Neidio at y cynnwys
Neidio at y fwydlen fordwyo

Talu teyrnged i ‘Tynged yr Iaith’

13/02/2012

Er mwyn nodi’r hanner can mlynedd ers i Saunders Lewis draddodi  ei ddarlith 'Tynged yr Iaith', bydd Radio Cymru yn darlledu 5 darlith fer gan unigolion amlwg yng Nghymru.

Darlith radio a ddarlledwyd gan y BBC ar 13 Chwefror 1962 oedd ‘Tynged yr Iaith’, ac un o'r darllediadau pwysicaf yn hanes Cymru. Ynddi dywedodd Saunders "Nid dim llai na chwyldro yw adfer yr iaith Gymraeg yng Nghymru. Trwy ddulliau chwyldro yn unig y mae llwyddo". Dyma’r ddarlith sbardunodd sefydlu Cymdeithas yr Iaith Gymraeg.

Bu Saunders Lewis ei hun yn ddarlithydd yn Ysgol y Gymraeg, Caerdydd (neu Adran y Gymraeg fel yr oedd bryd hynny). Bydd dau arall sy’n gysylltiedig â’r Ysgol ymhlith y rhai a fydd yn traddodi darlith er mwyn nodi'r achlysur a chynnig gogwydd gwahanol ar y Gymraeg yn 2012, sef Rhys Iorwerth, Prifardd Eisteddfod Wrecsam 2011 a chyn-fyfyriwr Ysgol y Gymraeg, a’r Dr Simon Brooks, darlithydd yn yr Ysgol.

Darlledir darlithoedd Rhys a Simon ar BBC Radio Cymru am hanner dydd ddydd Mawrth 14 Chwefror 2012 a dydd Iau 16 Chwefror 2012.