Neidio at y cynnwys
Neidio at y fwydlen fordwyo

Lansio Dan y Wenallt

09/04/2014

Fel rhan o ddathliadau camlwyddiant Dylan Thomas, lansiwyd cyfrol newydd T. James Jones ym Mhrifysgol Caerdydd.


Mae ‘Dan y Wenallt’ yn addasiad Cymraeg newydd o addasiad Cymraeg o ddrama radio Dylan Thomas, Under Milk Wood.


Trefnwyd y lansiad ar y cyd rhwng Ysgol y Gymraeg a Gwasg Gomer ddydd Iau 20 Mawrth yn Oriel Viriamu Jones, Prifysgol Caerdydd. Cafwyd gair gan yr Athro Sioned Davies, yr Athro Damian Walford Davies (yr Ysgol Saesneg, Cyfathrebu ac Athroniaeth) a T. James Jones ei hun. Roedd y noson hefyd yn gyfle i glywed yr actores Sharon Morgan (a oedd yn rhan o gast gwreiddiol y ddrama Gymraeg) a Jim yn perfformio rhannau o’r addasiad newydd.