Rhestr fer Gwobrau Cyfoethogi Bywyd Myfyrwyr
12/04/2013

Llongyfarchiadau i Dr Angharad Naylor, darlithydd sydd yn gyfrifol am lwybr ail iaith Ysgol y Gymraeg, sydd wedi llwyddo i gyrraedd rhestr fer y Gwobrau Cyfoethogi Bywyd Myfyrwyr fel ‘Aelod staff mwyaf cynorthwyol’. Cafodd nifer o aelodau o staff yr Ysgol eu henwebu yn cynnwys Dr Dylan Foster Evans, Dr Llion Pryderi Roberts a Dr Jeremy Evas mewn amrywiaeth o gategorïau.
Mae’r Gwobrau Cyfoethogi Bywyd Myfyrwyr yn gyfle i fyfyrwyr roi cydnabyddiaeth ffurfiol i staff sydd wedi cyfrannu at eu cyflawniadau academaidd yn ogystal â’u profiad cyffredinol fel myfyrwyr. Eleni, derbyniwyd dros 200 o enwebiadau gan fyfyrwyr a oedd yn awyddus i ddiolch i aelodau staff am eu cyfraniadau.
Bydd Dr Angharad Naylor, a’r aelodau staff eraill sydd wedi cyrraedd y rhestr fer, yn mynychu’r seremoni wobrwyo ar 9 Mai a bydd yr Is-Ganghellor yno i gyflwyno’r gwobrau.
