Aelod newydd o staff
28/09/2011
Mae Ysgol y Gymraeg yn croesawu aelod newydd o staff. Mae Dr Rhiannon Marks wedi’i phenodi’n diwtor yn yr Ysgol. Bydd Rhiannon yn dysgu ar y Cynllun Sabothol ar gyfer Hyfforddiant Iaith Gymraeg — cwrs iaith ar gyfer athrawon, darlithwyr, hyfforddwyr a chynorthwywyr dosbarth sydd am wella eu Cymraeg a magu hyder yn yr iaith. Bydd Rhiannon hefyd yn cyfrannu at nifer o fodiwlau israddedig yn yr Ysgol.
Daw Rhiannon yn wreiddiol o Gil-y-Cwm yn Sir Gaerfyrddin. Graddiodd yn y Gymraeg ym Mhrifysgol Aberystwyth cyn cwblhau cwrs Meistr mewn Astudiaethau Menywod yng Ngholeg Iesu, Rhydychen. Dychwelodd i Aberystwyth i ysgrifennu traethawd PhD ar waith Menna Elfyn gan arbrofi â ffurf ‘beirniadaeth epistolaidd’. Ymddiddora Rhiannon mewn llenyddiaeth gyfoes, theori a beirniadaeth lenyddol, a chyfieithu llenyddol, a phan fydd cyfle mae hi’n hoff o ysgrifennu’n greadigol. Enillodd goron Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd 2007, ac mae hi newydd gael ei phenodi’n gydolygydd cylchgrawn Tu Chwith.

