Casglu arian at Plant Mewn Angen
22/11/2012
Yn ystod yr wythnos yn arwain at ddiwrnod Plant Mewn Angen ar 16 Tachwedd, bu Ysgol y Gymraeg yn brysur yn codi arian drwy gynnal gweithgareddau amrywiol.
Trefnwyd y digwyddiadau gan Gymdeithas Iolo (cymdeithas sy’n trefnu digwyddiadau cymdeithasol ac elusennol ar gyfer myfyrwyr a staff yr Ysgol). Cafwyd nifer o ddigwyddiadau yn ystod yr wythnos gan gynnwys pos ‘Swyddfa Pwy?’, stondin gacennau, raffl a diwrnod ‘Gwisg Wirion’ i’r staff lle gwelwyd yr Athro Sioned Davies fel Minnie Mouse a Dr E. Wyn James mewn gwisg dyn eira!
Yn ogystal â hyn oll, gweithiodd y myfyrwyr a’r staff gyda’i gilydd i lenwi bocsys ar gyfer yr elusen ‘Operation Christmas Child’, sy’n anfon anrhegion Nadolig at blant anghenus o amgylch y byd.
Ar ddiwedd wythnos brysur o godi arian brwd casglwyd £300.63 i Plant Mewn Angen.
Diolch i bawb!


