Neidio at y cynnwys
Neidio at y fwydlen fordwyo

Y Wyddeleg yng Nghaerdydd

24/10/2011


Mae un o fyfyrwyr ôl-raddedig Ysgol y Gymraeg wedi ymddangos ar raglen deledu Wyddeleg yn ddiweddar. Mae John Caulfield, sy’n dod yn wreiddiol o Wexford yn Iwerddon, yn fyfyriwr PhD yn yr Ysgol. Mae ei PhD (a ariennir gan Lywodraeth Iwerddon) yn ymwneud â chynllunio ieithyddol a Sosioieithyddiaeth yr iaith Wyddeleg . John hefyd sydd yn gyfrifol am ddysgu’r modiwl ‘Cyflwyniad i’r Wyddeleg 1 a 2‘ yn yr Ysgol.


Ymddangosodd John ar y rhaglen 'Thar Sáile' a ddarlledwyd ar sianel TG4 ym mis Hydref eleni. Rhaglen deithio yw ‘Thar Sáile’ sy’n ymweld â gwahanol ddinasoedd o amgylch y byd gan gwrdd â Gwyddelod sy’n byw yno ac sy’n siarad Gwyddeleg. Yn y bennod am Gaerdydd clywn John yn sôn am y ddinas ac am y modd y mae’n defnyddio’r Wyddeleg o ddydd i ddydd. Dangoswyd un o ddosbarthiadau ‘Cyflwyniad i’r Wyddeleg ‘ John yn yr Ysgol gyda’r myfyrwyr brwd yn ymarfer eu Gwyddeleg llafar.


Os hoffech weld y rhaglen hon dilynwch y ddolen ganlynol:

http://www.tg4.ie/ie/tg4-player/tg4-player.html .


 

John Caulfield