Llwyddiant triphlyg i fyfyrwraig PhD
10/04/2013
Mae Ceri Elen Morris, myfyrwraig sy’n dilyn PhD ysgrifennu creadigol yn yr Ysgol, wedi cael Gwanwyn gogoneddus. Mae ei gwaith creadigol wedi derbyn sylw a chlod ar draws Prydain ac, yn ddiweddar, wedi arwain at dri llwyddiant aruthrol.
1. Rhestr Fer Gwobr Tir na n-Og
Mae nofel gyntaf Ceri Elen Pentre Saith ar restr fer sector uwchradd Gwobr Tir na n-Og . Cain yw prif gymeriad y nofel hon, ac mae'r 'saith' yn y teitl yn cyfeirio at Saith Rhyfeddod Naturiol y Byd a Saith Oes Galar. Mae’r Wobr Tir na n-Og yn gwobrwyo'r llyfrau gorau i blant a phobl ifanc. Mae hefyd yn gyfrwng i hybu prynu a darllen llyfrau da.
I weld y rhestr fer yn cael ei darlledu yn fyw cliciwch ar y ddolen hon.
2. Darllediad Y Bont ar S4C
Darlledwyd y ddrama Y Bont, a gafodd ei hysgrifennu ar y cyd gan Ceri Elen, Catrin Dafydd, Angharad Tomos ac Arwel Gruffydd, ar S4C ddydd Sul diwethaf.
Mae’r ddrama yn dathlu hanner can mlwyddiant y brotest uniongyrchol ddi-drais gyntaf dros hawliau cyfartal yr iaith Gymraeg yn Aberystwyth.
Perfformiad promenâd trwy strydoedd y dref yw’r ddrama a rhoddodd y darllediad derfyn ar wythnos brotest S4C.
3. Enwebiad gwobr ‘Off West End’
Mae Ceri Elen yn rhan o gynhyrchiad llwyfan y Chwedlau Grimm sydd wedi cael ei enwebu ar gyfer gwobr 'Off West End’ yn y categori Cynhyrchiad i Bobl Ifanc. Mae’r wobr ‘Off West End’ yn cydnabod ac yn dathlu rhagoriaeth, blaengarwch a dyfeisgarwch theatrau annibynnol Llundain.
Cynhyrchiad oedd hwn yn dramateiddio tair o straeon mwyaf adnabyddus y brodyr Grimm – Hansel and Gretel, Ashputtel (Cinderella), a Snow White. Bu'r cynhyrchiad ar daith led-led Prydain.
‘Yr oedd pedwar ohonom yn y cast; ac yr oeddem weithiau yn perfformio fel storïwyr, a thro arall fel cymeriadau yn y straeon – profiad arbennig!’, meddai.
Am fwy o wybodaeth, dilynwch y linc hwn.
Law yn llaw â’i phrosiectau creadigol allgyrsiol, mae Ceri Elen wrthi yn astudio PhD (rhan-amser) mewn ysgrifennu creadigol yma yn Ysgol y Gymraeg gan ganolbwyntio ar y berthynas rhwng iaith a drama. Mae wrthi yn cael profiad gwaith gyda’r cyfarwyddwr Ed Thomas. Cyn dechrau’r PhD cwblhaodd radd israddedig yma yn yr Ysgol a dilynodd yr MA (llwybr creadigol).
Am ragor o wybodaeth am ein cyrsiau MA/MPhil a PhD cliciwch yma.
