mynediad Israddedig Ysgol y Gymraeg gwerth £400 yr un ar gyfer 2008/09 i'r myfyrwyr iaith gyntaf canlynol...
Cyhoeddi Clawr Meddal o'r Mabinogion
17/04/2008
Cyhoeddwyd fersiwn clawr meddal o gyfieithiad yr Athro Sioned Davies o chwedlau'r Mabinogion yn y gyfres World's Classics (Gwasg Prifysgol Rhydychen).
03/03/2008
I ddathlu dydd Gŵyl Ddewi eleni fe gafwyd noson hwyliog o farddoni, cynganeddu a miri rhwng staff a myfyrwyr yr Ysgol mewn Stomp arbennig yn Undeb y Myfyrwyr.
Llwyddiant yn yr Eisteddfod Rhyng-Gol
16/02/2008
Llongyfarchiadau mawr i'n myfyrwyr - cawsant lwyddiant ysgubol yn y cystadlaethau Ysgrifennu Creadigol yn yr Eisteddfod a gynhaliwyd yng Ngholeg y Drindod, Caerfyrddin.
Dr Juliette Wood yn cyfrannu at raglen Melvyn Bragg ar BBC Radio 4 'In Our Time'
17/01/2008
Mae'r Dr Juliette Wood, un o Ddarlithwyr Cysylltiol yr Ysgol, wedi bod yn siarad am chwedloniaeth y Brenin Bysgotwr ar raglen radio Melvyn Bragg.
14/12/2007
Llongyfarchiadau mawr i Llyr Lewis (Blwyddyn 2) a Huw Foulkes (Blwyddyn 3). Dyfarnwyd iddynt ysgoloriaethau o £400 yr un am berfformiad academaidd arbennig yn sesiwn 2006/07.
10/12/2007
Cynhaliwyd derbyniad i ddathlu cynnyrch diweddaraf y staff, yng nghwmni Rhodri Glyn Thomas AC, Gweinidog dros Dreftadaeth.
01/10/2007
Llongyfarchiadau i Hanna Hopwood, Lisa Williams, Catrin Fflur Jones a Caryl Pritchard o'r flwyddyn gyntaf ar ennill Ysgoloriaethau Prifysgol Caerdydd 2007.
