Walter Brooks yn cwblhau PhD
28/02/2013
Llongyfarchiadau i Walter Ariel Brooks sydd wedi cwblhau ei draethawd PhD yn llwyddiannus. Y Wladfa Gymreig yn yr Ariannin yw ei brif faes ymchwil. Teitl y traethawd yw ‘Welsh Print Culture in Y Wladfa: the role of ethnic newspapers in Welsh Patagonia 1868-1933’.
Patagoniwr yw Walter sydd â gradd mewn cyfieithu Saesneg-Sbaeneg. Mae’n gweithio fel tiwtor yn Ysgol y Gymraeg ac yn cydlynu modiwl o’r enw ‘Hunaniaeth a Diwylliant y Wladfa’.
‘Rwyf yn hynod o ddiolchgar i fy ngoruwchwyliwyr, Dr E. Wyn James a’r Athro Bill Jones. Roedd eu cefnogaeth hwy yn allweddol i fy llwyddiant. Rwyf yn gobeithio y bydd yr astudiaeth yn helpu i gryfhau’r berthynas rhwng Cymru a Phatagonia’, meddai.
Edrychwn ymlaen at ddathlu 150 o flynyddoedd ers sefydliad y Wladfa gydag ef yn 2015.
