Cymrodwyr Newydd yng Nghymdeithas Ddysgedig Cymru
02/05/2013
Llongyfarchiadau i’r Athro Colin H Williams a Dr E Wyn James sydd wedi eu hethol yn aelodau o Gymdeithas Ddysgedig Cymru eleni.
Mae Cymrodoriaeth y Gymdeithas Ddysgedig ar gael i unigolion o Gymru sydd â hanes clir o ragoriaeth a chyflawniad mewn unrhyw un o'r disgyblaethau academaidd ac sydd wedi gwneud cyfraniad arbennig i fyd dysg. 
Athro ymchwil yn Ysgol y Gymraeg yw Colin Williams sydd yn arbenigo mewn cynllunio a pholisi ieithyddol.
Darllenydd yn yr Ysgol yw E Wyn James, ac y mae’n gyd-Gyfarwyddwr Canolfan Uwchefrydiau Cymry America.
