Book Drum yn hyrwyddo The Mabinogion
13/02/2012
Mae cyfrol yr Athro Sioned Davies The Mabinogion wedi cyrraedd y wefan Book Drum.
Gwefan sy’n cynnwys gwybodaeth am lyfrau yw Book Drum. Nod y wefan yw creu cronfa amlgyfrwng sydd yn gydymaith i ddarllenwyr. Yn ogystal â chynnig adolygiadau o lyfrau mae’n gartref i ‘glwb llyfrau’ ac yn cynnwys map llenyddol rhyngweithiol. Cynlluniwyd y wefan gan ddefnyddio egwyddorion Wikipedia lle gall unrhyw un gyfrannu ati, gan ychwanegu at waith pobl eraill neu fireinio’r gwaith hwnnw.
Mae gan bob cyfrol ‘broffil’ arbennig sy’n cynnig crynodeb o’r gyfrol a rhesymau dros ei darllen. Ceir gwybodaeth hefyd am awdur a chefndir y gyfrol. Awdur proffil The Mabinogion yw Sian Cleaver. Daw Sian o Gastell-nedd yn wreiddiol ond mae hi bellach yn byw yng Ngogledd Cymru ac yn dysgu Cymraeg.
Dywed Sian am y gyfrol “Prepare to be intrigued by the fantastic figures of Celtic mythology: King Arthur and his men; Bendigeidfran the giant; Gwydion the shapeshifter; Blodeuwedd, the woman made entirely of flowers; and many, many more...”
Cliciwch yma i weld proffil The Mabinogion ar Book Drum.
