Fforwm Amlddiwylliannedd yng Nghymru
09/10/2012
Bydd grŵp o fyfyrwyr PhD o Ysgol y Gymraeg yn cynnal fforwm undydd ddydd Gwener 12 Hydref 2012 er mwyn trafod amlddiwylliannedd yng Nghymru. Ariennir y digwyddiad gan Goleg Graddedigion Prifysgol Caerdydd. Nod y fforwm hwn yw ceisio ateb y cwestiynau canlynol:
- Beth mae amlddiwylliannedd yn ei olygu yng Nghymru?
- Sut y gallwn ffurfio neu gryfhau cysylltiadau rhwng academyddion ac ymarferwyr sy’n gweithio ym meysydd amlddiwylliannedd ac amrywiaeth?
- Pa rôl y mae ymarferwyr yn ystyried y gall/y dylai academyddion ei chwarae mewn gwaith ym meysydd amlddiwylliannedd ac amrywiaeth?
- Beth yw dyfodol amlddiwylliannedd fel cysyniad er mwyn delio ag amrywiaeth yn yr 21ain ganrif?
- Pa berthnasau y gallwn eu datblygu ar gyfer y dyfodol drwy fynd i’r afael â materion megis amlddiwylliannedd, amrywiaeth, perthyn a chydlyniad?
Bydd y digwyddiad yn dod ag academyddion, gweithwyr y trydydd sector a’r sector cyhoeddus ynghyd i drafod y pwyntiau hyn. Bydd y siaradwyr gwadd yn cynnwys Vaughan Gething (Aelod Cynulliad), sefydliadau diwylliannol o wahanol ardaloedd ledled Cymru, a phanel o academyddion o Brifysgol Caerdydd. Y gobaith yw sefydlu rhwydwaith o gysylltiadau yn y maes yn sgil y fforwm hwn.
Cynhelir y digwyddiad yn Siambr y Cyngor, Prif Adeilad, Prifysgol Caerdydd rhwng 10am a 4pm
Darperir cinio am ddim. Cysylltwch â Geraint Whittaker (whittakergr@cardiff.ac.uk) er mwyn cadw lle.
