Gwefan y Cynllun Sabothol ar ei newydd wedd
13/02/2012
Mae gwefan newydd cwrs uwch y Cynllun Sabothol ar gyfer Hyfforddiant Iaith Gymraeg bellach yn fyw.
Mae’r Cynllun Sabothol yn gwrs iaith rhad ac am ddim ar gyfer cynorthwywyr dosbarth, athrawon, hyfforddwyr a darlithwyr sydd eisiau gwella eu Cymraeg a magu hyder yn yr iaith. Nod y cwrs ydy gloywi iaith ymarferwyr addysg er mwyn iddyn nhw deimlo’n hyderus i addysgu a gweinyddu trwy gyfrwng y Gymraeg. Mae’r cwrs uwch ar gyfer siaradwyr iaith gyntaf neu ddysgwyr sy’n gallu siarad Cymraeg yn eithaf rhugl ac sy’n gweithio yn y sector cynradd, uwchradd, addysg bellach neu addysg uwch.
Cliciwch yma i weld y wefan newydd sbon!
