Archif Newyddion 2005-06
Archif Newyddion yr Ysgol o'r flwyddyn academaidd 2005-06:
18/07/2006
Symudodd Chris Cope o St Paul, Minneapolis, gyda’i wraig Rachel i ddechrau gradd tair-mlynedd yn y Gymraeg ar ôl iddo ddysgu’r iaith arlein.
31/05/2006
Llongyfarchiadau mawr i Ceri Elen Morris, myfyrwraig yn ei blwyddyn olaf yn astudio Cymraeg a Llenyddiaeth Saesneg, ar ennill Medal Ddrama Eisteddfod yr Urdd 2006.
19/05/2006
Derbyniodd Llio Penri, sy'n swyddog cysylltiadau cyhoeddus gyda Chymdeithas Adeiladu'r Principality, wobr 'Busnes Dwyieithog y Flwyddyn' ar ran y cwmni yn seremoni Gwobrwyo Busnesau'r Western Mail ym Mai 2006.
22/04/2006
Dewiswyd Lowri Jones, sy'n aelod o Glwb Ffermwyr Ifanc Caerwedros, i gynrychioli Cymru yng Nghyfarfod Blynyddol Clybiau Ffermwyr Ifanc Ulster ym mis Ebrill 2006.
04/04/2006
Llongyfarchiadau mawr i Maite Puigdevall Serralvo ar ennill gradd PhD am draethawd ar 'The Challenge of Language Planning in the Private Sector: Welsh and Catalan Perspectives'.
04/04/2006
Nos Iau, 15 Rhagfyr cynhaliwyd derbyniad yn yr Ysgol i ddathlu cyhoeddi cyfrol newydd Dr Siwan Rosser: Y Ferch ym Myd y Faled: Delweddau o'r Ferch ym Maledi'r Ddeunawfed Ganrif (Gwasg Prifysgol Cymru).
07/10/2005
Llongyfarchiadau mawr i Gruffydd Lewis am ennill ei radd MPhil . Teitl ei draethawd yw 'Astudiaeth ar ysgolion Griffith Jones yng nghyd-destun addysg Gymreig oddi ar y Diwygiad Protestannaidd'.
