Neidio at y cynnwys
Neidio at y fwydlen fordwyo

Buddugoliaeth i gyn-fyfyriwr yn is-etholiad Ynys Môn

02/08/2013

 

Mae Rhun ap Iorwerth, un o gynfyfyrwyr Ysgol y Gymraeg, wedi ennill sedd Ynys Môn mewn is-etholiad i'r Cynulliad.  Enillodd yr ymgeisydd Plaid Cymru fwyafrif o fwy na 42% neu 9166 o bleidleisiau.

Graddiodd Rhun gyda BA cydanrhydedd yn y Gymraeg a Gwleidyddiaeth cyn dechrau gyrfa lwyddiannus ym myd newyddiaduraeth.

Dymunwn bob hwyl iddo yn ei ddyfodol fel gwleidydd.