Diwrnod Adolygu Ail Iaith
31/01/2013
Cynhaliwyd diwrnod adolygu i ddisgyblion ail iaith yr wythnos ddiwethaf yn yr Ysgol. Ddydd Gwener 25 Ionawr croesawyd bron i 150 o ddisgyblion chweched dosbarth o ysgolion lleol i’r gynhadledd. Treulion nhw’r diwrnod yn mynychu sesiynau iaith a llenyddiaeth a ddarparwyd gan ddarlithwyr yr Ysgol i’w helpu i lwyddo yn yr arholiadau uwch-gyfrannol a safon uwch.
Roedd yn gyfle unigryw i’r disgyblion ehangu eu dealltwriaeth o’r iaith a’i llenyddiaeth gan brofi bywyd myfyriwr a chael blas ar ddarlithoedd y Brifysgol. Dwedodd un disgybl bl.12 o Ysgol Llantarnam 'roedd heddiw mor ddefnyddiol, ac ar ôl ymweld â'r brifysgol heddiw dwi wir eisiau dod nol er mwyn astudio Cymraeg a phwnc arall'.
Trefnwyd y diwrnod gan Dr Angharad Naylor, darlithydd a gyflogir gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i oruchwylio darpariaeth ail-iaith yn yr Ysgol. ‘Roedd hi’n braf gweld cymaint o ddisgyblion chweched dosbarth a oedd yn frwdfrydig iawn dros ddefnyddio’r iaith Gymraeg’, meddai wedi i’r diwrnod orffen.

