Neidio at y cynnwys
Neidio at y fwydlen fordwyo

Gweithio ym Mecsico

16/06/2014

 

Derbyniodd Dr Patrick Carlin wahoddiad yn ddiweddar, ar ran y tim ymchwil ar y prosiect ESRC (Yr Athro Colin H. Williams a'r Athro Diarmait Mac Giolla Chriost), i roi darlith a chynnal gweithdy fel rhan o gynhadledd ryngwladol fawr yn Mexico. Mynychwyd y gynhadledd gan dros 2,000 o bobl. Cynhaliwyd y gweithdy yn Sbaeneg gan Patrick Carlin. Hefyd, rhoddodd Patrick Carlin gyfweliad radio yn Sbaeneg yn ystod y gynhadledd.