Neidio at y cynnwys
Neidio at y fwydlen fordwyo

Lansio’r Cynllun Sabothol

21/10/2011

Nos Iau 13 Hydref 2011 lansiodd Ysgol y Gymraeg ei chyfraniad i’r Cynllun Sabothol Iaith Gymraeg yn Neuadd Aberdâr, Corbett Road, lle bu’r Gweinidog dros Addysg, Leighton Andrews, yn rhoi anerchiad pwysig.
Mae’r Cynllun Sabothol yn gwrs a gynlluniwyd ar gyfer athrawon, darlithwyr a chynorthwywyr dosbarth sydd eisiau codi safon eu Cymraeg a magu hyder o ran defnyddio’r iaith.


Y gobaith yw y bydd y cynllun £6 miliwn yn cynyddu’r cyflenwad o ymarferwyr a all addysgu a hyfforddi drwy gyfrwng y Gymraeg mewn addysg statudol ac ôl-16.


Cyfrannodd yr Ysgol i’r cynllun peilot llwyddiannus a ddechreuodd yn 2005, gyda thîm o diwtoriaid iaith profiadol yn darparu cyrsiau ar gyfer athrawon ysgolion uwchradd a chynradd a darlithwyr mewn colegau Addysg Bellach.
Bydd rownd nesaf y cyllid yn caniatáu i’r rhaglen gael ei chyflwyno’n raddol i leoliadau eraill, gyda 648 o bobl ychwanegol yn elwa ar ystod o gyrsiau ar wahanol lefelau a dulliau dysgu newydd. Bydd yr Ysgol yn darparu cyrsiau lefel Sylfaen a lefel Mynediad yng Nghaerdydd a Bro Morgannwg, a chyrsiau lefel Uwch yng Nghaerdydd a rhanbarth y de ddwyrain.


Bellach mae’r cwrs lefel Uwch a ddarperir gan Ysgol y Gymraeg yn gymhwyster a achredir gan y Brifysgol, a chaiff y cyrsiau lefel Mynediad a Sylfaen eu hachredu gan CBAC.


Gall y rhai sy’n siaradwyr Cymraeg rhugl ac sy’n bwriadu addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg, yn ogystal ag athrawon cynradd sydd eisiau gwella eu sgiliau iaith, gymryd rhan yn y cwrs, ynghyd â chynorthwywyr dosbarth sydd angen y sgiliau i gefnogi eu cydweithwyr. Mae’r ddarpariaeth am ddim – mae Llywodraeth Cymru’n talu am gostau cyflenwi yn ogystal â’r holl gostau teithio a llety.


Roedd y lansiad hefyd yn gyfle i ddathlu llwyddiannau’r gorffennol. Bu’r Gweinidog hefyd yn cyflwyno tystysgrifau i ymarferwyr sydd wedi cymhwyso gyda Phrifysgol Caerdydd dros y ddwy flynedd ddiwethaf.

 

Y Cynllun Sabothol